Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Strategaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Castell-nedd Port Talbot 2023-2026

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion gyflwyniad a oedd yn amlinellu'r pwysau a wynebir gan y gyfarwyddiaeth a thynnodd sylw at pam a sut y bydd angen i Gastell-nedd Port Talbot weithio'n wahanol yn y dyfodol.

 

Croesawodd yr Aelodau gynnwys y cyflwyniad ond dywedodd y gallai trafnidiaeth gyflwyno problem wrth hyrwyddo rhwydweithiau cymdeithasol a hunanreoli; holodd yr Aelodau a oedd trafnidiaeth gymunedol yn cael ei ystyried fel rhan o gynlluniau'r dyfodol? Ymatebodd Swyddogion y gallai cyflawni'r cynlluniau os ydynt yn rhan o ymagwedd weithredu ar draws y cyngor yn unig. Wrth drafod yr agenda ataliol, mae angen i atebion fod yn ehangach na thrwy gyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig.

 

O ran cyfeirio at yr addasiadau synhwyraidd yn yr adroddiad, teimlai'r Aelodau fod angen hyrwyddo'r gwasanaeth addasu synhwyraidd ymhellach i feddygon teulu er mwyn cyrraedd rhagor o bobl; holodd yr Aelodau a oes unrhyw gynlluniau i weithio'n agosach gyda gwasanaethau Gofal Iechyd i hyrwyddo'r gwasanaeth hwn? Ymatebodd Swyddogion fod y tri aelod o staff yn y Tîm Synhwyraidd yn gysylltiedig â'r Tîm Therapi Galwedigaethol Cymunedol, gan weithio gyda phobl ag amhariad ar y clyw a'r golwg. Mae'r tîm profiadol yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau iechyd, ond gellir gwneud rhagor o waith i wella ar hyn. Dywedodd Swyddogion fod gan Lywodraeth Cymru fenter sy’n gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd i wella gwasanaethau amhariad ar y synhwyrau.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut y bydd y gwasanaeth yn mesur canlyniadau ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn y dyfodol. Ymatebodd Swyddogion fod achosion busnes wedi'u costio wedi cael eu datblygu ar gyfer pob cynllun a bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor pan fo hynny'n briodol. Bydd y canlyniadau'n cael eu mesur wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt a bydd unrhyw wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu fel y gofynnwyd amdani.

Holodd yr Aelodau ynghylch y llinell amser ar gyfer hybiau cymunedol a mynegwyd pryder y gallai unrhyw adeiladau gwag addas posib ddadfeilio os oedd y llinell amser yn rhy hir. Cadarnhaodd Swyddogion fod y mater hwn wedi'i godi gyda'r Cabinet a Chyfarwyddwyr Corfforaethol; ar hyn o bryd mae arian cyfalaf y cyngor a rhanbarthol ar gael ac mae angen i unrhyw gynlluniau wneud cynnydd yn gyflym i wneud yn fawr o'r cyllid hwn. Bydd gwaith yn cael ei wneud dros yr haf gyda phenderfyniadau'n dechrau cael eu gwneud ddiwedd mis Awst/dechrau mis Medi. Mae angen i rai cynlluniau wneud cynnydd yn fuan ond efallai y bydd angen trafod cynlluniau posib eraill fel y Pentref Pobl Hŷn a Gelligron dros gyfnod hwy o amser.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Cynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-26

 

Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau gyflwyniad ar Gynllun Strategol Tai a Digartrefedd drafft 2023-2026, gan ail-ddweud bod lefel uchel o bwysau ar y system dai ar hyn o bryd ac ni ellir tanbrisio maint y newid sydd ei angen.

Diolchodd yr Aelodau i'r Swyddog am y cyflwyniad diddorol a holwyd a oedd ystyriaeth wedi ei rhoi i fodel lle roedd y cyngor yn prynu tai lle nad oedd addasiadau yn bosib ac ailgartrefu preswylwyr mewn tai cymdeithasol wedi'u haddasu fel modd o gynyddu stoc dai'r cyngor. Dywedodd y Swyddog nad oedd yr ymagwedd hon wedi cael ei hystyried ond gellid ei thrafod ymhellach y tu allan i'r cyfarfod i archwilio'r dichonoldeb.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y cynllun a fyddai'n galluogi'r awdurdod i brynu eiddo gwag i'w hailddefnyddio. Cadarnhaodd y Swyddog fod yr awdurdod wedi prynu nifer o eiddo gwag yn flaenorol, fel y crybwyllwyd yn y cynllun, a bydd y cyfle hwn yn cael ei archwilio ymhellach yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae tîm Iechyd yr Amgylchedd yn mapio lleoliad eiddo gwag; mae rhai ffrydiau cyllido ar gael drwy Lywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd a dyma un ffrwd waith y mae Castell-nedd Port Talbot yn ymchwilio iddi.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd gan Gastell-nedd Port Talbot gysylltiadau gyda datblygwyr preifat. Cadarnhaodd y Swyddog nad yw'r berthynas gyda datblygwyr preifat ar hyn o bryd yr un fath â'r berthynas â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ond y gobaith yw y bydd modd datblygu hyn yn y dyfodol. Dywedodd y Swyddog y cynhaliwyd cyfarfod gyda'r adran gynllunio yn ddiweddar i sefydlu sut y gellid datblygu cysylltiadau â'r broses gynllunio, er mwyn ymchwilio i sut y gellid cynyddu lefel y tai fforddiadwy pan fydd cynigion ar gyfer datblygiadau newydd yn cael eu cyflwyno. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i edrych ar fforymau landlordiaid preifat i helpu i ysgogi'r farchnad a rhoi rhagor o wybodaeth i ddatblygwyr fel eu bod yn ymwybodol o anghenion lleol.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol i'r Swyddog am y cyflwyniad ac i Aelodau'r Pwyllgor Craffu am eu sylw i'r adroddiad. Nodwyd mai hwn yw'r cynllun Strategol Tai a Digartrefedd cyntaf o'i fath ar gyfer Castell-nedd Port Talbot ac mae'n dod ar adeg o bwysau digynsail. Mynegodd Aelod y Cabinet werthfawrogiad am waith caled y timau tai ac am ddod ynghyd mewn ffordd ymroddedig. Amlinellodd fod yr argyfwng tai yn cyflwyno nifer o heriau allweddol i swyddogion, staff, aelodau etholedig a phartneriaid cymdeithasau tai. Bydd datblygu'r cynllun tai yn gofyn am ymagwedd cyngor cyfan a bydd y strategaeth newydd hon yn rhoi fframwaith i fynd i'r afael â'r heriau.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

 

Cynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc Castell-nedd Port Talbot 2023 - 2026

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc gyflwyniad ar Gynllun Strategol Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc CNPT 2023 – 2026.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch amserau aros plant â nodweddion o gyflyrau niwro-amrywiol sy'n aros am apwyntiadau llwybrau CAMHS ac Anhwylderau Niwroddatblygiadol. Yr amser aros presennol ar gyfer apwyntiad CAMHS yw 3 i 6 wythnos ac mae’r rhestr aros ar gyfer llwybr Anhwylderau Niwroddatblygiadol yn 28 mis. Holodd yr Aelodau a oedd gwasanaethau plant ac addysg yn gweithio gyda phlant yr effeithiwyd arnynt gan y broblem hon, yn enwedig y rheini sydd ar amserlenni llai neu'n wynebu gwaharddiad. Roedd yr Aelodau'n cydnabod fod hyn yn broblem ar draws Cymru a gall oedi effeithio ar blant yn negyddol wrth iddynt drosglwyddo i fod yn oedolion. Cydnabu'r Pennaeth Gwasanaeth y pryder a dywedodd fod hyn yn nodwedd yn hanes llawer o bobl ifanc a'i fod yn broblem genedlaethol. Mae cyfarfod parhaus dan arweiniad addysg wedi dechrau edrych ar gynlluniau cymorth bugeiliol a chymorth sydd wedi'i dargedu'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc yn yr ardal hon. Cydnabuwyd bod hyn yn broblem ar draws y cyngor ac mae'r niferoedd wedi cynyddu; mae gwaith datblygu i'w wneud yn y maes hwn o hyd.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan Fwrdd y Cabinet.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr grynodeb o'r 3 chyflwyniad, gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaeth fod yn ddi-flewyn-ar-dafod ynglŷn â'r heriau a wynebir gan eu gwasanaethau. Mae'r heriau wedi cynnwys; y gallu i staffio gwasanaethau penodol, y cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gwasanaethau a chymhlethdod problemau. Mae heriau'n gysylltiedig ag etifeddiaeth COVID-19, a nodwyd y byddai'r adferiad ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yn cymryd peth amser. Dywedodd y Cyfarwyddwr er bod polisïau Llywodraeth Cymru ar ddefnyddio staff mewnol, nid er elw, cyfreithiau tai newydd, mewn lle da, roedd angen cyllid priodol. Y cam nesaf yw i gynlluniau gael eu costio a'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu a'r Cabinet, nodwyd bod yr holl gyfarwyddiaethau yn wynebu pwysau y bydd angen edrych arnynt yn gyffredinol a'u blaenoriaethu yn y dyfodol. Bydd angen trafodaethau ar sut y bydd gwasanaethau statudol yn cael eu hariannu yn y dyfodol. Canmolodd y Cyfarwyddwr ymagwedd ragweithiol y Penaethiaid Gwasanaeth. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr a staff y gyfarwyddiaeth am eu gwaith caled a'u syniadau arloesol wrth gynllunio sut i oresgyn heriau.

 

Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 (Ebrill 2022 - Mawrth 2023) - Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc, Gwasanaethau i Oedolion a Diogelwch Cymunedol

 

Holodd yr Aelodau ynghylch canran yr ailgofrestriadau ar gyfer plant ar y gofrestr amddiffyn plant a gofynnwyd sut allai'r gwasanaeth fod yn hyderus nad yw plant yn cael eu dadgofrestru'n rhy gyflym? Gofynnodd yr Aelodau hefyd am esboniad o'r system lle gwneir atgyfeiriadau nad ydynt yn bodloni'r trothwy amddiffyn plant.

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod llawer o waith wedi'i wneud ar y data amddiffyn plant, a chynhelir cyfarfodydd strategol a gweithredol rheolaidd gyda rheolwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol a phartneriaid. Nodwyd bod y niferoedd yn isel ond pan fyddant yn cael eu cyflwyno mewn fformat canran mae'r ffigurau'n ymddangos yn uwch. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod trylwyredd yn y system. Mae atgyfeiriadau achosion a gofrestrwyd yn flaenorol yn cael eu hystyried o fewn 24 awr a byddai rheolwr y tîm yn gwneud penderfyniad ar y cyd â phartneriaid. Mae'r penderfyniad i ailgofrestru plentyn yn benderfyniad amlasiantaethol a defnyddir y cyfle i ddeall pam eu bod wedi dod yn ôl ar y gofrestr ac mae'r dysgu'n cael ei fwydo yn ôl i'r system. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn hyderus bod y dulliau a'r systemau cywir ar waith i fonitro a dysgu o achosion. Mae gwaith ar ailgofrestru wedi'i gyflwyno i'r Aelodau yn flaenorol a chytunwyd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei ailddosbarthu.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y ffigurau ar gyfer diogelu ar dudalen 262 yr adroddiad, o'r 1,392 a adroddwyd am honiadau o gam-drin, 271 ohonynt yn unig yr oedd angen ymholi amdanynt, a gofynnodd yr Aelodau am esboniad ar sut mae'r penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud. Cadarnhaodd Swyddogion fod y fformat atgyfeirio wedi'i sefydlu i dderbyn atgyfeiriadau ymyrryd yn gynnar hyd at ddiogelu. Yn ystod y 24 awr gyntaf yn dilyn atgyfeiriad, cynhelir ymholiadau gyda gweithwyr proffesiynol eraill, teuluoedd ac eraill arwyddocaol i greu darlun llawnach ac yn dilyn yr ymholiadau hyn, gwneir penderfyniad ar sut i weithredu. Gall hyn fod o dan adran 47 (plant) neu adran 126 (oedolion) pan fo'r atgyfeiriad yn gofyn am ymchwilio pellach i ddeall yr wybodaeth a gyflwynir. Eglurwyd, er nad yw pob achos yn gwarantu gweithdrefnau diogelu, mae elfennau gwaith eraill y gellir eu gwneud yn dilyn atgyfeiriadau fel atal ymyriadau, Tîm o amgylch y Teulu neu Gofal a Chymorth.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.