Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Statws: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd
1.
Bod Rheol 11 y Rheolau
Gweithdrefnau Contract yn cael ei hatal a bod awdurdod yn cael ei roi i'r
Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth i ymestyn contractau o'r Cartref i'r Ysgol,
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat.
2.
Nodi y bydd fframwaith newydd
ar gyfer Gwasanaethau Trafnidiaeth Teithwyr (fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat) yn cael ei
gyflwyno o fis Chwefror 2022.
Rheswm dros y penderfyniadau:
1.
Bydd
ymestyn y contractau yn sicrhau nad effeithir ar gyllideb y cyngor gan gostau
chwyddedig sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i'r pandemig, bydd hefyd yn rhoi
sicrwydd i weithredwyr sy'n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd
Port Talbot.
2.
Bydd
y fframwaith newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd wrth gaffael gofynion
trafnidiaeth ar gyfer y cyngor.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 27/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Effective from: 31/03/2021
Dogfennau Cefnogol: