Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Y Swyddfa Gofrestru – Gwasanaeth y Gweinyddion

Canmolodd yr aelodau'r adroddiad gan ddweud bod y gwasanaeth wedi'i  redeg yn dda ac yn cefnogi'r cynlluniau ar gyfer ehangu. Fodd bynnag, cwestiynodd yr aelodau gywirdeb yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr Asesiad Effaith Integredig; roedd naratif eitemau 3, 4, 5, 7 a 10 ar dudalennau 15-19 yn datgan nad oedd unrhyw effaith ond roedd y matrics cyfatebol yn dangos effaith gadarnhaol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y dylai'r matrics fod wedi dangos effaith niwtral.  Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniadau ar gyfer aelodau, a bydd swyddogion yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw naratif a thestun yn cyfateb.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion yn y gwasanaeth Cofrestru am eu gwaith yn y blynyddoedd diweddar ar gynhyrchu incwm.

 

Holodd yr aelodau a oedd angen i swyddogion dderbyn hyfforddiant pellach ar Asesiadau Effaith Integredig. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod rhaglen waith yn cael ei datblygu, a bod gwaith yn parhau o fewn y Tîm Polisi Corfforaethol i wreiddio'r hyfforddiant a'r egwyddorion.

 

Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet

 

 

Cronfa Ymddiriedolaeth Deddf yr Eglwys yng Nghymru Castell-nedd Port Talbot – Adroddiad Blynyddol 2022 – 2023

Dygwyd sylw'r aelodau gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd at wybodaeth sydd ar goll o'r tabl ceisiadau cymeradwy ar dudalen 31 o'r pecyn agenda 

 

Dylai'r cyfeiriad at y Fywoliaeth Reithorol ddatgan Bywoliaeth Reithorol Eglwys y Santes Fair Aberafan a dylai'r cyfeiriad at Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Sardis ddarllen Eglwys y Bedyddwyr Saesneg Resolfen.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y tabl ar dudalen 25 o'r pecyn agenda nad oedd yn cynnwys ffigurau'n ymwneud ag ail-werthuso, a gofynnodd yr aelodau fod hyn yn cael ei ychwanegu at y bwrdd er eglurder.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth y byddai'r cais hwn yn cael ei anfon ymlaen at y Prif Swyddog Cyllid ac yr adroddir am unrhyw ailwerthusiadau yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch cynnwys cais o 2004/2005 yn y tabl ar dudalen 31 a holwyd a ddylid ei gynnwys oherwydd yr amser a oedd wedi mynd heibio. Gofynnodd yr aelodau hefyd a oedd y sefydliad yn dal i fod yn weithredol.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod yr arian ar gael o hyd ond nad yw'r sefydliad wedi codi unrhyw arian ac felly mae'r cais yn parhau i fod ar gofnod. Os yw'r sefydliad yn dymuno hawlio'r arian, efallai y bydd angen diwydrwydd dyladwy ychwanegol oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio. Nid yw'r sefydliad wedi bod mewn cysylltiad yn ddiweddar; unwaith yr eir i'r afael â hyn, gellir tynnu'r arian o'r system os nad yw'r sefydliad bellach yn bodoli. Dywedodd yr Aelodau eu bod yn fodlon ar y sefyllfa cyn belled ag yr ymgymerir â diwydrwydd dyladwy.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch y tabl ar dudalen 25 o'r pecyn adroddiad gan ddweud nad oedd y crynodeb yn dangos yn glir fod incwm yn deillio o fuddsoddiad. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y bydd y naratif hwn yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Yn dilyn craffu, cafodd yr adroddiad gefnogaeth i fynd gerbron Bwrdd y Cabinet

 

Y diweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghastell-nedd Port Talbot

Dywedodd y Swyddog fod y gwaith a amlinellir yn yr adroddiad yn cael ei gefnogi gan Swyddog Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog, (AFLO) a bod y swydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Er mai Castell-nedd Port Talbot yw'r sefydliad sy'n lletya, mae'r swydd ranbarthol hefyd yn darparu cefnogaeth i gynghorau Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar mae'r AFLO wedi sicrhau swydd yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a'r gobaith yw y bydd swyddog newydd yn cael ei benodi erbyn dechrau mis Medi.

 

Roedd yr aelodau'n cefnogi'r gwaith yn llawn ond gofynnwyd a oedd amserlen ar gyfer digwyddiadau i ddod. Cadarnhaodd y swyddog fod Cyngerdd Gŵyl y Lluoedd Arfog wedi'i threfnu ar gyfer 27 Hydref ac y bwriedir cynnal digwyddiad codi'r faner ar 28 Hydref. Dywedodd yr Aelodau y byddai wedi bod yn dda pe bai'r adroddiad wedi adlewyrchu bod y gwaith yn mynd rhagddo a nodwyd hyn yn briodol.

Yn dilyn craffu, nodwyd yr adroddiad