Cofnodion:
Cyflwynwyd diweddariad
llafar i'r Aelodau ar y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD). Cyn rhoi
dadansoddiad o'r ystadegau a'r darlun cyffredinol cyfredol, amlygodd Swyddogion
fod y ffigurau'n giplun mewn amser o sefyllfa hynod ddeinamig a bod y niferoedd
yn cynyddu ar hyn o bryd.
Ffigurau Lleol
Dywedwyd bod y
Gwasanaeth POD yn Rhanbarth Bae Abertawe dros y saith niwrnod diwethaf wedi
derbyn 2,604 o achosion mynegai newydd gyda bron i 5,000 o gysylltiadau yn
gysylltiedig â'r achosion hynny, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y saith
niwrnod diwethaf roedd y Gwasanaeth POD wedi derbyn 1,124 o achosion mynegai
newydd a 2,536 o gysylltiadau yn gysylltiedig â'r achosion hynny.
Ychwanegodd Swyddogion
fod yr epidemioleg yn dangos ei bod yn ymddangos yn gyson bod mwy o
gysylltiadau'n gysylltiedig â phob achos yn ardal Castell-nedd Port Talbot nag
yn Abertawe.
Ffigurau Cenedlaethol
O ran ffigurau cenedlaethol,
nodwyd bod y ffigur saith niwrnod o achosion yn nodi mai Castell-nedd Port
Talbot oedd yr uchaf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda 697.1 o achosion fesul
100,000 o'r boblogaeth; Merthyr Tudful oedd yr uchaf ond un gyda 668 o achosion
fesul 100,000 o'r boblogaeth ac roedd Abertawe yn bumed yng Nghymru gyda 549.8
o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Ffigurau Profion Positif
Hysbyswyd yr Aelodau
mai Castell-nedd Port Talbot oedd yr ail uchaf yng Nghymru ar gyfer nifer y
profion y nodwyd eu bod yn bositif, ar 25.5%; Merthyr Tudful oedd y cyntaf gyda
chyfradd bositif o 28.7% ac roedd Abertawe yn 23%.
Dadansoddiad Grŵp Oedran
Dywedwyd bod yr
achosion positif yn bennaf o fewn y boblogaeth oedran gweithio (pobl 40-49 oed
a 50-59 oed); fodd bynnag, yn yr wythnosau diwethaf, bu cynnydd yn nifer yr
achosion positif o fewn y grwpiau oedran iau (pobl ifanc 10-19 oed a phobl
20-29 oed) a oedd yn cael ei fonitro'n agos a'i ddadansoddi.
Clystyrau a Lleoliadau Cyswllt
Hysbyswyd y Pwyllgor
fod 22 o gartrefi gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd ag
achosion parhaus a bod lefel uchel o bryder ynghylch sefydlogrwydd y sector
cartrefi gofal a gofal cymunedol yn gyffredinol; oherwydd hyn roedd problemau
parhad busnes yn cael eu profi ar hyn o bryd. Ychwanegwyd bod nifer o glystyrau
mewn gweithleoedd agored a chaeëdig ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Ysgolion
Amlygwyd bod 27 o
ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi adrodd mwy nag un achos yn y 14
diwrnod diwethaf. Fodd bynnag, roedd hyn yn fwy tebygol o fod o ganlyniad i'r
cynnydd yn ymlediad y feirws mewn aelwydydd; roedd y dystiolaeth yn parhau i
ddangos nad oedd ymlediad eang yn amgylchedd yr ysgol a bod llawer o'r achosion
yn yr ystod oedran ysgol o ganlyniad i'r hyn a oedd yn digwydd gartref ac yn ystod
gweithgareddau y tu allan i'r ysgol megis partïon pen-blwydd a hyfforddiant
chwaraeon. Ychwanegwyd, er bod y feirws yn cael ei drosglwyddo mewn ysgolion,
eu bod, yn gyffredinol, yn darparu amgylchedd diogel a reolir o ran COVID-19.
Hysbyswyd yr Aelodau
fod y Gwasanaeth POD wedi datblygu perthnasoedd gwaith cryf gydag Uwch Reolwyr
yn Adran Addysg y cyngor a bod deialog rheolaidd yn cael ei chynnal rhwng y
Gwasanaeth POD, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd rhanbarthol a'r Penaethiaid
Ysgolion.
Cadernid POD
Esboniodd Swyddogion
mai un o'r prif heriau ar hyn o bryd i'r Gwasanaeth POD oedd y llwyth gwaith
uchel iawn a oedd yn rhoi straen ar y gwasanaeth gan fod y staff yn cael
anhawster â'r llwyth achosion; roedd y cyngor yn ceisio cymorth ar y cyd yn
ddyddiol a sefydlwyd tîm cenedlaethol lle gellid cyflwyno ceisiadau gan
gynghorau ledled Cymru. Fodd bynnag, o ystyried y galw ledled Cymru, nid oedd
llawer o gymorth ar y cyd yn cael ei dderbyn. Ychwanegwyd bod gan y gwasanaeth
lefel gyfyngedig o adnoddau o ran staff, yn enwedig yn rhanbarthol; roedd lles
staff hefyd yn bryder oherwydd maint y straen a phryder a gorfod ymdrin â
sefyllfaoedd anodd.
Soniwyd bod y
gwasanaeth ar hyn o bryd yng nghanol rhaglen dreigl o recriwtio ar gyfer
Swyddogion olrhain, ymgynghorwyr, goruchwylwyr a dadansoddwyr data; roedd
cynifer ag 80 o swyddi i'w llenwi i gyflawni'r hyn a fyddai'n cael ei ystyried
yn allu gorau, fodd bynnag, yn logistaidd, roedd yn cymryd llawer o amser i
benodi'r bobl gywir yn y rolau cywir. Ychwanegodd Swyddogion eu bod, yn y
cyfamser, yn ceisio adalw staff a oedd wedi'u hadleoli i'r gwasanaeth yn
flaenorol i ddatblygu gwydnwch yn y tymor byr wrth i recriwtio barhau.
Oherwydd y diffyg
arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sut i ymdrin â'r lefel uchel
o achosion a dderbyniwyd, amlygodd Swyddogion fod fframwaith blaenoriaethu'n
cael ei lunio er mwyn ceisio ymdrin â'r llwyth gwaith yn effeithlon.
Gorfodi COVID-19
Nodwyd bod tîm o
Swyddogion Gorfodi wedi'u recriwtio, gan weithio yn ôl eu trefn gyda thimau gan
gynnwys y Gwasanaeth POD, Iechyd yr Amgylchedd ac Adran Drwyddedu'r cyngor i
sicrhau bod y cyhoedd a mangreoedd busnes yn cydymffurfio; Roedd Swyddogion yn
derbyn llawer o adborth cadarnhaol o ran y grŵp penodol hwnnw o staff.
Ychwanegwyd bod y cyngor a'r gwasanaethau cysylltiedig hefyd yn gweithio'n agos
gyda'r heddlu i sicrhau bod ymateb cydlynol yn cael ei ddarparu.
Cyfathrebu
O ran cyfathrebu,
nodwyd bod y gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda Thîm Cyfathrebu'r cyngor i
gyflwyno'r neges gyfredol bod ymddygiad unigol yn allweddol; dangosodd y
dystiolaeth mai diffyg cydymffurfiaeth unigolion yn y cartref a lleoliadau
cymdeithasol oedd yn gyfrifol am y cynnydd yn y niferoedd lleol ac ar draws
Cymru. Roedd Swyddogion yn pryderu am y diffyg cydymffurfio â gofynion
hunanynysu, a oedd yn ei gwneud yn anodd datblygu a gweithredu mesurau
lliniaru. Soniwyd bod naws y cyfathrebu â'r cyhoedd wedi'i newid yn ddiweddar
er mwyn ceisio herio pobl i gyflawni eu lefelau cyfrifoldeb.
Mewn perthynas â
thimau gorfodi COVID-19, gofynnwyd a allai Swyddogion ddarparu enghreifftiau
o'r mathau o gamau gweithredu y bu'n rhaid i'r timau eu cymryd. Esboniwyd,
unwaith y byddai Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd rhanbarthol wedi casglu
gwybodaeth am ble roedd achosion a chlystyrau o achosion yn dod i'r amlwg, y
byddent yn cydlynu â'r Swyddogion Gorfodi, a fyddai wedyn yn mynd allan i'r
gymuned i drafod gyda'r gweithleoedd a'r mangreoedd a nodwyd pa fesurau oedd
ganddynt ar waith, i'w gwneud yn ymwybodol o'r hyn y dylent fod yn ei wneud, a
gwirio a oeddent yn cydymffurfio â'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Yn ei
hanfod, mae'r Swyddogion Gorfodi’n cysylltu â'r hyn yr oedd yr wybodaeth yn ei
ddangos wrth i'r achosion ddod i'r amlwg ac yn mynd allan i'r gymuned i fod yn
weladwy ac i ddal y mangreoedd hynny i gyfrif.
Gofynnodd yr Aelodau,
oherwydd y lefelau uchel presennol o achosion yng Nghastell-nedd Port Talbot, a
roddwyd ystyriaeth i gyflwyno profion asymptomatig a weithredwyd yn ddiweddar
ar draws rhai cynghorau eraill yng Nghymru? Dywedwyd bod yr holl opsiynau
wedi'u hystyried, gan gynnwys profion ar draws y gymuned, fodd bynnag nid
ystyriwyd ei fod yn ddatrysiad o fewn y cyd-destun lleol ar hyn o bryd. Ar hyn o
bryd roedd y galw am brofion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn sylweddol,
gyda'r cyfleuster profi ym Margam y tu hwnt i'w allu 100% ac yn yr un modd yr
unedau profi deithiol; Ar hyn o bryd roedd Swyddogion yn edrych ar ffyrdd posib
o adeiladu ar adnoddau profi yn yr ardal. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Tîm Rheoli
Digwyddiadau wedi bod yn cwrdd sawl gwaith yr wythnos gan edrych ar y data a'r
wybodaeth ddiweddaraf o ran y ffordd yr oedd y feirws yn ymddwyn yn y gymuned,
byddent yno’n adolygu'r mesurau rheoli presennol ar gyfer yr ymagwedd gyfan ar
draws y rhanbarth gan gynnwys cyfathrebu a gorfodi; byddai'r Tîm Rheoli
Digwyddiadau wedyn yn gwneud argymhellion ynghylch unrhyw gamau gweithredu
pellach yr oedd angen eu hystyried yn sgîl yr wybodaeth ddiweddaraf. Fel y
soniwyd, ystyriwyd cynnal profion torfol gan y Tîm Rheoli Digwyddiadau, fodd
bynnag, ar hyn o bryd, y cyngor arbenigol a gafwyd gan gydweithwyr Iechyd
Cyhoeddus oedd na fyddai'r profion torfol yn helpu i rheoli maint presennol y
broblem ac y byddai'n ymestyn yr adnoddau yr oedd eu hangen i dargedu mesurau
eraill, gan gynnwys cefnogi'r broses frechu dorfol yn y dyfodol. Rhoddwyd
sicrwydd i'r Aelodau fod nifer o bobl a oedd yn rhan o'r broses yn gwirio’r
mesurau rheoli sawl gwaith yr wythnos; codwyd nifer o bwyntiau gyda Llywodraeth
Cymru, gan gynnwys yr angen am gyfyngiadau pellach, er mwyn ceisio rheoli nifer
yr achosion.
Gofynnwyd a ellid
ystyried bod ysgolion yn symud i ddysgu o bell yn y cyfnod cyn y Nadolig
oherwydd er bod nifer yr achosion mewn ysgolion yn isel, roedd potensial i’r
feirws ymledu i fwy o bobl a fyddai'n golygu bod grwpiau mwy o unigolion yn
gorfod hunanynysu yn agos at gyfnod y Nadolig; dyfalwyd y byddai rhai rhieni'n
dewis peidio ag anfon eu plant i'r ysgol yn yr wythnos sydd i ddod oherwydd y
rhesymau hyn. Eglurodd y Swyddogion fod yn rhaid iddynt gymryd y cyngor
epidemiolegol yn y mater hwn a bod angen iddynt sicrhau'r cydbwysedd cywir, er
mwyn sicrhau bod y penderfyniadau a wnaed er budd pob disgybl gan gynnwys y
rhai mwyaf difreintiedig a diamddiffyn. Nodwyd y byddai rhai disgyblion yn
cymryd rhan yn y gweithgareddau dysgu o bell, fodd bynnag byddai eraill na
fyddent yn cymryd rhan ynddynt; roedd hefyd angen sicrhau tegwch disgyblion a
rhaid i ystyriaethau diogelu fod yn flaenoriaeth hefyd. Hysbyswyd yr Aelodau
fod Swyddogion yn cwrdd gyda'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn
ddiweddarach yn y prynhawn a bydd angen iddynt aros am ganlyniad y cyfarfod
hwnnw; fodd bynnag, ar hyn o bryd y bwriad oedd y byddai pob ysgol yng Nghastell-nedd
Port Talbot yn cau ddydd Gwener 18 Rhagfyr. Ychwanegwyd bod angen deall hefyd,
yn weddol gyflym, beth fyddai'r trefniadau agor ym mis Ionawr gan gynnwys sut y
byddai'r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â pholisi a strategaeth Cymru gyfan ar
geisio atal y feirws.
Gofynnwyd i Swyddogion
egluro'r broses benderfynu o ran amserlen agor a chau'r ysgolion yn unol â'r
dystiolaeth a dderbyniwyd yn lleol o ran achosion positif mewn ysgolion, gan
fod awdurdodau lleol eraill wedi gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch
pryd y byddent yn cau ar gyfer y Nadolig. Dywedwyd y byddai'n ddymunol cael
ymagwedd gyson ledled Cymru o ran trefniadau agor a chau; fodd bynnag, bu'n
rhaid i Swyddogion ystyried yr holl ffactorau, gan gynnwys y risgiau posib o
gael nifer mawr o blant nad ydynt mewn ysgolion, i wneud penderfyniad cytbwys.
O ran tystiolaeth, amlygwyd bod protocol ar waith lle byddai Pennaeth, sy'n
ymwybodol o achos yn yr ysgol, yn cysylltu â rhywun yn y Gwasanaeth POD
rhanbarthol; roedd hyn yn effeithiol gan ei fod yn helpu'r broses i symud yn
fwy effeithlon, gan mai Penaethiaid yn y bôn oedd y bobl gyntaf i fod yn
ymwybodol o achos positif mewn ysgolion a gallai aros am arwydd gan hysbyswyr
eraill fel POD gymryd amser. Yn dilyn hyn, byddai Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd
rhanbarthol yn penderfynu i ba raddau yr oedd angen i ddisgyblion a staff
hunanynysu ar sail y dystiolaeth, gan ystyried hefyd y math o gyswllt a wnaed a
maint y swigod yr oedd gan yr ysgol ar waith.
Gofynnodd yr Aelodau
i'r Tîm Cyfathrebu roi gwybodaeth am beryglon cynnal digwyddiadau cymunedol yn
y cyfnod cyn y Nadolig, gan y sylwyd bod rhai cymunedau llai yn y Fwrdeistref
Sirol yn cynllunio ac yn hysbysebu digwyddiadau Nadolig. Nododd Swyddogion
sylwadau'r Aelodau a dywedon nhw y byddent yn rhoi gwybod i'r Tîm Cyfathrebu am
y cais hwn.
O ran profion,
gofynnwyd pam nad oedd adnoddau pellach yn cael eu cyflwyno yn syth i helpu
gyda'r galw. Dywedodd Swyddogion fod opsiynau'n cael eu hystyried gan fod
cydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn edrych yn gyson ar
adnoddau profi'n lleol, gan edrych ar sut y gellid cynyddu hyn. Ychwanegwyd bod
yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn cwrdd ddwywaith yr wythnos gyda'r Bwrdd
Iechyd ar hyn o bryd a bod gwahanol opsiynau'n cael eu hystyried yn weithredol;
Dywedodd Swyddogion y byddent yn rhoi diweddariadau cyson i'r Aelodau, wrth i'r
sefyllfa newid.
Cytunwyd y byddai'r
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd (Ceri Morris) yn dosbarthu nodyn briffio
i'r Aelodau a fyddai'n cynnwys prif bwyntiau diweddariad y Gwasanaeth POD.
Diolchodd y Pwyllgor i
bawb a oedd wedi gweithio i'r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac a oedd yn
dal i weithio i'r gwasanaeth ar hyn o bryd.
Yn dilyn y broses graffu, nodwyd y diweddariad.