Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Adroddiad Blynyddol Gofalwyr Bae'r Gorllewin
Derbyniodd y pwyllgor ddiweddariad am gynnydd rhoi
Cynllun Gweithredu Bwrdd Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin ar gyfer 2018-19
ar waith, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr aelodau'n falch bod yr Adroddiad Blynyddol
yn cynnwys astudiaethau achos a oedd yn llawn gwybodaeth. Yn ogystal, roedd
aelodau'n falch bod yr wybodaeth wedi'i llunio yn ieithoedd y gymuned ond
credwyd y dylid rhoi ystyriaeth i lunio gwybodaeth sy'n glir ac yn hawdd ei
darllen.
Codwyd yr ymholiadau canlynol gan aelodau:
·
A fu cynnydd yn niferoedd y
gofalwyr sy'n nodi eu bod yn ofalwyr?
Mae Gweithwyr
Cymdeithasol yn parhau i geisio nodi gofalwyr fel rhan o'u gwaith beunyddiol a
chynhaliwyd ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth ychwanegol yn y Gwasanaethau i
Oedolion. Datblygodd y Gwasanaethau Plant raglen hyfforddiant gydag ysgolion i
geisio nodi a chefnogi gofalwyr ifanc. Cymerodd 1,600 o bobl ifanc ran yn y
sesiwn awr a daeth 200 o ofalwyr ifanc ymlaen i ofyn am gymorth. Yn ogystal,
mae 2 ofalwr ifanc yn aelodau o'r Cyngor Ieuenctid ac maent yn rhagweithiol
iawn wrth gyflwyno materion.
·
A oedd cynlluniau i ymgysylltu
â'r clybiau ieuenctid?
Roedd cludiant yn
broblem fawr i ofalwyr ifanc er mwyn cyrraedd y clybiau ieuenctid. Hefyd, pan
ofynnwyd iddynt, dywedodd y gofalwyr ifanc eu bod yn mwynhau bod yng nghwmni
gofalwyr eraill fel y gallant rannu eu profiadau. Cynhelir y cyfarfodydd hyn
bob wythnos a darperir cludiant i hwyluso hyn. Gwnaed cysylltiadau hefyd ag
asiantaethau eraill i sicrhau bod y gofalwyr ifanc yn derbyn yr holl gefnogaeth
angenrheidiol.
·
Pam na ellid cynnal yr asesiad
gofalwyr ar yr un pryd ag asesiad defnyddiwr y gwasanaeth? Nodwyd hyn gan rai
gofalwyr fel opsiwn a ffefrir.
Esboniodd swyddogion
fod yr adborth a dderbyniwyd yn rhoi safbwynt gwahanol a bod y Gwasanaeth
Gofalwyr yn cynnal y rhain ar ran y cyngor. Pe bai'n well gan unrhyw ofalwr
gael y ddau asesiad ar yr un pryd, yna byddai hyn yn cael ei drefnu.
·
Pam nad oedd yr arian ar gyfer
Cynllun Gweithredu Partneriaeth Gofalwyr Bae'r Gorllewin wedi cael ei rannu'n
gyfartal rhwng y partneriaid?
Esboniodd swyddogion y
cytunwyd yn hanesyddol ar y meini prawf ar gyfer rhannu'r arian pan gafodd y
bartneriaeth ei sefydlu. Gyda'r bartneriaeth newydd rhwng Castell-nedd Port
Talbot ac Abertawe, sef Partneriaeth Gofalwyr Gorllewin Morgannwg, rhennir yr arian
rhwng y ddau awdurdod.
Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.
Adroddiad Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin
2018/19
Derbyniwyd gwybodaeth mewn perthynas ag Adroddiad
Blynyddol Byrddau Diogelu Bae'r Gorllewin 2018/19 fel y nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd.
Roedd aelodau'n falch bod y Bwrdd Diogelu Ieuenctid
wedi'i sefydlu yng Nghastell-nedd Port Talbot. Roedd trefniadau tebyg yn cael
eu gwneud yn Abertawe.
Derbyniwyd esboniad y byddai nifer y lleoliadau
gofal ledled y rhanbarth ar gael yn yr adroddiad nesaf sef Adroddiad Blynyddol
Diogelu Gorllewin Morgannwg.
Roedd aelodau'n poeni mai dim ond yn awr yn y mae
protocol ar gyfer Cartrefi Gofal Plant a'u dyletswyddau i blant coll yn cael ei
ddatblygu. Rhoddwyd esboniad mai protocol newydd oedd hwn a'i fod yn cael ei
ddatblygu gyda Heddlu De Cymru o ganlyniad i nifer cynyddol o gartrefi gofal
preswyl preifat i blant yn agor yn y fwrdeistref sirol. Nid oes rheoliadau i
gyfyngu ar y niferoedd o'r cartrefi hyn a oedd yn cael eu defnyddio'n bennaf ar
gyfer plant o awdurdodau eraill. Nodwyd pwysau gan yr Heddlu o ran nifer y
galwadau a oedd yn cael eu derbyn gan y cartrefi hyn pan fyddai plentyn yn eu
gofal yn mynd ar goll, er bod y cartrefi hyn yn y rhan fwyaf o achosion yn
gwybod lle mae'r plentyn wedi bod yn aros. Roedd gwaith yn parhau i edrych ar y
diffiniad o blentyn sy'n mynd ar goll er mwyn cynorthwyo'r heddlu. Cafwyd
cadarnhad fod Heddlu De Cymru'n gyfrifol am gostau'r heddlu wrth chwilio am
blentyn coll.
Er mwyn ateb ymholiadau aelodau, cafwyd cadarnhad
bod gan y cyngor drefniadau monitro ar waith ar gyfer y plant sy'n derbyn gofal
sy'n mynd ar goll. Roedd Barnardos wedi cyfweld â'r holl blant ar ôl un achos i
geisio darganfod pam yr aeth y plentyn ar goll. Yr heddlu'n unig sydd â'r data
am yr holl blant yr adroddir eu bod ar goll. Yr awdurdod lleoli oedd yn dal yn
gyfrifol am blant o'r tu allan i'r sir sy'n cael eu rhoi mewn cartrefi gofal
preswyl preifat.
Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.
Polisi Cludiant â Chymorth
Cafodd y pwyllgor wybodaeth am ganlyniad yr
ymgynghoriad ar Bolisi Cludiant â Chymorth y Gwasanaethau i Oedolion fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnodd aelodau am eglurhad cyfreithiol ar
elfennau symudedd y Taliadau Annibyniaeth Personol (TAP) a'r Lwfans Byw i'r
Anabl (LBA). Eglurwyd bod y rheoliadau'n mynnu bod y cyngor yn anwybyddu
elfennau symudedd y TAP a'r LBA wrth gyfrifo rhwymedigaethau person i gyfrannu
tuag at gost eu gofal a chefnogaeth. Nid oes ganddynt ymroadau wrth ystyried pa
gludiant ymarferol/adnoddau symudedd sydd gan berson eisoes neu y gall gael
mynediad atynt wrth asesu a oes angen
darparu cludiant i wasanaeth dydd.
Sicrhawyd aelodau na fyddai disgwyl i ddefnyddwyr
gwasanaeth ddod o hyd i'w cludiant eu hunain os na fyddai gofalwr yn gallu mynd
â nhw i ganolfannau dydd oherwydd ymrwymiadau personol. Byddai cludiant yn cael
ei ddarparu o hyd.
Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, eglurwyd na
fyddai effaith ar gymunedau'r cymoedd. Roedd yr asesiad yn seiliedig ar angen
unigolyn. Pe bai'r asesiad yn dod i'r casgliad y gallai defnyddiwr y gwasanaeth
ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ond nad oedd cludiant cyhoeddus ar gael,
byddai'r cyngor yn sicrhau y darperir cludiant i alluogi defnyddiwr y
gwasanaeth i fynd i wasanaethau dydd.
Cafwyd trafodaeth ynghylch a fyddai effaith ar y
gweithlu a oedd yn darparu'r cludiant. Eglurwyd nad oedd swyddogion yn teimlo y
byddai effaith gan y byddai'n rhaid parhau i ddarparu cludiant i ddefnyddwyr
gwasanaeth.
Gofynnodd aelodau a fyddai unrhyw gyfle i
asiantaethau eraill ddefnyddio gwasanaethau cludiant y cyngor yn ystod unrhyw
amserau segur. Byddai swyddogion yn codi'r mater gyda'r adran berthnasol.
Roedd y pwyllgor yn pryderu ynghylch y diffyg
ymateb i'r ymgynghoriad gan ddefnyddwyr gwasanaeth, er gwaethaf y ffaith bod
1,800 o bobl yn ei ddefnyddio. Eglurodd y swyddog fod pob defnyddiwr gwasanaeth
wedi derbyn llythyr, bod nifer o ddigwyddiadau cynyddu ymwybyddiaeth wedi’u
trefnu ac y defnyddiwyd cyfryngau cymdeithasol.
Cafwyd trafodaeth bellach am y gwaith paratoi a
gafwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth i'w galluogi i deithio'n annibynnol a gwybod
yr hyn i'w wneud pe bai rhywbeth yn digwydd sy'n wahanol i'r drefn arferol. Yn
ogystal, cafwyd trafodaeth â'r gyrwyr bysus perthnasol fel eu bod yn ymwybodol
o broblemau posib. Ar gais yr aelodau,
byddai swyddogion yn ymchwilio i ba hyfforddiant a ddarperir gan Gyfarwyddiaeth
Cludiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn fewnol ac a oes
unrhyw hyfforddiant allanol yn cael ei roi. Yn ogystal, byddai gan ofalwyr hawl
i docyn bws i fynd gyda defnyddwyr gwasanaeth os oeddent yn bodloni meini prawf
Llywodraeth Cymru.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Polisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am ganlyniad yr
ymgynghoriad cyhoeddus ar Bolisi Tegwch Darpariaeth Gwasanaethau y Gwasanaethau
i Oedolion fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd y pwyllgor yn fodlon ar y newidiadau i'r
polisi fel y'u cynigiwyd mewn cyfarfod blaenorol o'r Pwyllgor Craffu Gofal
Cymdeithasol, Iechyd a Lles. Yn ogystal, roedd y pwyllgor yn hapus i gael
adroddiad blynyddol ond gofynnodd a fyddai modd ailgyflwyno'r adroddiad i'r
pwyllgor yn gynharach nag yn flynyddol pe bai unrhyw broblemau.
Gofynnodd yr aelodau am eglurder o ran yr ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr ymgynghoriad ynghylch pryd y byddai defnyddwyr
gwasanaeth yn gallu cael mynediad at Daliadau Uniongyrchol. Esboniodd
swyddogion, o dan y Ddeddf, os aseswyd angen, y byddai'n rhaid i'r cyngor
gynnig Taliadau Uniongyrchol.
Er mwyn ateb ymholiadau'r aelodau, dywedwyd bod gan
y cyngor restr o'r holl gontractwyr cymeradwy y comisiynir gwasanaethau
ganddynt ond ni fyddai'r rhestr hon yn cael ei rhannu â defnyddwyr gwasanaeth
i'w defnyddio gyda'u Taliadau Uniongyrchol. Gellid ystyried hyn fel y cyngor yn
ymyrryd â dewis defnyddwyr gwasanaeth. Mae'r cyngor yn sicrhau bod yr arian yn
cael ei wario'n briodol. Pe byddai angen, byddai'r cyngor yn darparu'r
gwasanaeth ac yn tynnu'r Taliadau Uniongyrchol yn eu hôl.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Adolygiad o'r Gwasanaethau Cefnogi Cymunedau –
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
Derbyniodd yr aelodau wybodaeth am estyn cylch
gorchwyl y Cydlynwyr Ardaloedd Lleol o'u hardaloedd daearyddol presennol ar
gyfer yr awdurdod lleol ehangach.
Rhoddwyd esboniad ar y gwahaniaethau rhwng
Cydlynwyr Ardaloedd Lleol a Chysylltwyr. Darparodd Cydlynwyr Ardaloedd Lleol
gefnogaeth ymyrryd yn gynnar ac atal i bobl ddiamddiffyn, ar draws pob oed a
demograffig. Roedd cysylltwyr yn edrych am wasanaethau cymunedol a oedd yn
ddewis amgen i wasanaethau nad ydynt bellach ar gael. Yn y dyfodol, byddai
cysylltwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r CALl i'w cynorthwyo yn eu rôl.
Rhoddwyd cadarnhad y cynyddwyd nifer y Cydlynwyr
Ardaloedd Lleol i chwech gan fod y gwasanaeth wedi'i ehangu ledled y
fwrdeistref sirol.
Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.
Cynllun Blynyddol Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd
yn Gynnar Castell-nedd Port Talbot 2019 – 2020
Derbyniodd y pwyllgor y cefndir a chrynodeb cynnwys
Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot 2019 – 2020 fel y nodwyd
yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd
Roedd yr aelodau'n falch bod adeilad wedi'i nodi ar
gyfer y Ganolfan Addysg.
Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch y
gefnogaeth a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Plant, Pobl Ifanc ac Iechyd Meddwl
(CAMHS). Eglurwyd y cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori misol gyda CAMHS a bod
hyn wedi galluogi mynediad cyflymach at wasanaethau. Roedd trafodaethau'n cael
eu cynnal ar hyn o bryd gyda CAMHS i ddatblygu swydd arbenigol yn y gwasanaeth.
Hefyd, yn y dyfodol, byddai CAMHS yn cynnal
archwiliadau o achosion y gorffennol i ddysgu ganddynt. Ar ôl hyn, byddai
adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor gyda chanlyniadau'r archwiliad.
Gofynnodd yr aelodau a oedd cysylltiad yn y data â
chyflyrau niwro-amrywiol gan nad oedd dim wedi'i gynnwys yn y data sydd yn yr
adroddiad. Esboniodd swyddogion fod y data a gasglwyd wedi'i reoli'n flaenorol
gan Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Bae'r Gorllewin. Byddai Bwrdd Cyfiawnder
Ieuenctid Gorllewin Morgannwg yn casglu data'n lleol a byddai'n cynnwys
gwybodaeth am addysg. Yn y dyfodol, byddai adroddiadau sy'n cael eu hystyried
gan y pwyllgor yn cynnwys data lleol.
Amlygwyd, o ganlyniad i weithio'n agos gyda'r
gwasanaethau plant a'r heddlu ar gam cynharach i atal ymddygiad rhag gwaethygu
ac arwain at weithgarwch troseddol, fod niferoedd y bobl ifanc y mae eu
hymddygiad yn gwaethygu wedi lleihau'n ddramatig.
Hefyd, gyda chyflwyno cyfarfodydd rheolaidd gyda
chynrychiolwyr y llys a'u presenoldeb ar y Bwrdd Rheoli, roedd perthnasoedd
gwaith cadarnhaol wedi datblygu.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.