Lleoliad: Hybrid Microsoft Teams/Hybrid Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Henton ei hun i'r Pwyllgor
a chroesawodd bawb i'r gwrandawiad. |
|||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau |
|||||||||||
Cais am roi Trwydded Mangre - A&K Catering Ltd PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded
Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r cais am roi
Trwydded Mangre – A&K Catering Ltd, 7A Y Parêd, Castell-nedd SA11 1RB a
wnaed gan A&K Catering Ltd, 7A Y Parêd, Castell-nedd SA11 1RB, yn amodol ar
yr oriau gweithredu a'r amodau fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. |
|||||||||||
Cais am roi Trwydded Mangre - Clwb Rygbi Pontardawe PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo
Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sul 08:00 - 01:00 Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno) Dydd Llun i
ddydd Sul 08:00 - 00:30 Ffilmiau
(dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd)) Dydd Llun i
ddydd Sul 10:00 - 00:00 Digwyddiadau
Chwaraeon Dan Do Dydd Sul i
ddydd Iau 10:00 - 00:00 Dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00 - 00.30 Cerddoriaeth
fyw (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd)) Dydd Sul i
ddydd Iau 10:00 - 23:30 Dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00 - 00:30 Dydd Sul
Gŵyl y Banc 10:00 - 00:00 Cerddoriaeth
wedi'i recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd)) Dydd Sul i
ddydd Iau 10:00 - 23:30 Dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00 - 00:30 Dydd Sul
Gŵyl y Banc 10:00 - 00:00 Perfformiadau
Dawns (dan do ac yn yr awyr agored) Dydd Sul i
ddydd Iau 10:00 - 23:30 Dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00 - 00:30 Dydd Sul
Gŵyl y Banc 10:00 - 00:00 Unrhyw beth
o ddisgrifiad tebyg (dan do ac yn yr awyr agored) Dydd Sul i
ddydd Iau 10:00 - 23:30 Dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00 - 00:30 Dydd Sul
Gŵyl y Banc 10:00 - 00:00 Lluniaeth
yn hwyr y nos (dan do ac yn yr awyr agored) Nos Sul i
nos Iau Nos Wener a
nos Sadwrn 23:00 - 00:30 ·
Ni fydd cerddoriaeth
sydd wedi'i mwyhau na cherddoriaeth sydd heb ei mwyhau y tu allan rhwng 23:00 a
10:00.
|
|||||||||||
EH datganiad gan dyst PDF 149 KB Cofnodion: Adolygwyd datganiad y tyst fel rhan o'r adroddiad
atodol a ddosbarthwyd. |
|||||||||||
Cais am roi Trwydded Mangre - Rum and Co PDF 221 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gofynnwyd i'r aelodau
ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo
Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Oriau Agor Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 –
01:00 Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno) Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 -
00:30 Ffilmiau (dan do) Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 -
00:30 Cerddoriaeth fyw (dan do) Dydd Sul i ddydd Iau 12:00 -
00:00 Dydd Gwener a dydd Sadwrn 12:00 -
00:30 Cerddoriaeth wedi'i Recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar
y tywydd)) Dydd Sul i ddydd Iau 12:00 - 00:00 Dydd Gwener a dydd Sadwrn 12:00 - 00:30 Lluniaeth yn hwyr y
nos (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd)) Nos Lun i nos
Sul ·
Bydd yr
ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras") ar gau i
gwsmeriaid rhwng 22:00 a 09:00 bob dydd, yn amodol ar yr amod canlynol. ·
Bydd hawl
defnyddio'r ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras")
ar gyfer smygu rhwng 22:00 a 09:00 ar yr amod y bodlonir yr amodau canlynol, § Bydd uchafswm o 4 cwsmer yn yr ardal ar unrhyw
adeg. § Ni fydd cwsmeriaid yn mynd ag unrhyw ddiodydd na
bwyd i'r ardal. § Bydd aelod o staff yn rheoli'r mynediad i'r ardal
er mwyn sicrhau bod yr amodau uchod yn cael eu bodloni. ·
Bydd o
leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar
ddyletswydd o 22:00 tan amser cau bob nos Wener a nos Sadwrn, y nos Iau cyn
Dydd Gwener y Groglith, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan a Nos Galan. Ar
bob adeg arall, bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr
drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr
angen sy'n ofynnol gan yr asesiad risg. ·
Bydd pob
goruchwyliwr drws yn arddangos ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch mewn
rhwymyn braich adlewyrchol pan fydd ar ddyletswydd. ·
Bydd cofrestr ddyddiol o
bersonél diogelwch yn cael ei chadw. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a
rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn
gweithredu. Rhaid bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a
swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol. · Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||
llygredd swn datganiad PDF 2 MB Cofnodion: Adolygwyd y datganiad am lygredd sŵn, fel rhan
o'r adroddiad atodol a ddosbarthwyd. |
|||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |