Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol - Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 9 a 10 ar Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-2026

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad a oedd yn amlinellu'r pwysau a wynebir gan y gyfarwyddiaeth a thynnodd sylw at pam a sut y bydd angen i Gastell-nedd Port Talbot weithio'n wahanol yn y dyfodol.

 

Croesawodd yr Aelodau gynnwys y cyflwyniad ond dywedodd y gallai trafnidiaeth gyflwyno problem wrth hyrwyddo rhwydweithiau cymdeithasol a hunanreoli; holodd yr Aelodau a oedd trafnidiaeth gymunedol yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau'r dyfodol? Ymatebodd Swyddogion y gallai cyflawni'r cynlluniau os ydynt yn rhan o ymagwedd weithredu ar draws y cyngor yn unig. Wrth drafod yr agenda ataliol, mae angen i atebion fod yn ehangach na thrwy gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig.

 

O ran cyfeirio at yr addasiadau synhwyraidd yn yr adroddiad, teimlai'r Aelodau fod angen hyrwyddo'r gwasanaeth addasu synhwyraidd ymhellach i feddygon teulu er mwyn cyrraedd rhagor o bobl; holodd yr Aelodau a oes unrhyw gynlluniau i weithio'n agosach gyda gwasanaethau Gofal Iechyd i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn? Ymatebodd Swyddogion fod y tri aelod o staff yn y Tîm Synhwyraidd yn gysylltiedig â'r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol, gan weithio gyda phobl ag amhariad ar y clyw a'r golwg. Mae'r tîm profiadol yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau iechyd, ond gellir gwneud rhagor o waith i wella ar hyn. Dywedodd Swyddogion fod gan Lywodraeth Cymru fenter sy’n gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd i wella gwasanaethau amhariad ar y synhwyrau.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut y bydd y gwasanaeth yn mesur canlyniadau ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y dyfodol. Ymatebodd Swyddogion fod achosion busnes wedi'u costio wedi cael eu datblygu ar gyfer pob cynllun a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor pan fo hynny'n briodol. Bydd y canlyniadau'n cael eu mesur wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt a bydd unrhyw wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu fel y gofynnwyd amdani.

Holodd yr Aelodau ynghylch y llinell amser ar gyfer hybiau cymunedol a mynegwyd pryder y gallai unrhyw adeiladau gwag addas posib ddadfeilio os oedd y llinell amser yn rhy hir. Cadarnhaodd Swyddogion fod y mater hwn wedi'i godi gyda'r Cabinet a Chyfarwyddwyr Corfforaethol; ar hyn o bryd mae arian cyfalaf y cyngor a rhanbarthol ar gael ac mae angen i unrhyw gynlluniau wneud cynnydd yn gyflym i wneud yn fawr o'r cyllid hwn. Bydd gwaith yn cael ei wneud dros yr haf gyda phenderfyniadau'n dechrau cael eu gwneud ddiwedd mis Awst/dechrau mis Medi. Mae angen i rai cynlluniau wneud cynnydd yn fuan ond efallai y bydd angen trafod cynlluniau posib eraill fel y Pentref Pobl Hŷn a Gelligron dros gyfnod hwy o amser.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-26

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau gyflwyniad ar Gynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-2026, gan ail-ddweud bod lefel uchel o bwysau ar y system dai ar hyn o bryd ac ni ellir tanbrisio maint y newid sydd ei angen.

Diolchodd yr Aelodau i'r Swyddog am y cyflwyniad diddorol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 421 KB

Cofnodion:

Nodwyd yr eitem hon.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod..

 

8.

Gwasgaru Ceiswyr Lloches ac Anheddu Ffoaduriaid

Cofnodion:

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau eu craffu.