·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Cynllun Cydraddoldeb Strategol
2020-2024
Cyflwynwyd Cynllun
Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 i'r Pwyllgor gyda'r camau gweithredu i
gyflawni'r amcanion cydraddoldeb.
Gofynnodd yr Aelodau faint o
staff yr oedd y cyngor wedi'u cyflogi a oedd ar gontractau dim oriau a'r
rhesymu y tu ôl i pam yr oeddent ar y math hwn o gontract. O ran y rheswm,
nodwyd bod yr unigolion wedi dewis ymgymryd â chontractau achlysurol ar gyfer
gwaith, er enghraifft yn y Tîm Arolygu yng Nghyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
roedd nifer cymharol fach o staff a oedd â rhesymau penodol dros fod ar y math
hwnnw o gontract ac mae'r unigolion hyn yn sicrhau eu bod ar gael ac yn gallu
gwrthod gwaith os yw'n addas iddynt; nid oedd patrwm gwaith penodol y gellid ei
gynllunio ymlaen llaw ar eu cyfer. Cadarnhawyd y byddai Swyddogion yn dosbarthu
union nifer y staff ar gontractau dim oriau i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd na chafwyd unrhyw adborth o ddigwyddiad a gynhaliwyd gyda'r
Gymuned Arfer ar gyfer Cynnwys a Chyfranogiad er mwyn cael cipolwg ar yr hyn a
oedd yn bwysig i'r grwpiau y maent yn ymgysylltu â nhw'n rheolaidd; gofynnwyd
pwy oedd yn rhan o'r digwyddiad a pham na chafwyd unrhyw adborth. Esboniwyd y
gofynnwyd i Swyddogion Cyfranogiad y cyngor ar draws gwahanol feysydd y cyngor
(gan gynnwys y rhai sy'n cefnogi'r cyngor ieuenctid, fersiwn plant sy'n derbyn
gofal y cyngor ieuenctid a'r cyn-filwyr cymunedol) fwydo unrhyw farn neu
dystiolaeth a allai gefnogi datblygiad y Cynllun Cydraddoldeb Strategol; wrth
i'r amcanion cydraddoldeb gael eu drafftio, gofynnwyd i'r Swyddogion hyn
ystyried a oedd yr amcanion cywir wedi'u dewis ai peidio. Fodd bynnag, oherwydd
amseru'r pandemig, amharwyd ar y gwaith cynnwys â'r rhwydwaith hwn o
Swyddogion. Amlygwyd pwysigrwydd eu mewnbwn a'r angen i barhau â'r gwaith hwn
fel rhan o'r gweithredu.
Gofynnwyd a oedd y gwaith o
wella mynediad corfforol i gyfleusterau'r Pwyllgor yng nghanolfannau dinesig
Castell-nedd a Phort Talbot yn ddichonadwy o hyd ac, os felly, pryd y byddai'n
cael ei wneud; y cynllun o hyd oedd gwella'r trefniadau mynediad i Aelodau, yn
enwedig yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot gan fod rhai anawsterau o ran
mynediad, yn enwedig yn Siambr y Cyngor. Nodwyd bod llawer o waith yn cael ei
wneud cyn y pandemig, ac un o'r prif ddarnau o waith a ystyriwyd oedd clirio
hen ardal y gegin nad oedd yn cael ei defnyddio mwyach a'i throi'n ystafell
gyfarfod gan ei bod yn lle hygyrch iawn; byddai cael ystafell gyfarfod i lawr y
grisiau yn fuddiol gan mai un o'r problemau o ran cynnal cyfarfodydd ar y
lloriau uchaf oedd y byddai'n rhaid i rywun yn y cyfarfod hwnnw fod yn gyfrifol
am weithdrefnau ymarfer gadael yr adeilad a chael ei hyfforddi i wneud hynny,
pe bai tân er enghraifft.
Mewn perthynas â datblygu Cynllun
Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd
Ethnig, gofynnodd yr Aelodau a fyddai'r cyngor yn gwneud ffactorau fel oedran,
rhyw, swydd, enwau ac oedrannau yn anhysbys fel nad oedd unrhyw ragfarn
anymwybodol pan dderbyniwyd ceisiadau am swyddi ac, os caiff ei fabwysiadu,
beth fyddai'r amserlen ar gyfer ei roi ar waith. Cadarnhaodd Swyddogion fod y
Pennaeth Adnoddau Dynol (Sheenagh Rees) eisoes wedi nodi gwaith yr oedd angen
ei roi ar waith ar ffurflenni cais y cyngor fel rhan o'r gwaith cydraddoldeb
rhyw ac roedd trafodaeth wedi dechrau ag undebau llafur a'r gweithlu ynghylch
agwedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar hyn hefyd; byddai llawer
o'r mesurau y byddai'r cyngor yn bwriadu eu cyflwyno fel rhan o gydraddoldeb
rhyw hefyd yn helpu o ran ceisio cael pobl i sefyllfa lle nad oes ganddynt
ragfarn anymwybodol bryd hynny yn y broses ddethol. Ychwanegwyd bod Swyddogion
hefyd yn bwriadu datblygu trafodaeth barhaus â'r gweithlu ynghylch agenda Pobl
Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bod nifer o staff â diddordeb mawr mewn
helpu gyda'r meddylfryd hwn. O ran yr amserlen, nodwyd bod cynllun gweithredu
eisoes wedi'i roi ar waith a byddai Swyddogion yn rhoi gwybod i’r Aelodau am y
dyddiadau arfaethedig ynghylch gweithredu.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
cyflawni'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, y trefniadau monitro a'r
blaenoriaethau. Esboniodd Swyddogion fod gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i
lunio Cynllun Cydraddoldeb Strategol a bu'n rhaid iddo weithio o gwmpas amserlen
benodol ar ei gyfer; yn gynharach yn y flwyddyn rhoddodd y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyfnod gras o ran yr amserlen ar gyfer atgyfeirio
cynlluniau, fodd bynnag roeddent yn daer bod angen cyhoeddi'r cynlluniau ar
ddiwedd y flwyddyn galendr. Amlygwyd bod yr amcanion cydraddoldeb wedi'u
cyflwyno'n flaenorol i Bwyllgor Craffu'r Cabinet, fel un o'r dyletswyddau
cyfreithiol penodol a oedd gan y cyngor, ac yn awr cyflwynwyd i'r Aelodau y
camau gweithredu i roi'r amcanion hynny ar waith, y byddai angen eu hadrodd i'r
cyngor llawn i gymeradwyo'r cynllun gweithredu. O ran perthnasedd a
blaenoriaethau’r cynllun gweithredu, nodwyd y byddai angen adolygu'r rhain yn
barhaus oherwydd pa mor gyflym y mae amgylchiadau'n newid, er enghraifft pe bai
mwy o swyddi'n cael eu colli yn y gymuned, gallai hyn achosi newid yn y
pwyslais ynghylch rhai o'r camau gweithredu; roedd nifer o gamau gweithredu a
oedd yn deillio o'r hen gynllun ac roedd meysydd gwaith newydd hefyd, gan
gynnwys gwaith o gwmpas y gymuned Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig,
yr oedd angen ei flaenoriaethu. Ychwanegwyd bod pryderon ynghylch
anghydraddoldebau cyn y pandemig, fodd bynnag dros y naw mis diwethaf roedd hyn
wedi ehangu ac roedd rhai grwpiau o fewn y gymuned, a chymuned Pobl Dduon,
Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn arbennig, yn cael eu heffeithio'n anghymesur
gan y pandemig a oedd yn cadarnhau bod angen addasu blaenoriaethau i dargedu'r
broblem hon. O ran monitro, dywedodd y Prif Weithredwr (Karen Jones) y byddai
trefniadau'r Pwyllgor yn cael eu hadolygu ym mis Ionawr 2021 ac y byddent yn
cynnwys trafodaethau ynghylch hyd agendâu'r cyfarfod, llwyth gwaith staff a
goruchwyliaeth ddemocrataidd. Soniwyd y gallai Pwyllgor Craffu'r Cabinet
gynnwys y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar ei Flaenraglen Waith i'w fonitro yn
rheolaidd.
Cofnododd Swyddogion wall
teipio yn yr adroddiad a nodwyd gan yr Aelodau.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Adroddiad Blynyddol Sylwadau,
Canmoliaethau a Chwynion 2019/2020
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn rhoi trosolwg i'r Aelodau o'r cwynion, y canmoliaethau a'r
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020.
Mynegwyd pryderon ynghylch yr
ymddygiad treisgar ac ymosodol yr oedd staff yn destun iddo ar brydiau;
Gofynnwyd i Swyddogion roi rhagor o fanylion am hyn. Hysbyswyd yr Aelodau fod y
cyfeiriadau a nodir yn yr adroddiad yn ymwneud yn benodol ag achosion unigol
drwy gydol y flwyddyn, lle'r oedd gan y cyngor rai ymddygiadau anodd iawn i
ymdrin â hwy gan nifer fach iawn o breswylwyr; yn sgîl hyn bu'n rhaid ailfeddwl
am y ffordd y mae'r cyngor yn rheoli cyswllt â'r unigolion hynny. Soniwyd bod
un o'r digwyddiadau hynny'n cynnwys aelod o'r cyhoedd yn ymosod ar Arweinydd y
Cyngor yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. Nodwyd, yn ffodus, fod y rhan fwyaf
o'r bobl sydd mewn cysylltiad â'r cyngor yn gwrtais ac ymdriniwyd â'r
cysylltiadau hynny heb unrhyw broblemau; fodd bynnag, roedd y cyngor mewn
sefyllfa lle'r oedd angen cyflwyno mesur i ddiogelu staff ac mewn nifer bach
iawn o ddigwyddiadau, bu'n rhaid cymryd camau gweithredu i gyfyngu ar y ffordd
y gallai rhai aeloda’r cyhoedd gael cyswllt â'r cyngor. Ychwanegodd Swyddogion
y bu unigolion a oedd yn ymosodol iawn ar lafar, unigolion a anfonodd nifer
parhaus o negeseuon e-bost sy'n cymryd llawer o amser i ymdrin â hwy, ac mewn
rhai amgylchiadau eithriadol wedi cael unigolion yn cyrraedd ac yn ymddwyn yn
ymosodol, yn gorfforol, ac yn dreisgar yn y swyddfeydd, lle'r oedd angen
cynnwys yr heddlu. Er bod nifer bach o ddigwyddiadau, amlygwyd ei fod wedi cael
effaith enfawr ar staff, felly roedd Swyddogion yn sicrhau bod y staff hynny'n
cael cymorth a bod polisïau a gweithdrefnau'n cael eu cryfhau.
Yn dilyn y broses graffu,
nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
Gwasanaeth Cwnsela
Camddefnyddio Sylweddau - Bwrdd Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin
Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad mewn perthynas â Gwasanaeth Cwnsela Camddefnyddio Sylweddau Bwrdd
Cynllunio Ardal Bae'r Gorllewin.
Mynegodd yr Aelodau
bwysigrwydd cyllid ar gyfer y maes gwaith penodol hwn, gan y gallai helpu i
atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau; Gofynnwyd i Swyddogion roi
rhagor o fanylion am yr arian sy'n cael ei dderbyn, gan gynnwys y Gronfa
Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF). Esboniodd Swyddogion mai grant a
ddarparwyd i'r rhanbarth gan Lywodraeth Cymru oedd y Gronfa Gweithredu ar
Gamddefnyddio Sylweddau; roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn bartneriaeth yr oedd
Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor a'i bartneriaid ei
sefydlu, a gwaith y bartneriaeth honno oedd penderfynu sut y defnyddiwyd y
grant hwnnw. Nodwyd yn y rhanbarth fod cyfres o wasanaethau sy'n cefnogi
gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a oedd wedi bod yno am beth amser; trwy
gwblhau'r gwaith gwella, nodwyd bod angen datblygu gwaith i gydgysylltu'r
gwasanaethau at ddibenion y defnyddwyr gwasanaeth y byddai angen iddynt gael
mynediad iddynt. Dywedodd Swyddogion fod gormod o ddarnio ar hyn o bryd gyda
phobl yn cael eu trosglwyddo o wahanol rannau o'r system, yn ogystal ag
ôl-groniad mewn rhai mannau lle'r oedd rhestrau aros a oedd yn broblem gan fod
angen i staff allu ymateb i'r defnyddwyr gwasanaeth hynny mewn modd amserol;
byddai'r Rheolwr Strategol ar gyfer Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol
(Claire Jones) yn cefnogi ymarfer y flwyddyn nesaf i ailgomisiynu'r
gwasanaethau yn y rhanbarth er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn fwy addas at y
diben, fodd bynnag byddai'n cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i dreiddio drwy'r
system gyfan. Hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion, yn y cyfamser, wedi bod yn
edrych yn fwy beirniadol ar yr hyn yr oedd yr arian yn ei wneud yn y
gwasanaethau presennol, ac yn yr achos penodol hwn gyda gwasanaethau cwnsela,
dangosodd yr adroddiad fod gormod o arian yn cael ei neilltuo am faint o angen
yr oedd y gwasanaeth yn ei gefnogi ar hyn o bryd; roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal
yn gofyn am i beth o'r arian, nad oedd ei angen yn y gwasanaeth penodol, gael
ei ailgyfeirio i helpu staff i ddarparu mynediad mwy amserol i'r bobl hynny yr
oedd angen cymorth arnynt. Ychwanegwyd mai'r bwriad oedd rhoi'r arian sbâr yn y
gwasanaethau rhagnodi trothwy isel. Esboniodd Swyddogion mai un diffyg yn y
model presennol oedd nad oedd digon o gymorth mewn gofal sylfaenol i bobl a
oedd yn gaeth i sylweddau, gan olygu bod pobl yn aros yn rhy hir yn y
gwasanaeth gofal eilaidd (gwasanaethau sylfaen ysbytai) a oedd yn golygu bod y
gwasanaethau hyn yn llawn ac na allent dderbyn unrhyw ddefnyddwyr gwasanaeth
newydd; roedd angen mwy o adnoddau yn rhan gofal sylfaenol y system ar gyfer y
rhai a oedd yn sefydlog neu a allai ddiwallu eu hanghenion fel hyn, a fyddai
wedyn yn arwain at ragor o adnoddau yng ngofal eilaidd i ymdrin â'r achosion
mwy cymhleth mewn modd amserol.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Rhaglen Adsefydlu Syriaid: Gwasanaeth Cefnogi
Derbyniodd yr Aelodau
adroddiad ar Raglen Adsefydlu'r Syriaid (Gwasanaeth Cefnogi); nododd yr
adroddiad fod un teulu wedi gwrthod cefnogaeth a bod dau deulu wedi gadael y
rhaglen, gofynnodd yr Aelodau a ellid esbonio'r rhesymau dros hyn. Nodwyd bod
rhesymau gwahanol, dilys dros pam bod teuluoedd wedi symud i ffwrdd er enghraifft,
cyfleoedd swyddi neu am eu bod am fod mewn cymuned wahanol.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer
CNPT 2020
Cyflwynwyd Adroddiad Cynnydd
Ansawdd Aer CNPT ar gyfer 2020 i'r Pwyllgor ac amlygodd Swyddogion fod y cyngor
mewn sefyllfa gadarnhaol i gyflawni'r amcanion ansawdd aer; nododd yr adroddiad
y flwyddyn galendr 2019, felly nid oedd effaith cyfyngiadau symud COVID-19 o
reidrwydd wedi'i chynnwys yn y manylion.
Mynegwyd pryderon mewn
perthynas â thystiolaeth o ddiffyg chydymffurfiaeth â lefelau nicel yn Tawe
Terrace a gofynnwyd a oedd gwaith Vale Inco yng Nghlydach hefyd yn effeithio ar
y lefelau yn ogystal â'r brif ffynhonnell, gwaith Wall Colmonoy; Gofynnodd yr
Aelodau hefyd am ragor o fanylion ynghylch y mater hwn gan mai nod y cyngor
oedd lleihau'r allyriadau. Cadarnhaodd Swyddogion mai Wall Colmonoy oedd y
broblem a oedd yn achosi'r diffyg cydymffurfio; cychwynnwyd y gwaith o fonitro
gwaith metel Vale Inco gan hen Gyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw, ond parhaodd y
gwaith monitro yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol. Ychwanegodd Swyddogion y
bu'n ofynnol iddo adleoli'r samplwr o'r man lle'r oedd yn Nhrebannws i
Bontardawe oherwydd bod gwaith carthffosiaeth Trebannws wedi'i uwchraddio; fodd
bynnag, mae'r mesuriadau yng nghanolfan hamdden Pontardawe yn parhau i fonitro
effaith allyriadau nicel o waith Vale Inco ac roedd yn arddangos lefelau isel.
Mewn perthynas â sut yr ymdrinnir â'r mater o ddydd i ddydd, nodwyd mai cyfrifoldeb
y cyngor oedd rheoleiddio'r gweithredwr penodol hwn a byddai Swyddogion yn
edrych ar well rheoleiddio o ran gweithdrefnau cynnal a chadw a'r Technegau
Gorau sydd ar Gael; roedd y sgyrsiau a'r materion hyn yn parhau, fodd bynnag
byddai'r Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd (Ceri Morris) yn cysylltu â'r
Swyddog perthnasol i gasglu rhagor o fanylion i Aelodau, y tu allan i'r
cyfarfod.
Hysbyswyd yr Aelodau mai'r
gwaith diwydiannol penodol hwn oedd y mwyaf rheoledig yng Nghastell-nedd Port
Talbot a bod y sefyllfa mewn perthynas â Wall Colmonoy yn fater difrifol; Mae
Swyddogion, gyda chydweithwyr eraill o sefydliadau eraill, yn cwrdd yn
rheolaidd i sicrhau bod y cyngor yn sicrhau gwelliant, ac mae hynny wedi bod yn
mynd rhagddo dros y blynyddoedd, fodd bynnag roedd gwaith pellach i'w wneud o
hyd. Ychwanegwyd bod Swyddogion yn rhoi llawer o bwysau ar y cwmni, sydd wedi
gwella eu systemau cynnal a chadw a rheoli ers hynny.
Gofynnwyd pa mor hir y bu'r
mater hwn yn mynd rhagddo, a dywedodd Swyddogion y byddai'n rhaid iddynt
gadarnhau beth oedd y lefelau dros y blynyddoedd cyn 2019 a darparu'r wybodaeth
hon i Aelodau yn dilyn y cyfarfod, fodd bynnag gwyddys bod y lefelau'n newid o
flwyddyn i flwyddyn. Soniwyd bod y mater hwn wedi'i nodi'n flynyddol i'r Pwyllgor
Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy; nid oedd yn sefyllfa newydd, fodd bynnag
roedd yn gwella a oedd yn dangos bod y gwaith a wnaed gyda Swyddogion wedi
sicrhau rhyw fath o lwyddiant.
Nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, nad oedd llwch niwsans sy'n gysylltiedig â gweithgareddau yng
ngwaith Tata Steel yn cael effaith ar iechyd yn yr un modd â llygryddion
eraill; Gofynnodd yr Aelodau pa fesuriadau a ddefnyddiwyd i benderfynu ar hyn a
sut y gallai Swyddogion fod yn siŵr nad oedd yn cael effaith gynyddol ar
iechyd pobl. Cytunwyd y byddai Swyddogion yn darparu'r wybodaeth hon y tu allan
i'r cyfarfod ac mewn cyfarfod Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn y dyfodol.
Gofynnodd yr Aelodau a allai
Swyddogion ystyried y ffaith bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
wrthi'n cymeradwyo simnai 90 metr yn agos at Lyn-nedd a phwysleisiodd
bwysigrwydd monitro'r ardal hon yn rheolaidd ar ôl iddi gael ei chymeradwyo.
Gofynnwyd a oedd rhywfaint o
amheuaeth ynghylch cywirdeb y broses fonitro ei hun oherwydd bod y lefelau alldafliadau
yn Prince Street a Gorsaf Dân Port Talbot yn wahanol iawn er bod y safleoedd yn
eithaf agos at ei gilydd. Nodwyd nad oedd unrhyw bryderon ar hyn o bryd mewn
perthynas â chywirdeb y broses fonitro oherwydd er bod y ddau safle yn agos at
ei gilydd, ni fyddai disgwyl o reidrwydd i'r canlyniadau fod yn union yr un
peth ac yn cyfateb drwy'r amser; mae'n ymddangos bod effaith lygrol y gwaith
dur i’w theimlo’n bennaf yng nghyffiniau safle Prince Street ac roedd y graddau
y byddai pob safle'n cael ei effeithio yn dibynnu ar rai newidynnau gan
gynnwys, ym mha ffynonellau yn y cyffiniau yr oedd y ffwrneisi chwyth yn
cynhyrchu'r llygredd ac i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu ar unrhyw adeg.
Yn dilyn y broses graffu,
nododd y Pwyllgor yr adroddiad.