Lleoliad: Remotely via Teams / Hybrid meeting in Council Chamber
Cyswllt: Charlotte John E-bost: c.l.john@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
datganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 376 KB Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 06/12/2022 a 28/02/2023 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd
a gynhaliwyd ar 06/12/22 a
28/02/23 fel cofnod cywir o'r gweithrediadau. |
|
Y diweddaraf am brosiect Pentre Awel PDF 1 MB Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad PowerPoint i'r
Aelodau gan Sharon Burford,
Rheolwr Prosiect ar gyfer Pentre Awel yn eu hysbysu
o drosolwg o'[r cynnydd a wnaed a statws Prosiect Pentre Awel fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd yr Aelodau am wybod pwy fyddai'n
rhedeg yr elfen hamdden ym
Mhentre Awel a sut byddai swyddi'n cael eu creu
ym Mharth 1 a phwy fyddai'r cyflogwr. Dywedodd Swyddogion mai Cyngor Sir Gâr fydd yn cynnal
Parth 1 ac felly'r elfen hamdden. Nid yw'r
economaidd atgyweirio Canolfan Hamdden Llanelli, mae angen adeiladu
un newydd fel rhan o'r rhaglen
gyfalaf, a'r penderfyniad oedd y byddai hyn yn
dod i Bentre
Awel. Dywedodd Swyddogion mai'r ffocws yw sut
i weithio gyda'r bwrdd iechyd i edrych ar
y cyn Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer
Corff a'i wneud yn fwy
effeithiol. Dywedwyd wrth yr Aelodau
y gellid efallai annog pobl sy'n
mynd i ardal
adsefydlu clinigol (ffisiotherapi) i symud ar draws y coridor i ddod
yn fwy annibynnol
a chymryd rheolaeth dros eu rhaglen
adsefydlu corfforol eu hunain. Dywedodd Swyddogion y byddai'r
busnesau'n rhai preifat, wedi'u sefydlu gan y prifysgolion
neu drwy ymchwil clinigol gyda Bwrdd
Iechyd Hywel Dda. Byddai Swyddogion yn disgwyl busnesau deillio ond hefyd
annog busnesau ar draws yr ardal
ehangach, gan weithio gyda thimau
adfywio economaidd mewnol a darparu cefnogaeth arbenigol o ran pethau fel eiddo
deallusol. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Adroddiad Uchafbwyntiau Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 500 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd gwybodaeth i'r Aelodau yn ymwneud
ag Adroddiad Amlygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe a darparodd
Phil Ryder rhai uchafbwyntiau
allweddol i'r aelodau fel y nodwyd
yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Yn
dilyn y diweddariad, roedd aelodau am wybod am y risgiau i isadeiledd digidol
os nad yw
partneriaid y sector cyhoeddus
yn blaenoriaethu cyflwyno a mabwysiadu isadeiledd digidol ac a oes problem mewn gwirionedd ar hyn
o bryd. Eglurodd Swyddogion nad oes unrhyw broblem
gyda'r partneriaid ond mae natur
digidol yn golygu bod risg i raglenni gan
eu bod yn dibynnu'n drwm ar y sector preifat i gyflwyno gwelliannau
isadeiledd digidol ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn golygu
os oes unrhyw
broblem yn effeithio ar y sector preifat i arafu
neu stopio pethau ar draws y rhanbarth, yna gallai effeithio
ar y rhaglen. Fodd bynnag, nid
yw'n broblem ar hyn o bryd. Roedd yr Aelodau am wybod am effaith gyffredinol chwyddiant ar gostau adeiladu
mewn perthynas â'r holl brosiectau.
Dywedodd Swyddogion eu bod wedi asesu'r
bwlch ariannu o ddiwedd y llynedd ac y byddant yn rhoi
diweddariadau ar y prosiectau'n rheolaidd. Eglurodd Swyddogion hefyd fod y prosiectau hyn wedi'u rheoli
drwy ystod o weithgareddau, bod yr awdurdodau wedi darparu peth cyllid
ychwanegol a bod rhywfaint
o weithgarwch peirianegol wedi'i wneud. Dywedodd
Swyddogion nad oes dim wedi'i dynnu o'r cynllun
hyd yn hyn
sydd wedi effeithio ar yr
amcanion neu gyflwyno'r cynllun oherwydd peirianneg gwerth. Eglurodd Swyddogion pe bai costau
chwyddiant yn gwaethygu yna gall fod posibilrwydd rhesymoli rhai o'r targedau i
gyflawni nodau ac amcanion y fargen, ond nid yw'r
prosiectau ar y cam hwnnw. Eglurodd Swyddogion hefyd fod gweithdrefn newid wedi'i roi
ar waith. Pe bai angen iddynt ddod
ag unrhyw beth drwy lywodraethu rhanbarthol i newid
rhywbeth, byddai hynny'n newid unrhyw
un o'r pethau i'w darparu. Dywedodd Swyddogion fod
proses ar waith i ofyn am gymeradwyaeth
ar gyfer lliniariadau y tu hwnt i beirianneg
gwerth neu gyllid ychwanegol gan ddarparwyr arweiniol ond nid oes
angen yr un o'r rhain bellach.
Dywedwyd wrth yr Aelodau hefyd y bu peth cynnydd
yng nghyllid Wherefor a bod
hyn wedi'i ddefnyddio i helpu
i liniaru costau. Mae cyllid Wherefor yn dod i
ben yn fuan, a dywedodd swyddogion eu bod wedi defnyddio'r
cyllid ychwanegol, lle mae hwnnw
wedi bod ar gael, i liniaru'r
pwysau. Yn
dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad. |
|
Achos Busnes Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe PDF 437 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd cyflwyniad i'r Aelodau ar yr
achos busnes portffolio, ynghyd â chefndir byr, gan
Ian Williams, Rheolwr Datblygu
Portffolio, a roddodd y diweddaraf iddynt ar Achos Busnes
Portffolio'r Fargen Ddinesig fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Eglurodd Swyddogion y cynhyrchwyd
yr achos busnes portffolio gwreiddiol ym mis Awst 2020 a'i fod
yn ofyniad gan y Llywodraeth. Mae'n seiliedig ar y prif delerau
gwreiddiol ar gyfer y Fargen Ddinesig a'r prosiectau
a'r rhaglenni a gafodd eu dethol
ar gyfer honno. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr
Achos Busnes Portffolio wedi'i ddatblygu'n unol â model achos 5 Trysorlys ei Fawrhydi a'i
fod wedi mynd trwy adolygiad
trylwyr gyda'r Llywodraeth, a'i fod wedi'i gymeradwyo'n
dilyn hynny gyda’r gyfran gyllid
gyntaf. Eglurwyd y bydd yr achos busnes yn
destun adolygiad blynyddol. Caiff ei ddiweddaru gan
Swyddfa Rheoli Prosiectau (SRhP) ar gyfer y fargen
ddinesig ac yna’i gyflwyno nôl i'r
llywodraeth i weithredu fel sbardun
ar gyfer rhyddhau cyllid y fargen ddinesig. Dywedodd Swyddogion mai hwn yw 4ydd iteriad
yr achos busnes a'i fod
wedi pasio drwy'r bwrdd rhaglenni
a Chyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig fis diwethaf.
Mae'r wybodaeth yn yr achos
busnes yn seiliedig ar wybodaeth
fonitro chwarter 3 sydd hefyd wedi
mynd drwy'r byrddau llywodraethu perthnasol. Ni
chafwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau ar ôl
y cyflwyniad |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |