Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion
ddiweddariad llafar am y gwaith yr oedd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi
bod yn ei wneud yn rhanbarth De-orllewin Cymru, er mwyn nodi anghenion sgiliau
a bylchau mewn sgiliau.
Esboniwyd bod swyddogion, drwy
Raglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, wedi bod yn ymgymryd â darn o waith
ynghylch baromedr sgiliau, er mwyn nodi bylchau presennol mewn sgiliau, a pha
sgiliau y byddai eu hangen yn y dyfodol, ar gyfer y diwydiant a'r Sector
Cyhoeddus; ar draws y pum maes allweddol sef digidol, ynni, adeiladu,
gweithgynhyrchu ac iechyd. Nodwyd bod y baromedr wedi'i gwblhau; fodd bynnag,
byddai'n cael ei ddiweddaru'n barhaus wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod y gwaith hwn yn amlygu'r ddarpariaeth bresennol, a sut roedd angen
diweddaru'r ddarpariaeth yn y dyfodol; er enghraifft, roedd rhai o'r cyrsiau a'r
cyfleoedd a ddarparwyd drwy golegau, prifysgolion ac ysgolion wedi dyddio, ac
roedd angen eu hadnewyddu. Mynegwyd bod y gwaith hefyd yn edrych ar sgiliau
newydd sy'n dod i'r amlwg, o ganlyniad i'r prosiectau a gefnogwyd drwy'r Fargen
Ddinesig, prosiect cyflymydd FLOW, a chyfleoedd Porthladd Rhydd Celtaidd.
Nodwyd, er ei bod yn bwysig addysgu pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau am y
cyfleoedd hyn, y byddai hefyd yn hanfodol uwchsgilio'r gweithlu presennol i
drosglwyddo i'r swyddi newydd hyn wrth iddynt ddatblygu; byddai rhai o'r swyddi
hyn yn rhai tymor hir, ond roedd angen i'r gweithlu fod yn barod er mwyn ateb
yr heriau sydd i ddod.
Cyfeiriwyd at ynni ac
adeiladu, a oedd yn feysydd allweddol ar gyfer sgiliau newydd; roedd y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn edrych ar sut y gellir uwchsgilio'r
gweithlu, o fewn y sector adeiladu, i fodloni'r gofynion angenrheidiol.
Mynegodd swyddogion y
pwysigrwydd o sicrhau bod colegau hefyd yn darparu'r sgiliau newydd hyn o fewn
y cyrsiau a'r prentisiaethau presennol sydd ar gael. Soniwyd bod cymwysterau
galwedigaethol newydd yn cael eu datblygu, a fydd yn cael eu cyflwyno i
ysgolion yn 2027; gobeithio y bydd hyn yn creu cyfleoedd i bobl ifanc edrych ar
adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu o fewn y rhaglen ysgolion.
Drwy waith y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol gyda'r Rhaglen Sgiliau a Thalent, nodwyd bod swyddogion
wedi gallu cefnogi rhai o'r prosiectau peilot; gan ddefnyddio cyllid o'r
rhaglen. Rhoddwyd enghreifftiau i'r Pwyllgor o rai o'r prosiectau peilot a oedd
wedi digwydd mewn ysgolion a cholegau.
Nodwyd bod gan y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol naw grŵp clwstwr penodol, sef wyth grŵp Sector
Preifat ac un grŵp Sector Cyhoeddus, sy'n edrych ar feysydd penodol sy'n
peri pryder a sut y gellid datrys y pryderon hyn.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
cyrsiau penodol sy'n debygol o gynyddu gwybodaeth, ar draws y Sector Cyhoeddus,
o ran cynaliadwyedd; roedd y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim ac ar gael i holl
gyrff y Sector Cyhoeddus.
Meysydd allweddol eraill a
amlygwyd drwy'r grŵp Sector Cyhoeddus oedd ecoleg a chynllunio; roedd
swyddogion yn ceisio nodi sut y gellid cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hyn,
ac annog pobl i ystyried astudio yn y meysydd hyn.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
am y pedwar adroddiad sirol a fydd yn cael eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Mawrth
2024, a oedd yn rhoi manylion am ofynion sgiliau penodol ar gyfer pob sir.
Cyfeiriwyd at TATA Steel, a'r
materion a ddaw yn sgîl cau'r safle; yn enwedig o ran staff sy'n colli swyddi o
fewn TATA a'r gadwyn gyflenwi. Sicrhawyd yr Aelodau fod y Bartneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol wedi bod yn gweithio'n galed i geisio lliniaru'r pryderon hyn, a
sicrhau y byddai'r staff a'u sgiliau yn cael eu cadw yn y rhanbarth; cynhaliwyd
ymarfer mapio i gynorthwyo gyda hyn.
Rhoddodd swyddogion wybodaeth
am brosiect profiad defnyddiwr yn y sector digidol, a oedd yn gwrs nad oedd
wedi'i gyflwyno yn unrhyw le yn y DU eto; roedd y cwrs wedi'i ysgrifennu a'i
gymeradwyo, ac roedd bellach yn cael ei gyflwyno fel prentisiaeth lefel dau,
tri a phedwar drwy Goleg Gŵyr. Ategwyd bod y brentisiaeth gradd drwy
Brifysgol y Drindod Dewi Sant newydd ddechrau hefyd.
Yn dilyn y drafodaeth, nodwyd
yr adroddiad.