Agenda item

Cais am roi Trwydded Mangre - Clwb Rygbi Pontardawe

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Clwb Rygbi Pontardawe

Cyfeiriad y fangre

Ynysderw Road, Pontardawe SA8 4EG

Enw'r Ymgeisydd

Pontardawe Rugby Football Club Limited

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Ynysderw Road, Pontardawe SA8 4EG

Enw'r GMD

Meirion Davies

 

  1. PENDERFYNODD:   Yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais am drwydded mangre, gydag amodau. Byddai'r oriau gweithredu ac amodau canlynol yn berthnasol yn ogystal ag unrhyw amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu.

 

Oriau Agor

 

Dydd Llun i ddydd Sul     08:00 - 01:00

 

Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     08:00 - 00:30

 

Ffilmiau (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Llun i ddydd Sul     10:00 - 00:00

Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00.30

 

Cerddoriaeth fyw (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau        10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn     10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc       10:00 - 00:00

 

Cerddoriaeth wedi'i recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau        10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc       10:00 - 00:00

 

Perfformiadau Dawns (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc     10:00 - 00:00

 

Unrhyw beth o ddisgrifiad tebyg (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc     10:00 - 00:00

 

Lluniaeth yn hwyr y nos (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Nos Sul i nos Iau     
23:00 - 23:30

Nos Wener a nos Sadwrn    23:00 - 00:30

 

·        Ni fydd cerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau na cherddoriaeth sydd heb ei mwyhau y tu allan rhwng 23:00 a 10:00.  

 

  • Ni chaniateir gwerthu alcohol yn allanol rhwng 23:00 a 10:00, h.y. bydd y bar allanol yn cau rhwng yr oriau hyn.

 

  • Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 23:00 tan amser cau bob nos Iau, nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul yng Ngŵyl Pontardawe.

 

  • Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 23:00 tan amser cau bob nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul ar unrhyw benwythnos gŵyl y banc pan fydd adloniant wedi'i reoleiddio’n cael ei ddarparu.

 

  • Ac eithrio yn ystod Gŵyl Pontardawe neu benwythnos gŵyl y banc, bydd deiliad y drwydded mangre’n cynnal asesiad risg am yr angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth ar y drysau rhwng y fath amseroedd ac yn y fath niferoedd sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.

 

  • Ni ddarperir cerddoriaeth wedi'i mwyhau yn ardal y maes parcio o flaen y fangre.

 

  • Mae'r holl amodau a nodir yn Atodiad 1, 2 neu 3 y drwydded mangre’n parhau i fod yn ddilys yn ystod dyddiau digwyddiad arbennig.

 

·         Rhaid gosod system teledu cylch cyfyng ddigidol, neu gynnal system bresennol, yn y fangre a fydd yn weithredol bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd ac yn gallu darparu lluniau o ansawdd tystiolaethol ym mhob golau, yn enwedig adnabod wynebau. Rhaid i'r recordiadau teledu cylch cyfyng gael eu hamseru a'u dyddio'n gywir, a'u cadw am gyfnod o 31 diwrnod, a rhaid trefnu eu bod ar gael i'w gweld gan yr heddlu neu swyddog awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu ar gais.

 

Rhaid i'r system ffilmio’r ardaloedd canlynol:-

                                          i.    Perimedr allanol y fangre

                                         ii.    Mynedfeydd ac allanfeydd y fangre;

                                        iii.    Ardaloedd cyhoeddus y fangre;

 

  • Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais cyfreithlon.

 

Dogfennau ategol: