Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 85 KB Cofnodion: Caiff cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd
ar 5 Medi 2019 eu cymeradwyo yn amodol ar y diwygiad canlynol: Tudalen 6 - Astudiaeth Dichonoldeb Cartref Gofal
Preswyl Trem y Glyn Bod y paragraff sy'n cynnwys y canlynol: Gofynnodd y pwyllgor a fyddai'r gwerthusiad yr un
peth â'r hyn a gynhaliwyd yn flaenorol lle nodwyd bod yr angen am ofal preswyl
yn lleihau. yn cael ei ddisodli gan: Gofynnodd y pwyllgor a fyddai'r gwerthusiad yn
defnyddio'r un meini prawf ag a ddefnyddiwyd pan gynhaliwyd y gwerthusiad
blaenorol a ddaeth i'r casgliad bod yr angen am ofal preswyl yn lleihau.
Eglurwyd bod y strategaeth wedi newid o ganolbwyntio'n unig ar daliadau
uniongyrchol i ddatblygu opsiynau ychwanegol ar gyfer gofal preswyl. |
|||
PRE-DECISION SCRUTINY Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adroddiad Blynyddol Gofalwyr Bae'r Gorllewin Derbyniodd y pwyllgor ddiweddariad am gynnydd rhoi
Cynllun Gweithredu Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin ar gyfer 2018-19
ar waith, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr aelodau'n falch bod yr Adroddiad Blynyddol
yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn llawn gwybodaeth. Yn ogystal, roedd
aelodau'n falch bod yr wybodaeth wedi'i llunio yn ieithoedd y gymuned ond
credwyd y dylid rhoi ystyriaeth i lunio gwybodaeth sy'n glir ac yn hawdd ei
darllen. Codwyd yr ymholiadau canlynol gan aelodau: ·
A fu cynnydd yn niferoedd y
gofalwyr sy'n nodi eu bod yn ofalwyr? Mae Gweithwyr
Cymdeithasol yn parhau i geisio nodi gofalwyr fel rhan o'u gwaith beunyddiol a
chynhaliwyd ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth ychwanegol yn y Gwasanaethau i
Oedolion. Datblygodd y Gwasanaethau Plant raglen hyfforddiant gydag ysgolion i
geisio nodi a chefnogi gofalwyr ifanc. Cymerodd 1,600 o bobl ifanc ran yn y
sesiwn awr a daeth 200 o ofalwyr ifanc ymlaen i ofyn am gymorth. Yn ogystal,
mae 2 ofalwr ifanc yn aelodau o'r Cyngor Ieuenctid ac maent yn rhagweithiol
iawn wrth gyflwyno materion. ·
A oedd cynlluniau i ymgysylltu
â'r clybiau ieuenctid? Roedd cludiant yn
broblem fawr i ofalwyr ifanc er mwyn cyrraedd y clybiau ieuenctid. Hefyd, pan
ofynnwyd iddynt, dywedodd y gofalwyr ifanc eu bod yn mwynhau bod yng nghwmni
gofalwyr eraill fel y gallant rannu eu profiadau. Cynhelir y cyfarfodydd hyn
bob wythnos a darperir cludiant i hwyluso hyn. Gwnaed cysylltiadau hefyd ag
asiantaethau eraill i sicrhau bod y gofalwyr ifanc yn derbyn yr holl gefnogaeth
angenrheidiol. ·
Pam na ellid cynnal yr asesiad
gofalwyr ar yr un pryd ag asesiad defnyddiwr y gwasanaeth? Nodwyd hyn gan rai
gofalwyr fel opsiwn a ffefrir. Esboniodd swyddogion
fod yr adborth a dderbyniwyd yn rhoi safbwynt gwahanol a bod y Gwasanaeth
Gofalwyr yn cynnal y rhain ar ran y cyngor. Pe bai'n well gan unrhyw ofalwr
gael y ddau asesiad ar yr un pryd, yna byddai hyn yn cael ei drefnu. ·
Pam nad oedd yr arian ar gyfer
Cynllun Gweithredu Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin wedi cael ei rannu'n
gyfartal rhwng y partneriaid? Esboniodd swyddogion y
cytunwyd yn hanesyddol ar y meini prawf ar gyfer rhannu'r arian pan gafodd y
bartneriaeth ei sefydlu. Gyda'r bartneriaeth newydd rhwng Castell-nedd Port
Talbot ac Abertawe, sef Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg, rhennir yr arian
rhwng y ddau awdurdod. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin
2018/19 Derbyniwyd gwybodaeth mewn perthynas ag Adroddiad
Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018/19 fel y nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Roedd aelodau'n falch bod y Bwrdd Diogelu Ieuenctid
wedi'i sefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd trefniadau tebyg yn cael
eu gwneud yn Abertawe. Derbyniwyd esboniad y byddai nifer y lleoliadau
gofal ledled y rhanbarth ar gael yn yr adroddiad nesaf sef Adroddiad Blynyddol
Diogelu Gorllewin Morgannwg. Roedd aelodau'n poeni mai dim ond yn awr yn y mae protocol ar gyfer Cartrefi Gofal Plant a'u dyletswyddau i blant coll yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||
Rhaglen waith craffu ymlaen 2019/20 PDF 80 KB Cofnodion: Nododd y pwyllgor y trefnwyd Seminar i'r Holl
Aelodau ar gyfer 24 Hydref 2019. Hefyd byddai'r Adroddiad Awtistiaeth yn barod
i'w ystyried yn y cyfarfod nesaf. |