Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 21ain Mai, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cynghorydd Rosalyn Davies   Parthed: Opsiynau dylunio ar gyfer adfer Tomen Cilmaengwyn uwchben Ysgol Gynradd Godre’r Graig gan ei bod yn Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Godre'r Graig.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2021.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet

Mynediad i draeth Aberafan drwy’r ramp mynediad i’r llithrfa newydd ym Maes Parcio Rhodfa Scarlett

Derbyniodd yr aelodau adroddiad ynglŷn â mynediad i draeth Aberafan drwy'r ramp mynediad i'r llithrfa newydd ym maes parcio Rhodfa Scarlett.

Darparodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn cynnwys pedwar opsiwn gwahanol y gallai'r cyngor ystyried eu gweithredu, ynghyd â'r risgiau cysylltiedig; nodwyd mai opsiwn un ac opsiwn tri oedd yr opsiynau mwyaf addas, yn enwedig opsiwn un a oedd yn lleihau'r risgiau niferus sy'n gysylltiedig â defnyddio'r ramp. Ychwanegwyd bod swyddogion wedi derbyn rhywfaint o ohebiaeth gan y cyhoedd ynglŷn â chael mynediad drwy'r ramp, a byddai opsiwn tri yn caniatáu hynny; fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â hyn a chynnal y mesurau perthnasol a restrir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan gynnwys gosod arwyddion a lleoedd parcio ychwanegol i'r anabl yn agos at y ramp.

Rhannodd Aelodau Lleol Gorllewin Sandfields a Dwyrain Sandfields, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, eu pryderon ynglŷn â'r opsiwn a argymhellir a'r materion hygyrchedd i draeth Aberafan; roedd nifer o'u preswylwyr hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r pryderon hyn. Rhoddodd yr aelodau lleol hefyd eu barn ar yr opsiynau eraill a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a pham y dylid defnyddio'r ramp i gael mynediad i'r traeth.

Gan ystyried dyletswydd gofal y cyngor i'r cyhoedd a'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth berthnasol arall, dywedodd swyddogion na fyddent yn argymell agor y ramp at ddefnydd y cyhoedd gan nad oedd wedi'i gynllunio ar gyfer hyn; pe bai'r aelodau am ymchwilio i hyn fel opsiwn, nodwyd y byddai angen adroddiad ychwanegol ar y Pwyllgor.

Hysbyswyd yr aelodau mai’r rheswm pan na chaniatawyd agor y ramp i'r cyngor oedd oherwydd amod cynllunio, a'i fod yno i gynnal dulliau cadw bioamrywiaeth etc.; adeiladwyd y ramp i ddarparu mynediad ar gyfer gwaith amddiffyn yr arfordir ac i safon nad oedd yn cynnwys mynediad cyffredinol i'r cyhoedd.  Fe'i cadwyd wedyn i ddarparu mynediad ac allanfa i'r blaendraeth ar gyfer glanhawyr traethau a mynediad brys yn unig. Lluniwyd yr opsiynau yn y cyd-destun hwn.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer gweithredu opsiwn tri, a nodwyd y gellid gwneud cynnydd o fewn mis i chwe wythnos.

Mynegwyd pryderon ynglŷn â gadael y giât ar agor gan y gallai annog pobl i yrru i'r traeth, a fyddai'n effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr eraill. Ar y llaw arall, nodwyd mai'r rampiau ar y traeth oedd yr unig ffordd o ddod â chychod hwylio etc. i'r traeth; roedd hwn yn gyfle i'r gymuned a gallai annog mwy o bobl i'w ddefnyddio.

Cynigiwyd ac eiliwyd diwygiad ffurfiol i'r argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan newid yr argymhelliad o 'opsiwn un' i 'opsiwn tri'; yr oedd ei fanylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

Penderfynwyd bod y Pwyllgor yn cefnogi'r diwygiad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Nododd y pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer 2021/22.