Agenda item

Diweddariad ar Noddi Asedau

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad llafar ar y pwnc Noddi Asedau, gan gynnwys y ddau brif faes; adroddiad statws ar noddi cylchfannau a'r cynnydd a wnaed gyda Clear Channel sy'n gweithredu safleoedd bysus.

Rhoddodd Gydlynydd Masnachol y cyngor wybodaeth gefndir i'r aelodau am nawdd asedau; gan dynnu sylw at y ffaith y cudnabuwyd dros y blynyddoedd fod cyfleoedd posib i gynhyrchu incwm yn cael eu cyflwyno gan asedau fel cylchfannau, ymylon ffyrdd, colofnau goleuo etc.

Noddi Cylchfan

Yn dilyn proses dendro yn 2011, cynghorwyd yr aelodau fod y cyngor wedi dewis rhoi'r swyddogaeth rheoli a gwerthu o ddarparu cyfleoedd hysbysebu ar gylchfannau i gynhyrchu cyllid, ar gontract allanol i gwmni o'r enw Immediate Solutions; sefydlwyd yr hysbyseb gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (CNPT) yn 2012, ac ym mis Mehefin 2017 estynnodd y cyngor y contract am bedair blynedd arall. Nodwyd bod refeniw yn cyfateb i ddisgwyliadau yn ystod blynyddoedd cyntaf yr estyniad i'r contract; fodd bynnag, heb fod yn hir ar ôl hynny, dechreuodd y refeniw ostwng.

Esboniwyd, ar ôl ymgynghori ag aelodau a swyddogion amrywiol, fod y cyngor wedi dewis rhoi tri mis o rybudd o derfynu contract i Immediate Solutions; teimlwyd y gellid dyrchafu'r gwaith hwn drwy ddod ag ef yn fewnol, a gellid archwilio cyfleoedd amrywiol i gwsmeriaid, yn ogystal â chreu mwy o incwm na'r hyn a dderbyniwyd o'r blaen.

Hysbyswyd y pwyllgor fod y contract gydag Immediate Solutions wedi dod i ben ar ddiwedd Mehefin 2021; ers hynny roedd y cyngor wedi bod yn amnewid contractau ar gyfer y cylchfannau a noddir eisoes, ac yn sefydlu'r portffolio a'r systemau yr oedd angen eu rhoi ar waith er mwyn cynnig y cyfleoedd hynny i gwsmeriaid lleol. Tynnwyd sylw at y manteision amrywiol o weithredu hyn yn lleol; gan gynnwys gallu darllen y farchnad i ddeall yr hyn y mae busnesau am ei hysbysebu, gallu ymateb yn llawer gyflymach pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le, a chreu mwy o incwm.

Darparwyd crynodeb, lle rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod y Cydlynydd Masnachol wedi bod mewn cysylltiad â darpar gwsmeriaid ar gyfer hysbysebion cylchfan yn yr ardal, a bod nifer o archebion wedi'u trefnu.

Hysbysebu ar Safleoedd Bysus

Esboniodd swyddogion fod cwmni o'r enw Clear Channel ar hyn o bryd yn gwerthu’r hysbysebion safleoedd bysus yn CNPT; roedd y cyngor yn berchen ar y rhan fwyaf o’r adeileddau safleoedd bysus yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae Clear Channel yn berchen ar tua 10.

Dywedwyd bod gan y cyngor gytundeb y mae modd ei gopïo ar waith gyda Clear Channel lle byddent yn cynnal ac atgyweirio unrhyw ddifrod i'r safleoedd bysus a ddefnyddiwyd ganddynt ar gyfer hysbysebu; roedd hyn yn gyfnewid am ganiatáu iddynt wneud hynny.

Hysbyswyd yr aelodau fod y Cydlynydd Masnachol wedi gwneud gwaith ymchwil yn ddiweddar mewn perthynas â hysbysebu ar safleoedd bysus, a chanfu fod Awdurdodau Lleol eraill wedi derbyn comisiwn arnynt; yn dilyn hyn, aeth swyddogion ymlaen i fynd drwy'r prosesau perthnasol er mwyn i Gyngor CNPT gael comisiwn. Tynnwyd sylw at y ffaith y gwnaed argymhelliad i ail-lofnodi cytundeb pum mlynedd arall gyda Clear Channel, ond y tro hwn gyda swm penodol o arian wedi'i gynnwys fel rhan o'r contract; gan gynnwys ffi flynyddol benodol ar gyfer pob poster y maent am ei newid i sgrîn ddigidol. Dywedodd swyddogion fod y sgriniau digidol yn cynyddu o ran poblogrwydd; roedd gan y cwmni gynllun uchelgeisiol i newid llawer o'r posteri mewn lleoliadau poblogaidd i sgriniau digidol. Ychwanegwyd bod swyddogion yn symud ymlaen â'r argymhelliad hwn; Roedd uwch-swyddogion yn edrych dros y manylion ar hyn o bryd.

Meysydd gwaith allweddol eraill

Yn ogystal â'r uchod, tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cydlynydd Masnachol wedi bod yn siarad â busnesau bach lleol, ac wedi canfod mai ychydig iawn o gyfleoedd oedd iddynt hysbysebu a hyrwyddo eu hunain; er enghraifft, roedd hysbysebion ar safleoedd bysus yn cael eu defnyddio'n bennaf gan gwmnïau cenedlaethol ac roeddent yn eithaf drud. Dywedodd swyddogion oherwydd hyn y bydd rhai busnesau bach yn defnyddio posteri anghyfreithlon a/neu faneri i hysbysebu. Er mwyn lleihau'r defnydd o hysbysebu anghyfreithlon, roedd swyddogion yn gobeithio creu cyfleoedd llai, tymor byr i hysbysebu’n lleol am gost ratach; gallai'r cyngor reoli'r rhestr eiddo a chynhyrchu incwm o hyn, yn ogystal â chefnogi ei fusnesau lleol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â risgiau iechyd a diogelwch y mathau anghyfreithlon o hysbysebu awyr agored, fel baneri. Cadarnhawyd bod swyddogion yn gweithio ar bolisi a fydd yn cwmpasu'r holl elfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r mater hwn; fodd bynnag, roedd gorfodi arwyddion anghyfreithlon yn cyd-fynd â chael cyfleoedd i gynnig i’r busnesau hyn. Ychwanegwyd y gallai rhoi cyfleoedd hysbysebu i fusnesau lleol helpu i leihau hysbysebu anghyfreithlon; a bydd y polisi'n darparu cysondeb ac yn helpu i reoli'r materion, a bydd yn ddogfen y gall pob parti ei deall a chyfeirio ati.

Gofynnodd yr aelodau a oedd potensial i incwm gael ei gynhyrchu ar gyfer noddi mewn ffyrdd eraill. Cadarnhaodd swyddogion fod cyfleoedd diddiwedd o greu refeniw; Roedd yr Awdurdodau Lleol yn cyrraedd 100% o'u cynulleidfa, preswylwyr yr ardal, ac un o'r prif dasgau oedd dod o hyd i ffyrdd gwahanol o gysylltu â nhw.

Yn ogystal â chynhyrchu incwm, nodwyd hefyd fod cynorthwyo cyfathrebu rhwng busnesau lleol a chwsmeriaid lleol yn bwysig; Gall cynghorau greu a gwerthu cyfleoedd yn annibynnol, a thrwy gefnogi busnesau lleol, mae'n helpu i roi'r arian yn ôl i'r gymuned.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y gwaith sy'n ymwneud â nawdd asedau a chefnogi busnesau lleol yn rhoi cyfle i unigolion gael ymdeimlad o le a chymuned; roedd llawer o fanteision i hyn megis gwella'r amgylchedd lleol ac ychwanegu cysylltiadau at dwristiaeth.

Canmolwyd y Cydlynydd Masnachol am ei waith caled ar noddi asedau, a chroesawodd yr aelodau ddiweddariadau pellach yn y dyfodol.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys y diweddariad.