Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyniodd
yr aelodau ddiweddariad llafar am y sefyllfa gyfredol ynghylch cyllid a
chyhoeddiadau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys grantiau i fusnesau bach, y
Gronfa Cadernid Economaidd a chymorth Ardrethi Busnes Ardrethi Annomestig
Cenedlaethol, gan y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol.
Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi rhagor o ddyfarniadau grant i wahanol gyrff
a sefydliadau yn yr wythnosau i ddod, yn ogystal â'r £24.4 miliwn sydd eisoes
wedi'i dalu i 2221 o sefydliadau.
Rhoddwyd
diweddariad ar y cyllid i'r cyngor a'r gwasanaethau mae'n eu darparu (arian ar
gyfer cyllid llywodraeth leol)
·
Sicrhawyd bod £30 miliwn ar gael i ddechrau (£7 miliwn ar gyfer prydau
ysgol am ddim, £10 miliwn ar gyfer y digartref ac £13 miliwn ar gyfer
gwasanaethau cyffredinol).
·
Sicrhawyd bod £40 miliwn pellach ar gael ar gyfer y gronfa caledi gofal cymdeithasol
hyd at ddiwedd mis Mai,
·
£33 miliwn pellach ar gyfer prydau ysgol am ddim, tan ddiwedd mis Awst,
·
a £3 miliwn ar gyfer TG i blant diamddiffyn nad oes ganddynt fynediad at
dechnoleg.
Disgwylid
rhagor o gyhoeddiadau cyllid gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir.
Nododd
Aelodau y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi £500 i weithwyr gofal - rhagwelwyd y
byddai'r arian hwn yn mynd yn syth i'r darparwyr gofal preswyl i'w ddosbarthu,
gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu mwyach o fewn y cyngor. Nid oedd
cymhwyster ar gyfer y taliad yn eglur eto, ond byddai rhagor o ddiweddariadau'n
cael eu darparu i Aelodau pan fyddent ar gael:
Roedd
Llywodraeth Cymru wedi ad-dalu £63,000 i'r cyngor ar gyfer mis Mawrth ar gyfer
gwariant uwch oherwydd pandemig Covid-19 ac roedd cais am £814,000 wedi'i
gyflwyno ar gyfer mis Ebrill.
Roedd
gwybodaeth wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru ynghylch colli incwm a'r effaith ar gymorth a chasglu Treth y Cyngor -
roedd y cyfarwyddwr yn aros am eglurhad ynghylch unrhyw gyllid posib ar gyfer
hyn.
Byddai
adolygiad monitro'r gyllideb yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Mai i nodi
canlyniadau'r materion hyn ar gyllidebau'r cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth
yr Aelodau y byddai adroddiad monitro'r gyllideb cynnar yn cael ei gyflwyno yng
nghyfarfod nesaf y Cabinet i'w drafod.
Penderfyniad:
Penderfynwyd
cofnodi'r diweddariad llafar.
Dyddiad cyhoeddi: 22/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet