Agenda item

Cais am roi Trwydded Mangre - Rum and Co

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Rum a Co.

Cyfeiriad y fangre

12 Stryd Fawr, Pontardawe SA8 4HU

Enw'r Ymgeisydd

Gourmet Catering Solutions Cyf

Cyfeiriad yr ymgeisydd

85 Heol Cilmaengwyn, Pontardawe SA8 4QW

Enw'r GMD

Daniel Dyer

 

  1. PENDERFYNWYD:   Y byddai’r Is-bwyllgor yn cymeradwyo'r cais am drwydded mangre, gydag amodau. Byddai'r oriau gweithredu a’r amodau canlynol yn berthnasol yn ogystal ag unrhyw amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu.

 

Oriau Agor

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 – 01:00

 

Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 - 00:30

 

Ffilmiau (dan do)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 - 00:30

 

Cerddoriaeth fyw (dan do)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      12:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   12:00 - 00:30

 

Cerddoriaeth wedi'i Recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau     12:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   12:00 - 00:30

 

Lluniaeth yn hwyr y nos (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Nos Lun i nos Sul    
23:00 - 00:30

 

·         Bydd yr ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras") ar gau i gwsmeriaid rhwng 22:00 a 09:00 bob dydd, yn amodol ar yr amod canlynol. 

 

·         Bydd hawl defnyddio'r ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras") ar gyfer smygu rhwng 22:00 a 09:00 ar yr amod y bodlonir yr amodau canlynol,

§  Bydd uchafswm o 4 cwsmer yn yr ardal ar unrhyw adeg.

§  Ni fydd cwsmeriaid yn mynd ag unrhyw ddiodydd na bwyd i'r ardal.

§  Bydd aelod o staff yn rheoli'r mynediad i'r ardal er mwyn sicrhau bod yr amodau uchod yn cael eu bodloni.

 

·         Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 22:00 tan amser cau bob nos Wener a nos Sadwrn, y nos Iau cyn Dydd Gwener y Groglith, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan a Nos Galan. Ar bob adeg arall, bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr angen sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.

 

·         Bydd pob goruchwyliwr drws yn arddangos ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch mewn rhwymyn braich adlewyrchol pan fydd ar ddyletswydd.

 

·        Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch yn cael ei chadw. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn gweithredu. Rhaid bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol.

 

·        Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais cyfreithlon.

 

·        Cedwir cofnod yn rhoi manylion pob achos o wrthod gwerthu alcohol. Dylai'r cofnod gynnwys dyddiad ac amser gwrthod y gwerthu ac enw'r aelod o staff a wrthododd ei werthu. Bydd y cofnod ar gael i'w archwilio yn y fangre gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig y cyngor ar bob adeg tra y bydd y fangre ar agor.

 

·        Rhaid arddangos arwyddion mewn man amlwg yn y fangre, gan ddilyn y polisi ‘Her 25'.

 

 

Dogfennau ategol: