Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Rhoi'r
Gorchymyn (Gwahardd Aros, Llwytho neu Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) (Dirymiad) a
(Chlustogau Arafu) 2020 ar waith yn Swansea Road, Trebannws (fel y nodwyd yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd) fel y'i hysbysebwyd, a hysbysu'r
gwrthwynebydd yn briodol.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Lleihau
cyflymder y traffig ger yr ysgol a chaniatáu i gerbydau'r gwasanaethau brys a
chludiant cyhoeddus deithio'n ddiogel a gosod eu hunain fel bod eu holwynion ar
bob ochr i'r clustogau er diogelwch y ffordd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad
ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: Trebanos;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
1.
Nodi'r sefyllfa'r alldro cyfalaf ar gyfer 2019/20 fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Cymeradwyo trosglwyddo'r arian wrth gefn ychwanegol sef £1.161m fel a
grynhoir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad a ddosbarthwyd ac fel y nodwyd yn
Atodiad 4.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Cwblhau
sefyllfa Alldro Refeniw ac Arian Wrth gefn Cronfa Gyffredinol y cyngor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2019/20.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Nododd
Aelodau yr atodiad atodol sef Atodiad A a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod, gan fod
yr Atodiad A gwreiddiol yn ymwneud â Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar wahân, ac
fe'i hatodwyd ar gam.
Penderfyniad:
Rhoi'r
Gorchymyn Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg 2020 ar waith yn Leiros Parc Drive a
Ravenswood Close, Bryncoch, Castell-nedd (fel y nodwyd yn Atodiad A yr
adroddiad a ddosbarthwyd) fel y'i hysbysebwyd, a hysbysu'r gwrthwynebydd yn
briodol.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: BRYNCOCH SOUTH;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu
cynharach, cytunodd y Cabinet i gynnwys geiriad ychwanegol ym mhenderfyniad 3, fel
ei hysgrifennir mewn llythrennau bras ac italig.
1.
Nodi'r
cynnydd a wnaed ar y gwaith i wella Llywodraethu Corfforaethol a gyflawnwyd yn
ystod 2019-2020,
2.
Cymeradwyo
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-2020 a atodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad
a ddosbarthwyd,
3.
Cymeradwyo'r
gwaith gwella Llywodraethu Corfforaethol arfaethedig i'w wneud yn ystod
2019-2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn amodol ar
adolygiad cynnar a brys o'r amcanion, oherwydd effaith y pandemig coronafeirws.
Rheswm dros y penderfyniad:
I sicrhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn
bodloni gofynion Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
mewn perthynas â'r adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol
y cyngor a pharatoi a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Derbyniodd
yr aelodau ddiweddariad llafar am y sefyllfa gyfredol ynghylch cyllid a
chyhoeddiadau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys grantiau i fusnesau bach, y
Gronfa Cadernid Economaidd a chymorth Ardrethi Busnes Ardrethi Annomestig
Cenedlaethol, gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.
Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi rhagor o ddyfarniadau grant i wahanol gyrff
a sefydliadau yn yr wythnosau i ddod, yn ogystal â'r £24.4 miliwn sydd eisoes
wedi'i dalu i 2221 o sefydliadau.
Rhoddwyd
diweddariad ar y cyllid i'r cyngor a'r gwasanaethau mae'n eu darparu (arian ar
gyfer cyllid llywodraeth leol)
·
Sicrhawyd bod £30 miliwn ar gael i ddechrau (£7 miliwn ar gyfer prydau
ysgol am ddim, £10 miliwn ar gyfer y digartref ac £13 miliwn ar gyfer
gwasanaethau cyffredinol).
·
Sicrhawyd bod £40 miliwn pellach ar gael ar gyfer y gronfa caledi gofal cymdeithasol
hyd at ddiwedd mis Mai,
·
£33 miliwn pellach ar gyfer prydau ysgol am ddim, tan ddiwedd mis Awst,
·
a £3 miliwn ar gyfer TG i blant diamddiffyn nad oes ganddynt fynediad at
dechnoleg.
Disgwylid
rhagor o gyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir.
Nododd
Aelodau y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £500 i weithwyr gofal - rhagwelwyd y
byddai'r arian hwn yn mynd yn syth i'r darparwyr gofal preswyl i'w ddosbarthu,
gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mwyach o fewn y cyngor. Nid oedd
cymhwyster ar gyfer y taliad yn eglur eto, ond byddai rhagor o ddiweddariadau'n
cael eu darparu i Aelodau pan fyddent ar gael:
Roedd
Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu £63,000 i'r cyngor ar gyfer mis Mawrth ar gyfer
gwariant uwch oherwydd pandemig Covid-19 ac roedd cais am £814,000 wedi'i
gyflwyno ar gyfer mis Ebrill.
Roedd
gwybodaeth wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru ynghylch colli incwm a'r effaith ar gymorth a chasglu Treth y Cyngor -
roedd y cyfarwyddwr yn aros am eglurhad ynghylch unrhyw gyllid posib ar gyfer
hyn.
Byddai
adolygiad monitro'r gyllideb yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Mai i nodi
canlyniadau'r materion hyn ar gyllidebau'r cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth
yr Aelodau y byddai adroddiad monitro'r gyllideb cynnar yn cael ei gyflwyno yng
nghyfarfod nesaf y Cabinet i'w drafod.
Penderfyniad:
Penderfynwyd
cofnodi'r diweddariad llafar.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Cymeradwyo
sefyllfa alldro Rhaglen Gyfalaf 2019/20.
Rheswm dros
y penderfyniad:
Cytuno ar
sefyllfa'r alldro cyfalaf ar gyfer 2019/20.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Yn y
cyfarfod, trafododd yr Aelodau benodiad Alyson Jones i Ysgol Gynradd Crymlyn.
Nid oedd y penodiad hwn wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan mai
hi oedd yr ail ymgeisydd i ymgeisio am y swydd yn Ysgol Gynradd Awel y Môr.
Penderfyniadau:
Un unol â
pholisi cymeradwy, penodir y cynrychiolwyr Llywodraethwr yr Awdurdod Lleol
canlynol i'r swyddi gwag isod sy'n bodoli eisoes ac sydd ar ddod:
Ysgol Gynradd Awel y Môr
Penodi Phillip O’Leary
Ysgol Gynradd Baglan
Ailbenodi'r Cynghorwyr Carol Clement-Williams a
Peter Richards
Ysgol Gynradd Blaenbaglan
Ailbenodi'r Cynghorydd Peter Richards
Ysgol Gynradd Catwg
Ailbenodi Reanne Lee
Ysgol Gyfun Cefn Saeson
Ailbenodi'r Cynghorwyr
John Warman, Peter Rees a Sheila Penry
Ysgol Gynradd Cilfrew
Ailbenodi Arlene Harvey a'r Cynghorydd Doreen Jones
Ysgol Gynradd Crymlyn
Penodi Alyson Jones
Ysgol Gynradd Cwmnedd
Ailbenodi Eddie Exley Jones
Ysgol Gyfun Cwmtawe
Ailbenodi'r Cynghorydd Linet Purcell a Julie
Mallinson
Ysgol Gyfun Dŵr y Felin
Ailbenodi Campbell T Coram, D Keith Davies a Paul Winstone
Ysgol Gynradd y Gnoll
Ailbenodi'r Cynghorydd Alan Lockyer
Ysgol Gynradd Godre’r-graig
Ailbenodi'r Cynghorydd Rosalyn Davies
Ysgol Gymunedol Llangatwg
Ailbenodi'r Cynghorydd Doreen Jones ac Aylwin Jones
Penodi Christopher Coles
Rhyd y Fro
Ailbenodi John Williams
Ysgol Gynradd Tonnau
Penodi Jeanette Francis
Ysgol Gynradd Waunceirch
Ailbenodi Bethan Healey
Ysgol Gynradd Ynysfach
Ailbenodi Aylwin Jones
YGG Blaendulais
Ailbenodi'r Cynghorydd Karl Hunt ac Emyr Lewis
YGG Castell-nedd
Ailbenodi'r Cynghorydd John Miller
YGG Cwmnedd
Ailbenodi'r Cynghorydd Del Morgan
YGG Pontardawe
Ailbenodi David Howell Lloyd Williams
YGG Trebannws
Ailbenodi'r Cynghorydd Rebeca Phillips
Rheswm dros
y penderfyniad:
Galluogi'r
awdurdod i gyfrannu at lywodraethu ysgolion effeithiol drwy gynrychiolaeth ar
gyrff llywodraethu ysgolion
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Wards affected: Aberavon; Aberdulais; Baglan; BRYNCOCH SOUTH; Cadoxton; Cimla; Coedffranc Central; Coedffranc West; Glynneath; Godre'r Graig; Lower Brynamman; Neath East; Neath North; Pontardawe; Rhos; Sandfields East; Sandfields West; Seven Sisters; Tonna; Trebanos; Ystalyfera;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/06/2020
Effective from: 21/05/2020
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Cytuno ar yr
ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd, fel y nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a
ddosbarthwyd, a chyhoeddi'r Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy,
fel y nodwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
I sicrhau
bod strategaeth/cynllun gweithredu clir yn cael ei gyhoeddi gan y cyngor mewn
perthynas â'r agenda newid yn yr hinsawdd/datgarboneiddio.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Mae'r eitem
hon wedi bod yn destun ymgynghoriad allanol.
Wards affected: (All Wards);