Agenda item

Cyflwyno Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Ne-orllewin Cymru

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor am gynnydd y gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYALau) yn y Rhanbarth.

Esboniwyd bod y CYALau yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu datblygiad y CYALau  ym mhob un o'r 22 sir ar draws Cymru. Soniwyd bod nifer o Awdurdodau Lleol, gan gynnwys Sir Benfro, yn rhan o brosiect peilot; ac felly, maent eisoes wedi cyflawni eu CYALau. Cadarnhawyd bod y CYALau ar gyfer y 18 sir sy'n weddill yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â'r darparwyr gwasanaethau ar hyn o bryd; roedd City Science yn darparu'r CYALau ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin. Soniwyd bod City Science yn ymdrechu i sicrhau bod gan y pedwar CYAL synergedd rhyngddynt, i adlewyrchu'r pwyslais rhanbarthol.

Cadarnhaodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru rhoi arian ar gyfer penodi tri aelod o staff cymorth i gynorthwyo gyda'r broses hon; cynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023, a chafodd dwy o'r tair swydd eu llenwi. Cadarnhawyd mai'r swyddi hyn oedd Rheolwr Prosiect Ynni, a Swyddog Prosiect Ynni; roedd y drydedd swydd yn wag ar hyn o bryd, fodd bynnag, roedd y swydd wrthi'n cael ei hysbysebu ac roedd swyddogion yn gobeithio llenwi'r swydd hon yn y dyfodol agos.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y cyllid ar gyfer y CYALau i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2024; roedd y tri CYAL a oedd yn weddill ar gyfer y rhanbarth yn gwneud cynnydd da i'w cynhyrchu erbyn diwedd mis Chwefror 2024. Amlygwyd bod y drafftiau'n cael eu hystyried gan bob Awdurdod Lleol ar hyn o bryd ar gyfer sylwadau mewnol, a chyfleustodau ar gyfer y sylwadau modelu technegol.

Cafwyd cyflwyniad gan City Science. Eglurwyd bod Cynllunio Ynni Ardal Leol yn broses fanwl, gynhwysfawr a gynlluniwyd i nodi'r llwybrau mwyaf effeithiol at Sero Net ar gyfer y system ynni leol.

Mynegwyd mai'r Grŵp Cyfarwyddwyr Rhanbarthol, sy'n adrodd i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig oedd y grŵp llywio rhanbarthol ar gyfer cymeradwyo CYALau; er bod cynlluniau'n lleol, cawsant eu datblygu drwy gydweithio rhanbarthol a themâu sy'n cyd-fynd â'r pedair strategaeth ynni rhanbarthol.

Cyfeiriwyd at y rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn ystod datblygiad y CYALau; a oedd yn rhoi sicrwydd eu bod yn cyd-fynd â'r themâu thematig a rhanbarthol gwahanol, er mwyn sicrhau cydweithio a dull rhanbarthol o ddatblygu.

Nodwyd, er bod llawer o'r senarios yn lleol, roedd nifer fawr ohonynt yn rhanbarthol (sgiliau, trafnidiaeth, tai, isadeiledd); felly, mae swyddogion wedi sicrhau bod y CYALau yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn dryloyw â strwythurau llywodraethu rhanbarthol.

Ar ôl cwblhau'r CYALau, eglurwyd y bydd cynghorwyr technegol o Lywodraeth Cymru’n ymgymryd ag ymarfer i alinio a chydgrynhoi'r canfyddiadau; bydd hyn wedyn yn llywio datblygiad pellach a chyfeiriad strategol camau gweithredu rhanbarthol, ac yn arwain at greu Cynllun Ynni Cenedlaethol ledled Cymru.

Darparwyd diweddariad am y cynnydd a wnaed o ran camau'r CYALau; roedd cynlluniau gweithredu bellach wedi'u datblygu ar gyfer pob un o'r CYALau. Eglurwyd y bydd hyn yn creu llwybr cadarn ar gyfer yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn y broses CYALau, er mwyn creu system ynni Sero Net yn y dyfodol. Amlygodd swyddogion eu bod wedi dechrau gyda modelu gwaelodlin i ddeall y system ynni bresennol, cyn datblygu senarios gwahanol i brofi sut olwg fydd ar y dyfodol, ac yna nodi camau gweithredu a all gefnogi cyrraedd y targed Sero Net erbyn 2050.

Amlygwyd, ers cwblhau'r cynlluniau gweithredu, fod y dogfennau CYALau wedi'u drafftio; ac fel y soniwyd eisoes, roeddent yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd gan bob Cyngor, Llywodraeth Cymru, a'r Gwasanaeth Ynni. Unwaith y bydd adborth wedi'i roi, nodwyd y bydd City Science yn gwneud y gwelliannau perthnasol ac yn  cyflwyno'r fersiynau terfynol; yna bydd cam wyth yn dechrau, a oedd yn cynnwys sesiynau briffio corfforaethol a chael cymeradwyaeth y Cabinet.

Roedd y cyflwyniad yn rhoi gwybodaeth fanwl am yr ymgysylltu â rhanddeiliaid a ddigwyddodd yn ystod y broses; roedd yr holl ymgysylltu ar gyfer camau un i chwech wedi'i wneud. Esboniwyd mai'r darn olaf o ymgysylltu ar gyfer cam saith oedd rhoi cyflwyniad ar yr adroddiad terfynol i grwpiau a rhanddeiliaid ehangach, ac yna i'r Is-bwyllgor Ynni hwn. Cyfeiriwyd at sut y dylanwadodd y gweithgareddau ymgysylltu ar y CYALau terfynol a sut y cawsant eu hymgorffori ynddynt.

Rhoddodd City Science drosolwg o sut olwg sydd ar y dogfennau CYALau, a sut y cawsant eu strwythuro. Nodwyd bod pob CYAL yn cynnwys dwy ddogfen; y prif adroddiad CYAL a oedd yn fwy hygyrch, yn hawdd ei ddeall ac yn ennyn diddordeb, yn ogystal ag atodiad technegol sy'n cwmpasu'r holl fanylion technegol. Soniwyd bod y ddwy ddogfen yn dilyn yr un strwythur; felly, roedd yn hawdd i'r darllenydd gyfeirio at wahanol adrannau yn yr atodiad technegol pan fyddant yn teimlo eu bod am gael rhagor o wybodaeth. Mynegwyd bod y dogfennau'n ymdrin â'r cyd-destun lleol a'r system ynni leol yn gyntaf, yna'n rhannu'r weledigaeth a'r senarios ar gyfer ynni yn y dyfodol, cyn edrych ar ymyriadau, ac yna'r cynllun gweithredu yn olaf.

Gofynnodd yr Aelodau a fyddai unrhyw weithdai neu debyg, a fydd yn rhoi trosolwg rhanbarthol o'r CYALau unigol er mwyn dod o hyd i'r themâu a'r meysydd cyffredin lle gall y rhanbarthau gydweithio. Cadarnhawyd, ar ôl i'r CYALau gael eu cyhoeddi, y bydd sesiwn i gael pawb at ei gilydd i edrych ar y Cynlluniau ar sail rhanbarthol; mae'r cynlluniau gweithredu’n nodi achosion lle mae rhai camau gweithredu’n berthnasol ar draws y rhanbarth. Ychwanegwyd y bydd y recriwtiaid newydd, fel y soniwyd yn flaenorol, yn helpu i alinio'r CYALau a'r Strategaeth Ynni i sicrhau bod y themâu yn gweithio yn y ffordd gywir.

Tynnodd swyddogion sylw at bwysigrwydd y dull rhanbarthol a chenedlaethol, a'r angen i gael barn gyson gan Lywodraeth Cymru er mwyn gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen.

 Yn dilyn y drafodaeth, nodwyd yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: