Use the below search options at the bottom of the page to find information regarding recent decisions that have been taken by the council’s decision making bodies.
Alternatively you can visit the officer decisions page for information on officer delegated decisions that have been taken by council officers.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus
i'r Asesiad Effaith Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
cynnwys y canlynol ar y
Rhestr Gymeradwy o Gontractwyr yn y categorïau isod:-
Cwmni a Chategori
Bolt Alarm Response Ltd
(B039) - 3
RTL Group T/A Roofing
Tech (R040) - 15, 16, 17a-e
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Sicrhau bod y Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael
gystadleuol.
Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o
Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
yn unol ag Adran 3
Rheolau Gweithdrefn Contract y cyngor, y dylid grymuso swyddogion awdurdodedig
i ddefnyddio Fframwaith Gwasanaethau Peirianneg Sifil Rhanbarthol De-orllewin a
Chanolbarth Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Galluogi ar gyfer
caffael Gwasanaethau Ymgynghori yn amserol yn unol â Rheoliadau Contractau
Cyhoeddus 2015 (gan gynnwys Diwygiadau Dilynol) a Rheolau Gweithdrefnau
Contract y cyngor ei hun.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, nodwyd y byddai
swyddogion yn ysgrifennu at bob Aelod gyda manylion y gwaith sydd i'w wneud yn
eu wardiau o dan y rhaglen newydd.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid cymeradwyo gwariant y Rhaglen Waith ar
gyfer 2021/2022, fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Er mwyn cynnal asedau y
mae'r cyngor yn gyfrifol amdanynt a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn
perthynas â'r un peth.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd
y dylid cymeradwyo’r Cynllun Rheoli Coedyddiaeth,
fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Er mwyn caniatáu dull cyson o reoli coed ar draws y
fwrdeistref sirol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
ar Henfaes Road a Park Street, Tonna -
Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw adeg (fel y nodir yn Atodiad A i'r
adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid
gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth a helpu llif y traffig er budd diogelwch ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Wards affected: Tonna;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Esboniodd swyddogion fod hyn yn cael ei wneud ar gyfer Gwasanaethau Gofal
Stryd o ganlyniad i nifer yr ymwelwyr a oedd yn ymweld â'r parc yn lleol, gan
arwain at dagfeydd traffig a pharcio diwahaniaeth ar y dreifiau yn ystâd ardal
Cimla, a oedd yn achosi tagfeydd ac anhawster i gerbydau fynd heibio.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar hyd
y B4287 Cimla Road a lôn fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll,
Castell-nedd - Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar
Unrhyw adeg. Lôn fynediad gorllewinol y Gnoll a'r lôn o Beechwood Avenue i lôn
fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll, Castell-nedd - Gorchymyn
rheoleiddio traffig ffordd glir (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r
adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid
gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Atal parcio diwahaniaeth er budd
diogelwch cerddwyr a ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: Cimla; Neath North; Neath South;
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi
cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Gwaharddiad
Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw Adeg yn Somerset Street a Somerset Lane, Tai-bach
(fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbyniwyd
unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u
hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Atal parcio
diwahaniaeth er diogelwch y briffordd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Esboniodd swyddogion eu
bod wedi derbyn y grantiau gan Lywodraeth Cymru wedi hynny ac y byddent bellach
yn datblygu'r prosiectau hyn. Hysbyswyd
yr Aelodau am y dyfarniadau grant yn eu wardiau priodol.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi caniatâd i
Swyddogion Adrannau Traffig, ar gyfer gorchmynion rheoleiddio traffig a
gynhwysir yn atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd, rhestr o gynlluniau ar
gyfer 2021-2022, a chânt eu hysbysebu yn unol â'r gofynion statudol. Y
cynlluniau i'w gweithredu yn unol â'r gofynion statudol perthnasol sydd wedi'u
cynnwys yn y rheoliadau Traffig Ffyrdd presennol, ar yr amod na dderbynnir
unrhyw wrthwynebiadau. Pe bai unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn mewn
perthynas ag unrhyw gynlluniau, byddai'r rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i Fwrdd
y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am benderfyniad.
Rheswm dros y penderfyniad:
Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch
ffyrdd yn y Fwrdeistref Sirol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Wards affected: (All Wards);
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 27/04/2021
Effective from: 31/03/2021
Penderfyniad:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi
cymeradwyaeth i Swyddogion Adrannau Traffig, ar gyfer y cynlluniau a gynhwysir
yn Rhaglen Gyfalaf Traffig 2021-2022, a chânt eu hysbysebu yn unol â'r gofynion
statudol, ac y dylid gweithredu'r cynlluniau yn unol â'r gofynion statudol
perthnasol a geir yn y rheoliadau Traffig Ffyrdd presennol, ar yr amod na
dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau. Pe bai unrhyw wrthwynebiadau'n cael eu derbyn
mewn perthynas ag unrhyw gynlluniau, byddai'r rhain yn cael eu hadrodd yn ôl i
Fwrdd y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg am benderfyniad.
Rheswm dros y penderfyniad:
Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch
ffyrdd ac yn darparu darpariaethau parcio digonol o fewn y Fwrdeistref Sirol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.