Cofnodion:
Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r Aelodau ar
sefydlogi, y cyfnod rhwng ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19.
Roedd y strategaeth yn disgrifio fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi
ymagwedd gyson a chydlynus wrth i'r cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y
strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu ar gyfer
sylwadau cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ar 30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo.
Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y
strategaeth, gan esbonio ei bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys
edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng,
edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffyrdd o gamau
gweithredu.
Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn
ystod y cyfnod ymateb, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o gamau allweddol
wedi'u cymryd, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr
wythnos fel y gellid anfon canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac
Iechyd Cyhoeddus Cymru pan oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y cyngor wedi cau
gwasanaethau i helpu i leihau ymlediad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd
rhai gwasanaethau hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er
enghraifft y gwasanaeth sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y
strategaeth hefyd yn nodi'r newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth
a llywodraethu, gan gynnwys defnyddio'r ddarpariaeth Gweithredu Brys a nodir yn
y Cyfansoddiad, i sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud
yn ystod y cyfnod ymateb.
Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, a oedd
yn cynnwys edrych ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod
sefydlogi, sef y cam cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u nodi
fel ffocws wrth i'r cyngor symud ymlaen:
1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu
2. Sut mae gwasanaethau a swyddogaethau'r cyngor yn ymdopi
3. Deall ac ymateb i'r effaith y mae'r feirws
wedi'i chael ar ddinasyddion, sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port
Talbot
Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r
newidiadau y bu'n ofynnol eu gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn
ogystal â rhai o'r risgiau a'r materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth
i'r cyngor fynd ati i roi'r strategaeth ar waith.
Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffyrdd
o gamau gweithredu a oedd wedi'i fframio ar sail system goleuadau traffig, a
oedd yn nodi sut i symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system
goleuadau traffig, i sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto.
Nodwyd bod nifer o wasanaethau ar y map ffyrdd yn dod o fewn cylch gwaith
Pwyllgor Craffu'r Strydlun a Pheirianneg gan gynnwys trafnidiaeth, ffioedd
parcio, gorfodi parcio a sbwriel ac ailgylchu.
Gofynnodd yr Aelodau am ba hyd y byddai Ysbyty Maes
Llandarcy yn ei le, ac atebwyd nad oedd Swyddogion yn gallu rhoi dyddiad
penodol ar hyn o bryd, gan y byddent yn ymateb i Bolisi Llywodraeth Cymru pan
gaiff ei gyhoeddi. Fodd bynnag, roedd y contract cychwynnol a oedd gan y Bwrdd
Iechyd â pherchennog y tir yn rhedeg hyd at fis Medi gyda darpariaethau ar
waith i ymestyn hyd y contract pe bai angen. Soniwyd bod yr ysbyty'n gallu
gweithredu, ond nad oedd wedi gweithredu hyd yma.
Gofynnwyd i swyddogion pam y tynnwyd y Cydlynwyr
Ardal Leol (CALl) o'u rolau yn y Gwasanaeth 'Safe and Well', ac i ble yr
aethant yn dilyn hyn. Nodwyd bod y CALl wedi mynd yn ôl i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol i helpu'r gyfarwyddiaeth i ymateb i'r pwysau cynyddol yno. O ran y
rolau a gyflawnwyd gan CALl pan aethant yn ôl i'r gwasanaeth, cytunodd
Swyddogion y byddent yn holi ynghylch hyn ac yn hysbysu'r Aelodau.
Dogfennau ategol: