Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Ynni - Dydd Mawrth, 27ain Chwefror, 2024 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:

 

Liz Bickerton

Datganiad cyffredinol - Gan ei bod yn ymgynghorydd llawrydd, sy'n ymgymryd â nifer o werthusiadau ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, y mae rhai ohonynt yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni.

Effeithlonrwydd ynni yw un o flaenoriaethau'r

Is-bwyllgor Ynni.

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 428 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir.

 

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 395 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Ynni.

 

5.

Cyflwyno Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Ne-orllewin Cymru pdf eicon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor am gynnydd y gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYALau) yn y Rhanbarth.

Esboniwyd bod y CYALau yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu datblygiad y CYALau  ym mhob un o'r 22 sir ar draws Cymru. Soniwyd bod nifer o Awdurdodau Lleol, gan gynnwys Sir Benfro, yn rhan o brosiect peilot; ac felly, maent eisoes wedi cyflawni eu CYALau. Cadarnhawyd bod y CYALau ar gyfer y 18 sir sy'n weddill yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â'r darparwyr gwasanaethau ar hyn o bryd; roedd City Science yn darparu'r CYALau ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin. Soniwyd bod City Science yn ymdrechu i sicrhau bod gan y pedwar CYAL synergedd rhyngddynt, i adlewyrchu'r pwyslais rhanbarthol.

Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru rhoi arian ar gyfer penodi tri aelod o staff cymorth i gynorthwyo gyda'r broses hon; cynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023, a chafodd dwy o'r tair swydd eu llenwi. Cadarnhawyd mai'r swyddi hyn oedd Rheolwr Prosiect Ynni, a Swyddog Prosiect Ynni; roedd y drydedd swydd yn wag ar hyn o bryd, fodd bynnag, roedd y swydd wrthi'n cael ei hysbysebu ac roedd swyddogion yn gobeithio llenwi'r swydd hon yn y dyfodol agos.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y cyllid ar gyfer y CYALau i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2024; roedd y tri CYAL a oedd yn weddill ar gyfer y rhanbarth yn gwneud cynnydd da i'w cynhyrchu erbyn diwedd mis Chwefror 2024. Amlygwyd bod y drafftiau'n cael eu hystyried gan bob Awdurdod Lleol ar hyn o bryd ar gyfer sylwadau mewnol, a chyfleustodau ar gyfer y sylwadau modelu technegol.

Cafwyd cyflwyniad gan City Science. Eglurwyd bod Cynllunio Ynni Ardal Leol yn broses fanwl, gynhwysfawr a gynlluniwyd i nodi'r llwybrau mwyaf effeithiol at Sero Net ar gyfer y system ynni leol.

Mynegwyd mai'r Grŵp Cyfarwyddwyr Rhanbarthol, sy'n adrodd i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig oedd y grŵp llywio rhanbarthol ar gyfer cymeradwyo CYALau; er bod cynlluniau'n lleol, cawsant eu datblygu drwy gydweithio rhanbarthol a themâu sy'n cyd-fynd â'r pedair strategaeth ynni rhanbarthol.

Cyfeiriwyd at y rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn ystod datblygiad y CYALau; a oedd yn rhoi sicrwydd eu bod yn cyd-fynd â'r themâu thematig a rhanbarthol gwahanol, er mwyn sicrhau cydweithio a dull rhanbarthol o ddatblygu.

Nodwyd, er bod llawer o'r senarios yn lleol, roedd nifer fawr ohonynt yn rhanbarthol (sgiliau, trafnidiaeth, tai, isadeiledd); felly, mae swyddogion wedi sicrhau bod y CYALau yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn dryloyw â strwythurau llywodraethu rhanbarthol.

Ar ôl cwblhau'r CYALau, eglurwyd y bydd cynghorwyr technegol o Lywodraeth Cymru’n ymgymryd ag ymarfer i alinio a chydgrynhoi'r canfyddiadau; bydd hyn wedyn yn llywio datblygiad pellach a chyfeiriad strategol camau gweithredu rhanbarthol, ac yn arwain at greu Cynllun Ynni Cenedlaethol ledled Cymru.

Darparwyd diweddariad am y cynnydd a wnaed o ran camau'r CYALau; roedd cynlluniau gweithredu bellach wedi'u datblygu ar gyfer pob un o'r CYALau.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (Diweddariad llafar)

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion ddiweddariad llafar am y gwaith yr oedd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi bod yn ei wneud yn rhanbarth De-orllewin Cymru, er mwyn nodi anghenion sgiliau a bylchau mewn sgiliau.

Esboniwyd bod swyddogion, drwy Raglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, wedi bod yn ymgymryd â darn o waith ynghylch baromedr sgiliau, er mwyn nodi bylchau presennol mewn sgiliau, a pha sgiliau y byddai eu hangen yn y dyfodol, ar gyfer y diwydiant a'r Sector Cyhoeddus; ar draws y pum maes allweddol sef digidol, ynni, adeiladu, gweithgynhyrchu ac iechyd. Nodwyd bod y baromedr wedi'i gwblhau; fodd bynnag, byddai'n cael ei ddiweddaru'n barhaus wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y gwaith hwn yn amlygu'r ddarpariaeth bresennol, a sut roedd angen diweddaru'r ddarpariaeth yn y dyfodol; er enghraifft, roedd rhai o'r cyrsiau a'r cyfleoedd a ddarparwyd drwy golegau, prifysgolion ac ysgolion wedi dyddio, ac roedd angen eu hadnewyddu. Mynegwyd bod y gwaith hefyd yn edrych ar sgiliau newydd sy'n dod i'r amlwg, o ganlyniad i'r prosiectau a gefnogwyd drwy'r Fargen Ddinesig, prosiect cyflymydd FLOW, a chyfleoedd Porthladd Rhydd Celtaidd. Nodwyd, er ei bod yn bwysig addysgu pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau am y cyfleoedd hyn, y byddai hefyd yn hanfodol uwchsgilio'r gweithlu presennol i drosglwyddo i'r swyddi newydd hyn wrth iddynt ddatblygu; byddai rhai o'r swyddi hyn yn rhai tymor hir, ond roedd angen i'r gweithlu fod yn barod er mwyn ateb yr heriau sydd i ddod.

Cyfeiriwyd at ynni ac adeiladu, a oedd yn feysydd allweddol ar gyfer sgiliau newydd; roedd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn edrych ar sut y gellir uwchsgilio'r gweithlu, o fewn y sector adeiladu, i fodloni'r gofynion angenrheidiol.

Mynegodd swyddogion y pwysigrwydd o sicrhau bod colegau hefyd yn darparu'r sgiliau newydd hyn o fewn y cyrsiau a'r prentisiaethau presennol sydd ar gael. Soniwyd bod cymwysterau galwedigaethol newydd yn cael eu datblygu, a fydd yn cael eu cyflwyno i ysgolion yn 2027; gobeithio y bydd hyn yn creu cyfleoedd i bobl ifanc edrych ar adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu o fewn y rhaglen ysgolion.

Drwy waith y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyda'r Rhaglen Sgiliau a Thalent, nodwyd bod swyddogion wedi gallu cefnogi rhai o'r prosiectau peilot; gan ddefnyddio cyllid o'r rhaglen. Rhoddwyd enghreifftiau i'r Pwyllgor o rai o'r prosiectau peilot a oedd wedi digwydd mewn ysgolion a cholegau.

Nodwyd bod gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol naw grŵp clwstwr penodol, sef wyth grŵp Sector Preifat ac un grŵp Sector Cyhoeddus, sy'n edrych ar feysydd penodol sy'n peri pryder a sut y gellid datrys y pryderon hyn. 

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch cyrsiau penodol sy'n debygol o gynyddu gwybodaeth, ar draws y Sector Cyhoeddus, o ran cynaliadwyedd; roedd y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim ac ar gael i holl gyrff y Sector Cyhoeddus.

Meysydd allweddol eraill a amlygwyd drwy'r grŵp Sector Cyhoeddus oedd ecoleg a chynllunio; roedd swyddogion yn ceisio nodi sut y gellid cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hyn, ac annog pobl i ystyried astudio yn y meysydd hyn.

Rhoddwyd gwybod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

Prosbectws Buddsoddi pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn pennu'r ffactorau a strwythurau llywodraethu sy'n dylanwadu ar bolisi ynni rhanbarthol, ac yn amlinellu datblygiadau hysbys ym maes ynni rhanbarthol; yn ogystal â'r angen i chwilio am adnoddau ariannol ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer y camau nesaf.

Roedd swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Diwydiant Sero Net Cymru i ddatblygu pecyn buddsoddi i gefnogi'r llif gwaith ynni; ynghyd â gweithgareddau penodol ac astudiaethau dichonoldeb ar brosiectau â blaenoriaeth. Yn ogystal â hyn, roedd swyddogion yn ceisio dod o hyd i adnoddau ychwanegol i alluogi De-orllewin Cymru i ddatblygu o ran y cyfleoedd maent yn cyflwyno eu hunain. Hysbyswyd y Pwyllgor fod pob rhanbarth arall ledled Cymru yn ystyried gwneud gwaith tebyg i hyn.

Eglurwyd bod y prosiect wedi ei rannu'n dri 'sbrint'; manylwyd ar y sbrint cyntaf fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. Amlygodd swyddogion y byddai'r cam hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth ranbarthol berthnasol (Strategaeth Ynni Rhanbarthol, prosiectau FLOW, prosiect Porthladd Celtaidd, Cynlluniau Ynni Ardal Leol), ynghyd â gwybodaeth gan y Sector Preifat, a nodi graddfa'r cyfle i ranbarth De-orllewin Cymru.

Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r rhan nesaf yn nodi ac yn ymgysylltu â phwynt cyswllt o fewn pob Strwythur Rhanbarthol; cyn hynny byddai angen creu rhestr o brosiectau rhanbarthol sydd wedi'u cynnwys o fewn Strwythurau Rhanbarthol, ac adeiladu prosbectws buddsoddi a naratif sy'n disgrifio graddfa'r cyfle. Gobaith y swyddogion oedd y bydd adnodd defnyddiol a deinamig yn cael ei greu erbyn diwedd y broses.

Roedd yr adroddiad cylchredol yn manylu ar y cais o £120,500 i'w ddefnyddio o gronfeydd wrth gefn y Cyd-bwyllgor Corfforedig, er mwyn cefnogi'r gwaith hwn.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r pryderon ariannol. Amlygwyd bod yr Is-bwyllgor Ynni wedi cael £20 mil, gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig, i ymgymryd â'r gwaith; roedd angen ceisio sicrhau cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, oherwydd heb gyllid ni allai swyddogion symud ymlaen i gyflawni dyheadau'r ffrwd waith hon.

Cydnabu'r Pwyllgor y bydd y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn wynebu'r broblem o gydbwyso blaenoriaethau ariannu sy'n cystadlu â nhw, gan fod tair ffrwd waith arall o fewn y Cyd-bwyllgor Corfforedig.

Soniwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig wrthi'n ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â chyfyngiadau ariannol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol ac yn teimlo y gellid cynnwys Ynni hefyd o fewn yr ohebiaeth.

Cefnogwyd ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r arian ychwanegol.

PENDERFYNWYD:

 Bod y cais i dynnu £120,500 i lawr yn cael ei drosglwyddo i'r Cydbwyllgor Corfforaethol am benderfyniad.

 

 

8.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag

Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i

diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.