Statws: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Esboniodd swyddogion fod hyn yn cael ei wneud ar gyfer Gwasanaethau Gofal
Stryd o ganlyniad i nifer yr ymwelwyr a oedd yn ymweld â'r parc yn lleol, gan
arwain at dagfeydd traffig a pharcio diwahaniaeth ar y dreifiau yn ystâd ardal
Cimla, a oedd yn achosi tagfeydd ac anhawster i gerbydau fynd heibio.
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd,
y dylid rhoi cymeradwyaeth i hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar hyd
y B4287 Cimla Road a lôn fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll,
Castell-nedd - Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar
Unrhyw adeg. Lôn fynediad gorllewinol y Gnoll a'r lôn o Beechwood Avenue i lôn
fynediad gorllewinol y Gnoll, Parc y Gnoll, Castell-nedd - Gorchymyn
rheoleiddio traffig ffordd glir (fel y nodir yn Atodiad A ac Atodiad B i'r
adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid
gweithredu'r cynigion ar y safle fel y'u hysbysebwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Atal parcio diwahaniaeth er budd
diogelwch cerddwyr a ffyrdd.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dyddiad cyhoeddi: 27/04/2021
Dyddiad y penderfyniad: 26/03/2021
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/03/2021 - Bwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet
Effective from: 31/03/2021
Dogfennau Cefnogol: