Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniadau:
Yn dilyn argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Craffu
cynharach, cytunodd y Cabinet i gynnwys geiriad ychwanegol ym mhenderfyniad 3, fel
ei hysgrifennir mewn llythrennau bras ac italig.
1.
Nodi'r
cynnydd a wnaed ar y gwaith i wella Llywodraethu Corfforaethol a gyflawnwyd yn
ystod 2019-2020,
2.
Cymeradwyo
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2019-2020 a atodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad
a ddosbarthwyd,
3.
Cymeradwyo'r
gwaith gwella Llywodraethu Corfforaethol arfaethedig i'w wneud yn ystod
2019-2021, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn amodol ar
adolygiad cynnar a brys o'r amcanion, oherwydd effaith y pandemig coronafeirws.
Rheswm dros y penderfyniad:
I sicrhau bod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn
bodloni gofynion Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014
mewn perthynas â'r adolygiad blynyddol o effeithiolrwydd systemau rheoli mewnol
y cyngor a pharatoi a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y
penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.
Dyddiad cyhoeddi: 22/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 21/05/2020
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/05/2020 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: