Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 55 KB ·
4 Tachwedd 2020 Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4
Tachwedd 2020. |
|||
Diweddariad Llafar am wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Cofnodion: Cyflwynwyd diweddariad
llafar i'r Aelodau ar y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD). Cyn rhoi
dadansoddiad o'r ystadegau a'r darlun cyffredinol cyfredol, amlygodd Swyddogion
fod y ffigurau'n giplun mewn amser o sefyllfa hynod ddeinamig a bod y niferoedd
yn cynyddu ar hyn o bryd. Ffigurau Lleol Dywedwyd bod y
Gwasanaeth POD yn Rhanbarth Bae Abertawe dros y saith niwrnod diwethaf wedi
derbyn 2,604 o achosion mynegai newydd gyda bron i 5,000 o gysylltiadau yn
gysylltiedig â'r achosion hynny, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y saith
niwrnod diwethaf roedd y Gwasanaeth POD wedi derbyn 1,124 o achosion mynegai
newydd a 2,536 o gysylltiadau yn gysylltiedig â'r achosion hynny. Ychwanegodd Swyddogion
fod yr epidemioleg yn dangos ei bod yn ymddangos yn gyson bod mwy o
gysylltiadau'n gysylltiedig â phob achos yn ardal Castell-nedd Port Talbot nag
yn Abertawe. Ffigurau Cenedlaethol O ran ffigurau cenedlaethol,
nodwyd bod y ffigur saith niwrnod o achosion yn nodi mai Castell-nedd Port
Talbot oedd yr uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda 697.1 o achosion fesul
100,000 o'r boblogaeth; Merthyr Tudful oedd yr uchaf ond un gyda 668 o achosion
fesul 100,000 o'r boblogaeth ac roedd Abertawe yn bumed yng Nghymru gyda 549.8
o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffigurau Profion Positif Hysbyswyd yr Aelodau
mai Castell-nedd Port Talbot oedd yr ail uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer y
profion y nodwyd eu bod yn bositif, ar 25.5%; Merthyr Tudful oedd y cyntaf gyda
chyfradd bositif o 28.7% ac roedd Abertawe yn 23%. Dadansoddiad Grŵp Oedran Dywedwyd bod yr
achosion positif yn bennaf o fewn y boblogaeth oedran gweithio (pobl 40-49 oed
a 50-59 oed); fodd bynnag, yn yr wythnosau diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr
achosion positif o fewn y grwpiau oedran iau (pobl ifanc 10-19 oed a phobl
20-29 oed) a oedd yn cael ei fonitro'n agos a'i ddadansoddi. Clystyrau a Lleoliadau Cyswllt Hysbyswyd y Pwyllgor
fod 22 o gartrefi gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd ag
achosion parhaus a bod lefel uchel o bryder ynghylch sefydlogrwydd y sector
cartrefi gofal a gofal cymunedol yn gyffredinol; oherwydd hyn roedd problemau
parhad busnes yn cael eu profi ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod nifer o glystyrau
mewn gweithleoedd agored a chaeëdig ar draws y Fwrdeistref Sirol. Ysgolion Amlygwyd bod 27 o
ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi adrodd mwy nag un achos yn y 14
diwrnod diwethaf. Fodd bynnag, roedd hyn yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i'r
cynnydd yn ymlediad y feirws mewn aelwydydd; roedd y dystiolaeth yn parhau i
ddangos nad oedd ymlediad eang yn amgylchedd yr ysgol a bod llawer o'r achosion
yn yr ystod oedran ysgol o ganlyniad i'r hyn a oedd yn digwydd gartref ac yn ystod
gweithgareddau y tu allan i'r ysgol megis partïon pen-blwydd a hyfforddiant
chwaraeon. Ychwanegwyd, er bod y feirws yn cael ei drosglwyddo mewn ysgolion,
eu bod, yn gyffredinol, yn darparu amgylchedd diogel a reolir o ran COVID-19. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Gwasanaeth POD wedi datblygu perthnasoedd gwaith ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Diweddariad am Banel Aelodau COVID-19 - Cam Adfer PDF 71 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad diweddaru mewn perthynas â Phanel Aelodau COVID-19 – Y Cyfnod Adfer a
oedd yn cynnwys crynodeb o'r busnes a gynhaliwyd gan y Panel hyd yma. Amlygwyd bod enw'r Panel wedi
newid yn ddiweddar i 'Coronafeirws – Panel Aelodau' gan fod yr amgylchiadau
wedi newid ers ei sefydlu gyntaf. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r broses adfer o'r pandemig ac os rhagwelwyd y byddai cyfnod adfer
yn dechrau yn ystod misoedd cyntaf 2021. Yn flaenorol, dechreuodd y cyngor
feddwl rhywfaint am y broses adfer yn ystod haf 2020, pan oedd cyfraddau
heintiau yn isel iawn, ond ymhen ychydig wythnosau, newidiodd y sefyllfa yn
sylweddol. Dywedodd Swyddogion eu bod yn gobeithio y byddai'r cynllunio ar
gyfer adferiad yn ailddechrau erbyn y Pasg pan fyddai'r rhaglen frechu wedi
gwneud cynnydd sylweddol, fel y gellid cynnal trafodaethau gydag Aelodau a'r
cymunedau dros yr haf ynghylch sut y bydd yr adferiad yn datblygu. Ychwanegwyd
nad oedd y broses adfer yn un linol ac roedd gweithgareddau eisoes yn cael eu
cynnal gydag adferiad mewn golwg gan gynnwys datblygu'r gwaith o gwmpas y
gwersi a ddysgwyd dros y 9 mis diwethaf i sicrhau na chollwyd hyn; cafwyd rhai
effeithiau uniongyrchol hefyd, er enghraifft y gwaith a oedd yn ymwneud â
digartrefedd a cheisio datblygu rhai modelau ar gyfer symud y bobl a oedd mewn
tai dros dro ar hyn o bryd, i drefniadau mwy parhaol. Diolchodd yr Aelodau i bawb a
fu'n ymwneud â chyfrannu at waith y Panel a'r Grŵp Ffocws. Yn dilyn y broses graffu,
nodwyd y diweddariad. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Cynllun Cydraddoldeb Strategol
2020-2024 Cyflwynwyd Cynllun
Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 i'r Pwyllgor gyda'r camau gweithredu i
gyflawni'r amcanion cydraddoldeb. Gofynnodd yr Aelodau faint o
staff yr oedd y cyngor wedi'u cyflogi a oedd ar gontractau dim oriau a'r
rhesymu y tu ôl i pam yr oeddent ar y math hwn o gontract. O ran y rheswm,
nodwyd bod yr unigolion wedi dewis ymgymryd â chontractau achlysurol ar gyfer
gwaith, er enghraifft yn y Tîm Arolygu yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
roedd nifer cymharol fach o staff a oedd â rhesymau penodol dros fod ar y math
hwnnw o gontract ac mae'r unigolion hyn yn sicrhau eu bod ar gael ac yn gallu
gwrthod gwaith os yw'n addas iddynt; nid oedd patrwm gwaith penodol y gellid ei
gynllunio ymlaen llaw ar eu cyfer. Cadarnhawyd y byddai Swyddogion yn dosbarthu
union nifer y staff ar gontractau dim oriau i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod. Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd na chafwyd unrhyw adborth o ddigwyddiad a gynhaliwyd gyda'r
Gymuned Arfer ar gyfer Cynnwys a Chyfranogiad er mwyn cael cipolwg ar yr hyn a
oedd yn bwysig i'r grwpiau y maent yn ymgysylltu â nhw'n rheolaidd; gofynnwyd
pwy oedd yn rhan o'r digwyddiad a pham na chafwyd unrhyw adborth. Esboniwyd y
gofynnwyd i Swyddogion Cyfranogiad y cyngor ar draws gwahanol feysydd y cyngor
(gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r cyngor ieuenctid, fersiwn plant sy'n derbyn
gofal y cyngor ieuenctid a'r cyn-filwyr cymunedol) fwydo unrhyw farn neu
dystiolaeth a allai gefnogi datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol; wrth
i'r amcanion cydraddoldeb gael eu drafftio, gofynnwyd i'r Swyddogion hyn
ystyried a oedd yr amcanion cywir wedi'u dewis ai peidio. Fodd bynnag, oherwydd
amseru'r pandemig, amharwyd ar y gwaith cynnwys â'r rhwydwaith hwn o
Swyddogion. Amlygwyd pwysigrwydd eu mewnbwn a'r angen i barhau â'r gwaith hwn
fel rhan o'r gweithredu. Gofynnwyd a oedd y gwaith o
wella mynediad corfforol i gyfleusterau'r Pwyllgor yng nghanolfannau dinesig
Castell-nedd a Phort Talbot yn ddichonadwy o hyd ac, os felly, pryd y byddai'n
cael ei wneud; y cynllun o hyd oedd gwella'r trefniadau mynediad i Aelodau, yn
enwedig yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot gan fod rhai anawsterau o ran
mynediad, yn enwedig yn Siambr y Cyngor. Nodwyd bod llawer o waith yn cael ei
wneud cyn y pandemig, ac un o'r prif ddarnau o waith a ystyriwyd oedd clirio
hen ardal y gegin nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach a'i throi'n ystafell
gyfarfod gan ei bod yn lle hygyrch iawn; byddai cael ystafell gyfarfod i lawr y
grisiau yn fuddiol gan mai un o'r problemau o ran cynnal cyfarfodydd ar y
lloriau uchaf oedd y byddai'n rhaid i rywun yn y cyfarfod hwnnw fod yn gyfrifol
am weithdrefnau ymarfer gadael yr adeilad a chael ei hyfforddi i wneud hynny,
pe bai tân er enghraifft. Mewn perthynas â datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyngor yn gwneud ffactorau fel oedran, rhyw, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd
y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr
aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol: Rhwydwaith Cymorthdaledig Cludiant i Deithwyr Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf am yr
adroddiad preifat ar y Rhwydwaith Cymorthdaledig Cludiant i Deithwyr. Yn dilyn y broses graffu, nododd y Pwyllgor yr
adroddiad. |