Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd: Y Cyng. S Pursey - Parthed. Eitem 8 ar Agenda Bwrdd y Cabinet - Deddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Adolygiad o Deithio Llesol CNPT gan ei fod wedi
cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac roedd ei ymatebion a'i awgrymiadau ymhlith y
rhai i'w cymeradwyo yn yr adroddiad. |
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 155 KB ·
17 Medi 2021 ·
22 Hydref 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 17 Medi 2021 a 22 Hydref 2021. |
|||
Cyflwyniad Cymdeithas Twnnel y Rhondda PDF 5 MB Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau
gyflwyniad gan Ysgrifennydd y Prosiect a Chadeirydd Cymdeithas Twnnel y
Rhondda; roedd y cyflwyniad yn manylu ar y tair prif thema ganlynol: ·
Costau'r prosiect; ·
Creu atyniad 'rhaid ymweld ag ef'; ·
Cynlluniau i symud y prosiect ym Mlaengwynfi yn ei flaen. Nodwyd bod is-bwyllgor
technegol wedi'i sefydlu, a'i fod yn cynnwys Uwch Beirianwyr sydd wedi ymddeol;
roedd yr is-bwyllgor wedi cynhyrchu cynlluniau manwl ar gyfer y twnnel, a
gymeradwywyd gan Gyfarwyddwr Cyswllt Arup yng Nghaerdydd. Hysbyswyd y pwyllgor y bydd
gwaith corfforol y prosiect yn cymryd 18 mis; a bod costau'r prosiect yn
cynnwys y canlynol: ·
Canolfannau Ymwelwyr ar ddau ben y twnnel; ·
Cynlluniau micro-hydro ar ddau ben y twnnel; roedd y
Gymdeithas yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu'r rhain.
Ychwanegwyd y bydd y cynlluniau micro-hydro yn darparu pŵer gwyrdd, a
hefyd yn rhoi cyfle i sefydlu cyfleusterau gweithio o bell yn y Canolfannau
Ymwelwyr. Cadarnhaodd Ysgrifennydd
Prosiect y Gymdeithas fod cost y prosiect wedi'i dilysu gan Corderoy,
Syrfëwr Meintiau; a'r amcangyfrif a roddwyd ar gyfer y prosiect cyffredinol
oedd £13.111 miliwn. Hysbyswyd yr aelodau fod gan
dde Cymru ddau dwnnel rheilffordd hir segur, un rhwng Abernant a Merthyr a'r
llall yn y Rhondda, Blaengwynfi; Roedd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf borth yn y
ddau dwnnel. Dywedwyd bod twnnel Abernant-Merthyr yn llwybr teithio llesol
rhwng Merthyr ac Aberdâr, ac roedd twnnel y Rhondda yn fwy o atyniad i ymwelwyr
a dyma fyddai'r twnnel hwyaf yn Ewrop. O ran twnnel Abernant-Merthyr, nodwyd ei
fod wedi parhau â chyllid cyhoeddus ond nad yw wedi cael llawer o gefnogaeth
gan y cyhoedd; fodd bynnag, mae Cyngor Merthyr yn parhau i lobïo'n galed am
gymorth. Eglurodd Ysgrifennydd y Prosiect fod twnnel y Rhondda wedi cael llawer
o gefnogaeth gan y cyhoedd, fodd bynnag, ychydig iawn o arian cyhoeddus a
gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf; gallai cefnogaeth gref gan Gyngor
Castell-nedd Port Talbot helpu i gydbwyso hyn. Tynnwyd sylw at y pwyntiau
canlynol o ran y sefyllfa bresennol: ·
Roedd y ddau dwnnel yn eiddo i Adran Drafnidiaeth San
Steffan (AD); ·
Cadarnhaodd yr AD y byddant yn trosglwyddo'r twneli i
Lywodraeth Cymru gyda swm bach; £60,000 ar gyfer twnnel y Rhondda, fodd bynnag
roedd Llywodraeth Cymru am gael sawl miliwn o bunnoedd ar ei gyfer; ·
Roedd Chris Bryant, Aelod Seneddol (AS), yn mynd i
gysylltu â'r AD ar ran Llywodraeth Cymru am arian; ·
Roedd Cyngor RhCT wrthi'n recriwtio ymgynghorydd i
weithio ar ysgrifennu cais drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri am £5 miliwn yn
benodol ar gyfer twnnel y Rhondda. Chwaraewyd fideo i'r pwyllgor
a oedd yn dangos Chris Bryant AS yn San Steffan, yn gwahodd Grant Shapps AS i
ymweld â thwnnel y Rhondda. Nodwyd bod canol twnnel y Rhondda yn sych ac yn fwyn drwy'r flwyddyn, a bod ganddo 526 o alcofau a oedd yn darparu llawer o gyfleoedd; roedd y twnnel yn cynnig gofod arddangos enfawr, ac un syniad oedd defnyddio'r alcofau ar gyfer arddangosfeydd rhyngweithiol o hanes Cymru. Ychwanegwyd y gellid noddi rhai o’r arddangosfeydd, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||
Diweddariad ar Noddi Asedau Cofnodion: Rhoddodd swyddogion
ddiweddariad llafar ar y pwnc Noddi Asedau, gan gynnwys y ddau brif faes; adroddiad
statws ar noddi cylchfannau a'r cynnydd a wnaed gyda Clear Channel sy'n
gweithredu safleoedd bysus. Rhoddodd Gydlynydd Masnachol y
cyngor wybodaeth gefndir i'r aelodau am nawdd asedau; gan dynnu sylw at y
ffaith y cudnabuwyd dros y blynyddoedd fod cyfleoedd posib i gynhyrchu incwm yn
cael eu cyflwyno gan asedau fel cylchfannau, ymylon ffyrdd, colofnau goleuo
etc. Noddi Cylchfan Yn dilyn proses dendro yn
2011, cynghorwyd yr aelodau fod y cyngor wedi dewis rhoi'r swyddogaeth rheoli a
gwerthu o ddarparu cyfleoedd hysbysebu ar gylchfannau i gynhyrchu cyllid, ar
gontract allanol i gwmni o'r enw Immediate Solutions; sefydlwyd yr hysbyseb
gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT) yn 2012, ac ym mis Mehefin 2017
estynnodd y cyngor y contract am bedair blynedd arall. Nodwyd bod refeniw yn
cyfateb i ddisgwyliadau yn ystod blynyddoedd cyntaf yr estyniad i'r contract;
fodd bynnag, heb fod yn hir ar ôl hynny, dechreuodd y refeniw ostwng. Esboniwyd, ar ôl ymgynghori ag
aelodau a swyddogion amrywiol, fod y cyngor wedi dewis rhoi tri mis o rybudd o
derfynu contract i Immediate Solutions; teimlwyd y gellid dyrchafu'r gwaith hwn
drwy ddod ag ef yn fewnol, a gellid archwilio cyfleoedd amrywiol i gwsmeriaid,
yn ogystal â chreu mwy o incwm na'r hyn a dderbyniwyd o'r blaen. Hysbyswyd y pwyllgor fod y
contract gydag Immediate Solutions wedi dod i ben ar ddiwedd Mehefin 2021; ers
hynny roedd y cyngor wedi bod yn amnewid contractau ar gyfer y cylchfannau a
noddir eisoes, ac yn sefydlu'r portffolio a'r systemau yr oedd angen eu rhoi ar
waith er mwyn cynnig y cyfleoedd hynny i gwsmeriaid lleol. Tynnwyd sylw at y
manteision amrywiol o weithredu hyn yn lleol; gan gynnwys gallu darllen y
farchnad i ddeall yr hyn y mae busnesau am ei hysbysebu, gallu ymateb yn llawer
gyflymach pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le, a chreu mwy o incwm. Darparwyd crynodeb, lle
rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod y Cydlynydd Masnachol wedi bod mewn cysylltiad
â darpar gwsmeriaid ar gyfer hysbysebion cylchfan yn yr ardal, a bod nifer o
archebion wedi'u trefnu. Hysbysebu ar Safleoedd Bysus Esboniodd swyddogion fod cwmni
o'r enw Clear Channel ar hyn o bryd yn gwerthu’r hysbysebion safleoedd bysus yn
CNPT; roedd y cyngor yn berchen ar y rhan fwyaf o’r adeileddau safleoedd bysus
yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae Clear Channel yn berchen ar tua 10. Dywedwyd bod gan y cyngor
gytundeb y mae modd ei gopïo ar waith gyda Clear Channel lle byddent yn cynnal
ac atgyweirio unrhyw ddifrod i'r safleoedd bysus a ddefnyddiwyd ganddynt ar
gyfer hysbysebu; roedd hyn yn gyfnewid am ganiatáu iddynt wneud hynny. Hysbyswyd yr aelodau fod y Cydlynydd Masnachol wedi gwneud gwaith ymchwil yn ddiweddar mewn perthynas â hysbysebu ar safleoedd bysus, a chanfu fod Awdurdodau Lleol eraill wedi derbyn comisiwn arnynt; yn dilyn hyn, aeth swyddogion ymlaen i fynd drwy'r prosesau perthnasol er mwyn i Gyngor CNPT gael comisiwn. Tynnwyd sylw at y ffaith y gwnaed ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu PDF 638 KB Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Deddf Teithio Llesol (Cymru)
2013 - Adolygiad o Ddeddf Teithio Llesol CNPT *Ailbwysleisiodd y Cynghorydd
S Pursey ei fudd ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn
unig* Cyflwynwyd adroddiad i'r
aelodau a oedd yn ymwneud â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013; Adolygiad o
Deithio Llesol CNPT. Amlygwyd yn ystod y cyfarfod
fod gwybodaeth wedi'i hepgor o atodiad 3 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Dosbarthwyd fersiwn wedi'i diweddaru yn y cyfarfod a'i hatodi i'r cofnodion er
gwybodaeth. Rhoddodd y Rheolwr Polisi
Cynllunio drosolwg byr o'r cynigion a gynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Roedd yr aelod lleol dros
Gwaun-Cae-Gurwen, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, wedi annog preswylwyr i
gymryd rhan yn yr ymgynghoriad diweddar; roedd llawer o ddiddordeb ganddynt, a
chyflwynodd llawer ohonynt ymateb. Fodd bynnag,
roeddent yn siomedig i weld bod y meysydd blaenoriaeth uchel i'w gweld yn yr
ardaloedd poblog; tynnwyd sylw at bwysigrwydd cael rhagor o gysylltedd yng
nghymunedau'r cymoedd, a chodwyd pryderon ynglŷn â'r datblygiadau polisi
croes. Cyfeiriodd swyddogion at
Fatrics Blaenoriaethu Llywodraeth Cymru a ddefnyddiwyd fel canllaw i sgorio'r
llwybrau drwy ddefnyddio meini prawf, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd y system sgorio wedi'i
hawtomeiddio drwy system GIS, ac mae'r sgorau a ddeilliodd o hynny yn
penderfynu a oedd llwybr yn cael ei flaenoriaethu fel blaenoriaeth uchel,
ganolig neu isel. Hysbyswyd yr aelodau fod y system hon yn ddangosol, a
chadarnhawyd bod swyddogion wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru i weld a ellid
newid hyn; Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth swyddogion mai offeryn i gynghorau
ei ddefnyddio oedd y system. Cynigiodd yr adroddiad a ddosbarthwyd ymgynghoriad
pellach o bythefnos, i roi gwybod i'r cyhoedd am ddosbarthiad a blaenoriaethu'r
llwybrau; a chasglu sylwadau gan y cymunedau ynglŷn â hyn, y bydd
swyddogion yn eu hystyried. Yn ychwanegol at hyn, dywedwyd
y bydd asesiad arall, mwy manwl a chadarn, a fydd yn edrych yn fanwl ar
elfennau megis; a oes gan y llwybr ganiatâd cynllunio, perchnogaeth y tir, a'r
effeithiau ar fioamrywiaeth. Rhoddodd swyddogion sicrwydd
i'r aelodau fod lle i ychwanegu at gryfder y teimlad a'r angen lleol, a
gobeithiwyd y bydd yr ymgynghoriad ychwanegol o bythefnos yn cyflawni hyn; yn
ddelfrydol, byddai swyddogion wedi hoffi ymestyn y cyfnod hwn, fodd bynnag,
roedd yr amserlenni a'r terfynau amser ar gyfer y gwaith hwn yn dynn iawn ac yn
prysur agosáu. Nodwyd y byddai'r wythnosau nesaf yn bwysig o ran casglu
sylwadau pellach gan gymunedau, er mwyn nodi llwybrau penodol amlwg, yn enwedig
yn ardaloedd y cymoedd. Cydnabuwyd, ers sefydlu Deddf Teithio Llesol (Cymru), fod ffocws y cyllid wedi'i ddyrannu i ardaloedd adeiledig fel canol trefi; yr ardaloedd hyn a gafodd yr effaith fwyaf, ac roeddent yn lleoedd lle gellid cyflawni Teithio Llesol yn hawdd. Fodd bynnag, soniwyd bod gan y cyngor rôl i nodi ble y gellid sicrhau enillion yn y cymunedau mwy ynysig; gwnaed ymdrechion ymwybodol, drwy gamau gwahanol y mapiau, i geisio cysylltu ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||
Cofnodion: Nododd yr aelodau’r Flaenraglen Waith Craffu ar
Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran
100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol
o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Y Diweddaraf am Brosiect
Twnnel y Rhondda Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r aelodau am Brosiect Twnnel y Rhondda. Crynhodd y Cadeirydd y
trafodaethau a gynhaliwyd; a thynnodd sylw at y ffaith y byddai angen i aelodau
benderfynu pa un o'r ddau opsiwn, a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, y
byddent yn ei argymell i Fwrdd y Cabinet. Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant
ffurfiol i 'Opsiwn B' a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd: Am y tro, dylai'r cyngor gadw
ei sefyllfa bresennol, sef y byddwn yn cefnogi'r prosiect mewn egwyddor, gan
roi cyngor lle bo angen i unrhyw drydydd parti sy'n ymwneud â'r prosiect, ond
ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb ffurfiol am godi arian yn y dyfodol
mewn perthynas ag ymrwymiadau posib i ariannu arian cyfatebol. Ni fyddwn
ychwaith yn cymryd unrhyw berchnogaeth o'r twnnel, wedi'i rhannu neu fel arall,
nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am reoli'r twnnel yn y dyfodol, gan gynnwys
unrhyw ofynion cymhorthdal. Bydd y sefyllfa hon yn cael ei hadolygu'n gyson, a
gellir ei diwygio yn y dyfodol pe bai'r prosiect yn symud ymlaen tuag at
gyflawni er boddhad y cyngor ac yn cyflwyno manteision i Fwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot gydag adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu dwyn yn ôl
i'r aelodau fel y bo'n briodol. Penderfynwyd bod y pwyllgor o
blaid y gwelliant i 'Opsiwn B' i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. |