Agenda a Chofnodion

Is-bwyllgor Craffu (Polisi ac Adnoddau) y Cabinet - Dydd Mawrth, 25ain Gorffennaf, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Microsft Teams Meeting/ Hybrid Meeting in Council Chamber

Cyswllt: Charlotte John 01639 673745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 12 ar Agenda Bwrdd y Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 370 KB

·        24 Ionawr 2023

·        7 Mawrth 2023

·        18 Ebrill 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023, 7 Mawrth 2023 a 18 Ebrill 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Y Swyddfa Gofrestru – Gwasanaeth y Gweinyddion

Canmolodd yr aelodau'r adroddiad gan ddweud bod y gwasanaeth wedi'i  redeg yn dda ac yn cefnogi'r cynlluniau ar gyfer ehangu. Fodd bynnag, cwestiynodd yr aelodau gywirdeb yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr Asesiad Effaith Integredig; roedd naratif eitemau 3, 4, 5, 7 a 10 ar dudalennau 15-19 yn datgan nad oedd unrhyw effaith ond roedd y matrics cyfatebol yn dangos effaith gadarnhaol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y dylai'r matrics fod wedi dangos effaith niwtral.  Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer aelodau, a bydd swyddogion yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw naratif a thestun yn cyfateb.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion yn y gwasanaeth Cofrestru am eu gwaith yn y blynyddoedd diweddar ar gynhyrchu incwm.

 

Holodd yr aelodau a oedd angen i swyddogion dderbyn hyfforddiant pellach ar Asesiadau Effaith Integredig. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod rhaglen waith yn cael ei datblygu, a bod gwaith yn parhau o fewn y Tîm Polisi Corfforaethol i wreiddio'r hyfforddiant a'r egwyddorion.

 

Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet

 

 

Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf yr Eglwys yng Nghymru Castell-nedd Port Talbot – Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023

Dygwyd sylw'r aelodau gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd at wybodaeth sydd ar goll o'r tabl ceisiadau cymeradwy ar dudalen 31 o'r pecyn agenda 

 

Dylai'r cyfeiriad at y Fywoliaeth Reithorol ddatgan Bywoliaeth Reithorol Eglwys y Santes Fair Aberafan a dylai'r cyfeiriad at Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Sardis ddarllen Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Resolfen.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y tabl ar dudalen 25 o'r pecyn agenda nad oedd yn cynnwys ffigurau'n ymwneud ag ail-werthuso, a gofynnodd yr aelodau fod hyn yn cael ei ychwanegu at y bwrdd er eglurder.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth y byddai'r cais hwn yn cael ei anfon ymlaen at y Prif Swyddog Cyllid ac yr adroddir am unrhyw ailwerthusiadau yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch cynnwys cais o 2004/2005 yn y tabl ar dudalen 31 a holwyd a ddylid ei gynnwys oherwydd yr amser a oedd wedi mynd heibio. Gofynnodd yr aelodau hefyd a oedd y sefydliad yn dal i fod yn weithredol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod yr arian ar gael o hyd ond nad yw'r sefydliad wedi codi unrhyw arian ac felly mae'r cais yn parhau i fod ar gofnod. Os yw'r sefydliad yn dymuno hawlio'r arian, efallai y bydd angen diwydrwydd dyladwy ychwanegol oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio. Nid yw'r sefydliad wedi bod mewn cysylltiad yn ddiweddar; unwaith yr eir i'r afael â hyn, gellir tynnu'r arian o'r system os nad yw'r sefydliad bellach yn bodoli. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn fodlon ar y sefyllfa cyn belled ag yr ymgymerir â diwydrwydd dyladwy.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y tabl ar dudalen 25 o'r pecyn adroddiad gan ddweud nad oedd y crynodeb yn dangos yn glir fod incwm yn deillio o fuddsoddiad. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y bydd y naratif hwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 436 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith 2023/24.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.