Agenda item

Cyflwyniad Cymdeithas Twnnel y Rhondda

Cofnodion:

Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad gan Ysgrifennydd y Prosiect a Chadeirydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda; roedd y cyflwyniad yn manylu ar y tair prif thema ganlynol:

·        Costau'r prosiect;

·        Creu atyniad 'rhaid ymweld ag ef';

·        Cynlluniau i symud y prosiect ym Mlaengwynfi yn ei flaen.

 

Nodwyd bod is-bwyllgor technegol wedi'i sefydlu, a'i fod yn cynnwys Uwch Beirianwyr sydd wedi ymddeol; roedd yr is-bwyllgor wedi cynhyrchu cynlluniau manwl ar gyfer y twnnel, a gymeradwywyd gan Gyfarwyddwr Cyswllt Arup yng Nghaerdydd.

Hysbyswyd y pwyllgor y bydd gwaith corfforol y prosiect yn cymryd 18 mis; a bod costau'r prosiect yn cynnwys y canlynol:

·        Canolfannau Ymwelwyr ar ddau ben y twnnel;

·        Cynlluniau micro-hydro ar ddau ben y twnnel; roedd y Gymdeithas yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ddatblygu'r rhain. Ychwanegwyd y bydd y cynlluniau micro-hydro yn darparu pŵer gwyrdd, a hefyd yn rhoi cyfle i sefydlu cyfleusterau gweithio o bell yn y Canolfannau Ymwelwyr.

 

Cadarnhaodd Ysgrifennydd Prosiect y Gymdeithas fod cost y prosiect wedi'i dilysu gan Corderoy, Syrfëwr Meintiau; a'r amcangyfrif a roddwyd ar gyfer y prosiect cyffredinol oedd £13.111 miliwn.

Hysbyswyd yr aelodau fod gan dde Cymru ddau dwnnel rheilffordd hir segur, un rhwng Abernant a Merthyr a'r llall yn y Rhondda, Blaengwynfi; Roedd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf borth yn y ddau dwnnel. Dywedwyd bod twnnel Abernant-Merthyr yn llwybr teithio llesol rhwng Merthyr ac Aberdâr, ac roedd twnnel y Rhondda yn fwy o atyniad i ymwelwyr a dyma fyddai'r twnnel hwyaf yn Ewrop. O ran twnnel Abernant-Merthyr, nodwyd ei fod wedi parhau â chyllid cyhoeddus ond nad yw wedi cael llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd; fodd bynnag, mae Cyngor Merthyr yn parhau i lobïo'n galed am gymorth. Eglurodd Ysgrifennydd y Prosiect fod twnnel y Rhondda wedi cael llawer o gefnogaeth gan y cyhoedd, fodd bynnag, ychydig iawn o arian cyhoeddus a gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf; gallai cefnogaeth gref gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot helpu i gydbwyso hyn.

Tynnwyd sylw at y pwyntiau canlynol o ran y sefyllfa bresennol:

·        Roedd y ddau dwnnel yn eiddo i Adran Drafnidiaeth San Steffan (AD);

·        Cadarnhaodd yr AD y byddant yn trosglwyddo'r twneli i Lywodraeth Cymru gyda swm bach; £60,000 ar gyfer twnnel y Rhondda, fodd bynnag roedd Llywodraeth Cymru am gael sawl miliwn o bunnoedd ar ei gyfer;

·        Roedd Chris Bryant, Aelod Seneddol (AS), yn mynd i gysylltu â'r AD ar ran Llywodraeth Cymru am arian;

·        Roedd Cyngor RhCT wrthi'n recriwtio ymgynghorydd i weithio ar ysgrifennu cais drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri am £5 miliwn yn benodol ar gyfer twnnel y Rhondda.

 

Chwaraewyd fideo i'r pwyllgor a oedd yn dangos Chris Bryant AS yn San Steffan, yn gwahodd Grant Shapps AS i ymweld â thwnnel y Rhondda.

Nodwyd bod canol twnnel y Rhondda yn sych ac yn fwyn drwy'r flwyddyn, a bod ganddo 526 o alcofau a oedd yn darparu llawer o gyfleoedd; roedd y twnnel yn cynnig gofod arddangos enfawr, ac un syniad oedd defnyddio'r alcofau ar gyfer arddangosfeydd rhyngweithiol o hanes Cymru. Ychwanegwyd y gellid noddi rhai o’r arddangosfeydd, ac roedd llawer o ddiddordeb gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru; roedd gan y rheini sy'n gweithio ar y prosiect lawer o syniadau gwahanol, ac roeddent yn croesawu syniadau pellach. Awgrym arall y tynnwyd sylw ato oedd defnyddio'r waliau moel ar gyfer arddangosfeydd sain a golau.

Cyflwynwyd cynlluniau i'r pwyllgor ar gyfer rhan arddangos arfaethedig twnnel y Rhondda; roedd cynlluniau i roi rhwystr y gellir ei symud i lawr y canol, i ehangu'r twnnel i'w led llawn (4.3 metr) ac i ddyrannu ochr i gerddwyr gydag alcofau arddangos, a'r ochr arall i feicwyr ei defnyddio. 

Hysbyswyd yr aelodau am y cynlluniau i ymestyn y twnnel ychydig, a fydd yn gwneud y twnnel dros ddwy filltir o hyd; byddai'n cymryd awr i gerdded o un pen i'r llall. Nodwyd y byddai datblygu twnnel mor hir yn her ac roedd angen ystyried hyn yn ofalus, fodd bynnag byddai'n arbennig ar gyfer de Cymru; dyna pam yr oedd llawer o bwyslais ar y cyfleusterau/arddangosfeydd yn y twnnel, gan y bydd yr elfennau hyn yn ei gwneud yn fwy na thwnnel cerdded/beicio hwyaf Ewrop. 

Roedd y cyflwyniad yn cynnwys lluniau o safle twnnel y Rhondda ym Mlaengwynfi o'r 1970au a sut mae'n edrych heddiw; gan arddangos faint roedd y safle wedi newid. Soniwyd bod angen twll dwfn i gael mynediad i borth y twnnel, ac o hyn bydd llawer o wastraff i'w symud; y cynllun presennol oedd cloddio'r llwybr dynesu. Hysbyswyd yr aelodau fod cwmni o'r enw hyperTunnel wedi cysylltu â'r Gymdeithas gyda thechnoleg dwnelu newydd i greu estyniad i'r twnnel. Esboniodd Ysgrifennydd y Prosiect yr hyn y byddai'r cwmni'n ei wneud i greu llai o aflonyddwch a gwastraff, a llai o newid ym Mlaengwynfi; roedd cynlluniau hefyd i ymchwilio i ddewis amgen "Torri a Gorchuddio" a oedd yn fwy confensiynol.

Rhannwyd delweddau sy'n dangos y cynlluniau a'r syniadau presennol ar gyfer pwynt mynediad twnnel y Rhondda; byddai'r estyniad yn dod â phorth y twnnel i'r arwyneb, a fyddai'n atal amharu ar ochr y bryn.

Darparwyd crynodeb byr o'r dechneg hyperTunnel i'r aelodau; ynghyd â'r cynlluniau manwl a luniwyd gan yr is-bwyllgor technegol. Roedd y cynlluniau manwl yn tynnu sylw at faint o wastraff y byddai angen ei symud a'i ddyddodi pe bai'r twnnel yn cael ei gloddio, a hefyd pe bai'r twnnel yn cael ei ymestyn.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â pherchnogaeth y twnnel; dangoswyd map a oedd yn tynnu sylw at y rhannau o dir yr oedd Cyngor CNPT yn berchen arnynt. Esboniwyd bod y rhan fwyaf o'r twnnel, gan gynnwys y safle ar gyfer yr estyniad arfaethedig, o fewn tir CNPT; felly, bydd y cais cynllunio yn y dyfodol yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod Pwyllgor Cynllunio Cyngor CNPT.

Amlygwyd y pwyntiau canlynol yn y crynodeb o'r cyflwyniad:

·        Roedd Cymdeithas Twnnel y Rhondda wedi bod yn ymgyrchu ers 2015;

·        Cafwyd cefnogaeth wleidyddol enfawr, fodd bynnag roedd adroddiadau ac oedi diddiwedd;

·        Roedd y gymdeithas am godi'r arian ar gyfer estyniad Blaengwynfi, yn annibynnol ar gyllid cyhoeddus;

·        Gellid agor y siafft aer ar gyfer abseilio i ddenu ymwelwyr cyn i'r prif dwnnel agor, a fyddai'n dechrau cyflwyno manteision wrth i weddill y twnnel gael ei ddatblygu;

·        Roedd cynigion petrus o rywfaint o gyllid eisoes wedi'u derbyn;

·        Cynhaliwyd trafodaethau gyda Chyngor RhCT ynghylch darparu'r "arian cyfatebol", a oedd yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau;

·        Roedd y gymdeithas yn dal i aros am gynnig costio llawn gan hyperTunnel. Fodd bynnag, roedd rhai amcangyfrifon wedi'u hystyried o ran faint o arian y byddai'n ei gostio i roi'r dewis amgen "Torri a Gorchuddio" ar waith;

·        Derbyniwyd llythyr gan yr Ymddiriedolaeth Treftadaeth Rheilffyrdd, a ddyfarnodd grant o £100,000 tuag at ailagor porth Blaengwynfi twnnel y Rhondda. Roeddent hefyd wedi cynnig rhagor o arian y flwyddyn nesaf, er bod angen cadarnhau hyn yn y gyllideb yr oeddent yn ei thrafod gyda'r Priffyrdd Cenedlaethol.

 

Dywedodd yr aelodau ei bod yn braf gweld yr uchelgais a'r ymrwymiad at brosiect; fodd bynnag, soniodd y bydd llawer o'r cynnydd yn cael ei bennu gan faint o arian y bydd Llywodraeth y DU yn fodlon ei glustnodi. Nodwyd, wrth symud ymlaen, y byddai'n hanfodol cadw llygad ar y gwahanol ffrydiau ariannu a chyfleoedd ariannol a allai fod ar gael yn y dyfodol agos; Roedd yr aelodau'n barod i helpu drwy lobïo ASau lleol.

Rhoddodd yr Aelodau Lleol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod eu cefnogaeth i'r prosiect, gan ganmol y gwaith a gwblhawyd hyd yma; Tynnodd yr aelodau sylw hefyd at bwysigrwydd y math hwn o brosiect i Gwm Afan.

Hysbyswyd yr aelodau am y gwahanol gyfnodau gwaith a gynigiwyd; er y nodwyd y byddai rhywfaint o hyn yn dibynnu ar y pecyn ariannu rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru. Un o'r camau cyntaf a amlygwyd oedd cyflwyno cais cynllunio i agor y porth ym Mlaengwynfi, er mwyn cael mynediad i'r twnnel; ac yna newid y siafft aer yn elfen abseilio. Dywedwyd y bydd hyn yn dechrau'r prosiect, a rhagwelwyd y bydd y momentwm yn cael ei gario ymlaen ar ôl hyn; roedd amryw swyddi y gellid eu cwblhau am gost eithaf isel, wrth gasglu arian i gwblhau gweddill y gwaith.

Holwyd a fyddai angen i'r gymdeithas drosglwyddo'r berchnogaeth o'r AD cyn y gall y gwaith datblygu ddechrau; roedd y gwaith sy'n ymwneud â'r estyniad wedi'i leoli'n gyfan gwbl o fewn tir CNPT, felly ni fyddai angen trosglwyddo'r berchnogaeth i ddechrau'r elfen hon o'r gwaith.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r cysylltiad rhwng isadeiledd a thwristiaeth y prosiect. Cadarnhawyd bod cylch troi bws ar ochr y Rhondda ym Mlaencwm a fyddai o ddefnydd; roedd gwasanaeth bws 20 munud i lawr y dyffryn hefyd, a oedd o fewn 400 medr i'r porth yn y Rhondda. O ran cynlluniau ar gyfer y dyfodol, nodwyd bod y gymdeithas yn bwriadu cynnwys llwybr beicio di-draffig i orsaf Treherbert, a bws gwennol i'r rheini a oedd am gerdded un ffordd drwy'r twnnel yn unig; byddai'r bws gwennol wedyn yn mynd â'r unigolion hynny yn ôl i'r dechrau. Ychwanegwyd y byddai'r gymdeithas hefyd yn hoffi datblygu llwybr beiciau llogi, a fydd yn lledaenu'r manteision ledled y cwm. Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Prosiect y byddai'r gymdeithas yn gweithio gyda Chyngor CNPT gymaint â phosib, yn enwedig yn ystod y cam cyn cynllunio, i drafod yr elfennau hyn.

Diolchodd yr aelodau i Ysgrifennydd y Prosiect a Chadeirydd Cymdeithas Twnnel y Rhondda am eu cyflwyniad a'r gwaith a wnaed hyd yma i fwrw ymlaen â'r prosiect.

 

 

Dogfennau ategol: