Agenda a chofnodion drafft

Is-bwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo - Dydd Mawrth, 28ain Mehefin, 2022 2.01 pm

Lleoliad: Hybrid Microsoft Teams/Hybrid Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Henton ei hun i'r Pwyllgor a chroesawodd bawb i'r gwrandawiad.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau

3.

Cais am roi Trwydded Mangre - A&K Catering Ltd pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

A&K Catering Ltd

Cyfeiriad y fangre

7A Y Parêd, Castell-nedd, SA11 1RB

Enw'r Ymgeisydd

A&K Catering Ltd

Cyfeiriad yr ymgeisydd

7A Y Parêd, Castell-nedd, SA11 1RB

Enw'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMD)

Bettina Kacziba

 

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r cais am roi Trwydded Mangre – A&K Catering Ltd, 7A Y Parêd, Castell-nedd SA11 1RB a wnaed gan A&K Catering Ltd, 7A Y Parêd, Castell-nedd SA11 1RB, yn amodol ar yr oriau gweithredu a'r amodau fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

4.

Cais am roi Trwydded Mangre - Clwb Rygbi Pontardawe pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Clwb Rygbi Pontardawe

Cyfeiriad y fangre

Ynysderw Road, Pontardawe SA8 4EG

Enw'r Ymgeisydd

Pontardawe Rugby Football Club Limited

Cyfeiriad yr ymgeisydd

Ynysderw Road, Pontardawe SA8 4EG

Enw'r GMD

Meirion Davies

 

  1. PENDERFYNODD:   Yr Is-bwyllgor gymeradwyo'r cais am drwydded mangre, gydag amodau. Byddai'r oriau gweithredu ac amodau canlynol yn berthnasol yn ogystal ag unrhyw amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu.

 

Oriau Agor

 

Dydd Llun i ddydd Sul     08:00 - 01:00

 

Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     08:00 - 00:30

 

Ffilmiau (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Llun i ddydd Sul     10:00 - 00:00

Digwyddiadau Chwaraeon Dan Do

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00.30

 

Cerddoriaeth fyw (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau        10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn     10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc       10:00 - 00:00

 

Cerddoriaeth wedi'i recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau        10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc       10:00 - 00:00

 

Perfformiadau Dawns (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn    10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc     10:00 - 00:00

 

Unrhyw beth o ddisgrifiad tebyg (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      10:00 - 23:30

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   10:00 - 00:30

Dydd Sul Gŵyl y Banc     10:00 - 00:00

 

Lluniaeth yn hwyr y nos (dan do ac yn yr awyr agored)

 

Nos Sul i nos Iau     
23:00 - 23:30

Nos Wener a nos Sadwrn    23:00 - 00:30

 

·        Ni fydd cerddoriaeth sydd wedi'i mwyhau na cherddoriaeth sydd heb ei mwyhau y tu allan rhwng 23:00 a 10:00.  

 

  • Ni chaniateir gwerthu alcohol yn allanol rhwng 23:00 a 10:00, h.y. bydd y bar allanol yn cau rhwng yr oriau hyn.

 

  • Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 23:00 tan amser cau bob nos Iau, nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul yng Ngŵyl Pontardawe.

 

  • Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 23:00 tan amser cau bob nos Wener, nos Sadwrn a nos Sul ar unrhyw benwythnos gŵyl y banc pan fydd adloniant wedi'i reoleiddio’n cael ei ddarparu.

 

  • Ac eithrio yn ystod Gŵyl Pontardawe neu benwythnos gŵyl y banc, bydd deiliad y drwydded mangre’n cynnal asesiad risg am yr angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth ar y drysau rhwng y fath amseroedd ac yn y fath niferoedd sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.

 

5.

EH datganiad gan dyst pdf eicon PDF 149 KB

Cofnodion:

Adolygwyd datganiad y tyst fel rhan o'r adroddiad atodol a ddosbarthwyd.

 

6.

Cais am roi Trwydded Mangre - Rum and Co pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Gofynnwyd i'r aelodau ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cais canlynol i gymeradwyo Trwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Enw'r fangre

Rum a Co.

Cyfeiriad y fangre

12 Stryd Fawr, Pontardawe SA8 4HU

Enw'r Ymgeisydd

Gourmet Catering Solutions Cyf

Cyfeiriad yr ymgeisydd

85 Heol Cilmaengwyn, Pontardawe SA8 4QW

Enw'r GMD

Daniel Dyer

 

  1. PENDERFYNWYD:   Y byddai’r Is-bwyllgor yn cymeradwyo'r cais am drwydded mangre, gydag amodau. Byddai'r oriau gweithredu a’r amodau canlynol yn berthnasol yn ogystal ag unrhyw amodau sy'n gyson â'r amserlen weithredu.

 

Oriau Agor

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 – 01:00

 

Cyflenwi alcohol (ar y safle ac oddi arno)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 - 00:30

 

Ffilmiau (dan do)

 

Dydd Llun i ddydd Sul     09:00 - 00:30

 

Cerddoriaeth fyw (dan do)

 

Dydd Sul i ddydd Iau      12:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   12:00 - 00:30

 

Cerddoriaeth wedi'i Recordio (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Dydd Sul i ddydd Iau     12:00 - 00:00

Dydd Gwener a dydd Sadwrn   12:00 - 00:30

 

Lluniaeth yn hwyr y nos (dan do ac yn yr awyr agored (gan ddibynnu ar y tywydd))

 

Nos Lun i nos Sul    
23:00 - 00:30

 

·         Bydd yr ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras") ar gau i gwsmeriaid rhwng 22:00 a 09:00 bob dydd, yn amodol ar yr amod canlynol. 

 

·         Bydd hawl defnyddio'r ardal allanol (a nodwyd ar y cynllun fel "ciniawa teras") ar gyfer smygu rhwng 22:00 a 09:00 ar yr amod y bodlonir yr amodau canlynol,

§  Bydd uchafswm o 4 cwsmer yn yr ardal ar unrhyw adeg.

§  Ni fydd cwsmeriaid yn mynd ag unrhyw ddiodydd na bwyd i'r ardal.

§  Bydd aelod o staff yn rheoli'r mynediad i'r ardal er mwyn sicrhau bod yr amodau uchod yn cael eu bodloni.

 

·         Bydd o leiaf 2 oruchwyliwr drws trwyddedig Awdurdod y Diwydiant Diogelwch ar ddyletswydd o 22:00 tan amser cau bob nos Wener a nos Sadwrn, y nos Iau cyn Dydd Gwener y Groglith, Noswyl Nadolig, Gŵyl San Steffan a Nos Galan. Ar bob adeg arall, bydd deiliad y drwydded mangre'n asesu'r angen am oruchwylwyr drysau ac yn darparu goruchwyliaeth drws rhwng yr adegau hynny ac yn ôl yr angen sy'n ofynnol gan yr asesiad risg.

 

·         Bydd pob goruchwyliwr drws yn arddangos ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch mewn rhwymyn braich adlewyrchol pan fydd ar ddyletswydd.

 

·        Bydd cofrestr ddyddiol o bersonél diogelwch yn cael ei chadw. Bydd y gofrestr yn dangos enw, cyfeiriad a rhif trwydded pob goruchwyliwr drws, a'r dyddiadau a'r amseroedd y maent yn gweithredu. Rhaid bod y gofrestr ar gael i'w harchwilio gan yr heddlu a swyddogion awdurdodedig yr awdurdod lleol.

 

·        Bydd aelod o staff o'r fangre, sy'n gyfarwydd â gweithredu'r system teledu cylch cyfyng, ar y safle bob amser pan fydd y fangre ar agor i'r cyhoedd. Bydd yr aelod staff hwn yn gallu dangos a darparu data neu luniau diweddar i'r heddlu neu'r swyddog awdurdodedig gyda chyn lleied o oedi â phosib yn dilyn cais  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

llygredd swn datganiad pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Adolygwyd y datganiad am lygredd sŵn, fel rhan o'r adroddiad atodol a ddosbarthwyd.

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.