Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet
Mynediad i draeth Aberafan drwy’r ramp mynediad i’r llithrfa newydd ym Maes
Parcio Rhodfa Scarlett
Derbyniodd yr aelodau
adroddiad ynglŷn â mynediad i draeth Aberafan drwy'r ramp mynediad i'r
llithrfa newydd ym maes parcio Rhodfa Scarlett.
Darparodd swyddogion
drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn cynnwys pedwar opsiwn gwahanol
y gallai'r cyngor ystyried eu gweithredu, ynghyd â'r risgiau cysylltiedig;
nodwyd mai opsiwn un ac opsiwn tri oedd yr opsiynau mwyaf addas, yn enwedig
opsiwn un a oedd yn lleihau'r risgiau niferus sy'n gysylltiedig â defnyddio'r
ramp. Ychwanegwyd bod swyddogion wedi derbyn rhywfaint o ohebiaeth gan y
cyhoedd ynglŷn â chael mynediad drwy'r ramp, a byddai opsiwn tri yn
caniatáu hynny; fodd bynnag, byddai hyn yn cynnwys ystyried y risgiau sy'n
gysylltiedig â hyn a chynnal y mesurau perthnasol a restrir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, gan gynnwys gosod arwyddion a lleoedd parcio ychwanegol i'r anabl
yn agos at y ramp.
Rhannodd Aelodau Lleol
Gorllewin Sandfields a Dwyrain Sandfields, a oedd yn bresennol yn y cyfarfod,
eu pryderon ynglŷn â'r opsiwn a argymhellir a'r materion hygyrchedd i
draeth Aberafan; roedd nifer o'u preswylwyr hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r
pryderon hyn. Rhoddodd yr aelodau lleol hefyd eu barn ar yr opsiynau eraill a
geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a pham y dylid defnyddio'r ramp i gael
mynediad i'r traeth.
Gan ystyried
dyletswydd gofal y cyngor i'r cyhoedd a'i rwymedigaethau o dan Ddeddf
Cydraddoldeb 2010 a deddfwriaeth berthnasol arall, dywedodd swyddogion na
fyddent yn argymell agor y ramp at ddefnydd y cyhoedd gan nad oedd wedi'i
gynllunio ar gyfer hyn; pe bai'r aelodau am ymchwilio i hyn fel opsiwn, nodwyd
y byddai angen adroddiad ychwanegol ar y Pwyllgor.
Hysbyswyd yr aelodau
mai’r rheswm pan na chaniatawyd agor y ramp i'r cyngor oedd oherwydd amod
cynllunio, a'i fod yno i gynnal dulliau cadw bioamrywiaeth etc.; adeiladwyd y
ramp i ddarparu mynediad ar gyfer gwaith amddiffyn yr arfordir ac i safon nad
oedd yn cynnwys mynediad cyffredinol i'r cyhoedd. Fe'i cadwyd wedyn i ddarparu mynediad ac
allanfa i'r blaendraeth ar gyfer glanhawyr traethau a mynediad brys yn unig.
Lluniwyd yr opsiynau yn y cyd-destun hwn.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer gweithredu opsiwn tri, a nodwyd y gellid
gwneud cynnydd o fewn mis i chwe wythnos.
Mynegwyd pryderon
ynglŷn â gadael y giât ar agor gan y gallai annog pobl i yrru i'r traeth,
a fyddai'n effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr eraill. Ar y llaw arall, nodwyd
mai'r rampiau ar y traeth oedd yr unig ffordd o ddod â chychod hwylio etc. i'r
traeth; roedd hwn yn gyfle i'r gymuned a gallai annog mwy o bobl i'w
ddefnyddio.
Cynigiwyd ac eiliwyd
diwygiad ffurfiol i'r argymhelliad yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, gan newid yr
argymhelliad o 'opsiwn un' i 'opsiwn tri'; yr oedd ei fanylion wedi'u cynnwys
yn yr adroddiad.
Penderfynwyd bod y
Pwyllgor yn cefnogi'r diwygiad i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig: Cil-ffriw
Darparwyd adroddiad ar
orchymyn rheoleiddio traffig terfyn cyflymder 20 mya arfaethedig ym Mhentref
Cil-ffriw yng Nghastell-nedd.
Hysbyswyd y Pwyllgor
fod y cyngor wedi cael grant diogelwch ar y ffyrdd gan Lywodraeth Cymru yn 2020
i weithredu mesurau arafu traffig i leihau cyflymder, er enghraifft rampiau
cyflymder; cafwyd llawer o wrthwynebiad i'r cynllun hwnnw gan y preswylwyr
lleol. Fodd bynnag, tynnwyd sylw at y ffaith bod goryrru'n broblem sylweddol yn
yr ardal, a dyna'r rheswm pam yr oedd Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun yn
wreiddiol; roedd 85% o draffig yn teithio 38mya, a oedd yn peri pryder i'r
adran a'r Rheolwr Diogelwch Ffyrdd.
Yn dilyn hyn, dywedwyd
bod deiseb wedi'i chyflwyno gan y gymuned i wrthwynebu'r cynigion bryd hynny ac
yn gofyn a ellid ystyried mesurau amgen o ran ceisio lleihau'r traffig yn yr
ardal; wedi hynny, cafodd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd sgwrs bellach â Thimau
Diogelwch Ffyrdd Llywodraeth Cymru a bu sôn eu bod yn mynd i ystyried
cynlluniau peilot 20mya y gallai awdurdodau wneud cais amdanynt. Esboniwyd bod
chwe chynllun peilot a oedd yn digwydd ar draws de Cymru ac roedd Cyngor
Castell-nedd Port Talbot yn ddigon ffodus i lwyddo i wneud cais i gymryd rhan
yn y peilot hwnnw, a gall bellach weithio gyda Llywodraeth Cymru a GoSafe i
weithredu math gwahanol o fesur diogelwch ffyrdd yn yr ardal.
Yn amodol ar
gymeradwyaeth Bwrdd y Cabinet, nodwyd y byddai swyddogion yn anfon tua 500 o
lythyrau i'r gymuned leol, a bydd yr aelod lleol a'r Rheolwr Diogelwch Ffyrdd
yn mynd i'r gymuned ac yn sicrhau eu bod ar gael yn ystod y cyfnod ymgynghori i
hyrwyddo'r cynllun ac i drafod y cynigion gyda'r gymuned leol; byddai'r
llythyrau a'r hysbyseb yn dechrau ar 1 Mehefin 2021.
Gofynnodd yr aelodau
am fanylion o ran cost gychwynnol y prosiect cyfan, a dywedwyd ei bod oddeutu
£72,000 eleni, a chyfanswm y grant oedd £140,000.
Gofynnwyd i swyddogion
pam fod angen terfyn o 20mya mewn closydd tai bach. Cadarnhawyd bod angen i'r
meini prawf o amgylch y peilot gwmpasu ardal gymunedol gyfan a chydnabuwyd na
fyddai unigolion yn teithio ar y cyflymder hwnnw yn rhai o'r ardaloedd; y
ffordd fwydo a'r brif ffordd oedd y meysydd allweddol a oedd yn peri pryder.
Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai'r cynllun peilot hwn yn debygol o redeg am
ddwy flynedd ledled Cymru mewn ardaloedd dewisol ac yna byddai'n llywio'r
rhagflaenydd i derfyn diofyn cenedlaethol o 20mya yng Nghymru; nid yw o
reidrwydd yn golygu y caiff ei gadw mewn lle, ond os bydd yn gweithio a bod y
gymuned yn credu ei fod wedi bod yn fuddiol, yna byddai'n debygol o gael ei
gadw. Ychwanegodd swyddogion y bydd yr holl ddata a gwybodaeth a gesglir o'r
peilot yn cael eu rhoi i Lywodraeth Cymru a’u cynnwys mewn adolygiad ehangach
ar y terfynau diofyn; Roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i dynnu ffin o amgylch
y gymuned gyfan yn hytrach na llwybrau prif ffyrdd unigol.
Gofynnwyd pam y
dewiswyd ardal Cil-ffriw ar gyfer y peilot. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi
ystyried rhai ardaloedd eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol, ond roedd rhai
ffactorau wedi'u harwain at ddewis yr ardal benodol hon. Nodwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi dewis cymunedau o wahanol feintiau fel rhan o'r cynlluniau peilot;
mewn rhannau eraill o Gymru, dewiswyd tref gyfan ac mewn rhannau eraill, megis
cymunedau gwledig, roeddent wedi dewis dwy neu dair stryd. Dywedodd swyddogion
fod Cil-ffriw yn gymuned mewn clwstwr canolig ei faint, gyda thua 500 o eiddo;
roedd hyn yn cyd-fynd â'r cymysgedd o ddata yr oedd Llywodraeth Cymru yn
ceisio'i gael i lywio'r adolygiad ehangach ar y terfyn cyflymder ar draws y
wlad. Ychwanegwyd bod gan yr ardal broblemau diogelwch ar y ffyrdd ar hyn o
bryd yr oedd angen mynd i'r afael â hwy. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith y
cydnabuwyd mai dim ond rhywfaint o gapasiti ac adnoddau oedd ar gael; byddai
llawer o'r gwaith yn cael ei gyflawni gan bartneriaeth GoSafe a byddai'r cyngor
yn gwneud y gwaith peirianyddol, ond bydd llawer o'r gwaith hefyd yn cynnwys
dadansoddi data a fyddai'n cael ei gwblhau y tu ôl i'r llenni.
Gofynnodd yr aelodau a
fu unrhyw ddamweiniau ffyrdd yn yr ardal, a chadarnhawyd hynny; ni fyddai'r
ardal wedi bodloni meini prawf i gael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru os na
chafwyd digon o dystiolaeth ffeithiol ynghylch hyn. Er mwyn bod yn gymwys ar
gyfer y cais gwreiddiol, hysbyswyd yr aelodau bod angen tystiolaeth mewn
perthynas â’r lefel cyflymder o'r wybodaeth data cyflymder gudd; byddai
swyddogion a Llywodraeth Cymru hefyd wedi edrych ar ystadegau'r heddlu mewn
perthynas â damweiniau fu bron a digwydd a damweiniau gyda mân anafiadau.
Soniwyd na fu unrhyw ddigwyddiadau mawr yn yr ardal lle bu marwolaeth. Cytunodd
y swyddogion i rannu manylion y dystiolaeth gydag aelodau y tu allan i'r
cyfarfod.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Opsiynau dylunio ar gyfer Adferiad Tomen Cilmaengwyn uwchben ysgol Gynradd
Godre'r Graig
Cyflwynwyd adroddiad
i'r aelodau a oedd yn cynnig dyfarnu gwaith i Earth Science Partnership i
ymchwilio i opsiynau dylunio a chynhyrchu amcangyfrifon cyllideb ar gyfer
gwaith sy'n gysylltiedig ag adfer Tomen Cilmaengwyn.
Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r opsiynau adferol a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn
enwedig opsiwn tri, sef 'dymchwel adeilad Ysgol Gynradd Godre'r Graig ac
ailddefnyddio'r safle er budd cymunedol'. Gofynnodd yr aelodau am eglurder
ynghylch sut y gellid defnyddio'r safle er budd cymunedol os nad oedd y safle'n
ddiogel i staff a disgyblion yn yr ysgol gynradd. Dywedodd swyddogion y
byddai'r ymgynghorwyr yn cael y dasg o nodi a oedd unrhyw fanteision cymunedol
addas ac y byddent yn rhoi adborth i swyddogion ar ôl eu cwblhau; ni fyddai'n
debygol o olygu bod y safle'n cael ei ddatblygu ar gyfer tai neu neuaddau
cymunedol, ond efallai y bydd manteision cymunedol gwyrdd eraill a allai fod yn
briodol.
Gofynnwyd a oedd gan
swyddogion amserlen ar gyfer Earth
Science Partnership (ESP) i gynnal yr astudiaeth ddichonoldeb. Hysbyswyd yr
aelodau fod yr ymgynghorydd yn rhan o Fframwaith Rhanbarthol De Cymru a oedd wedi'i
dendro'n ddiweddar, ac o fewn y fframwaith hwnnw gallai'r cyngor wneud
dyfarniad cyflym yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Cabinet; gellid cwblhau hyn
ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau. O ran yr amser a gymerir i gynnal yr
astudiaeth, nodwyd bod yn rhaid i'r cyngor gynnal trafodaethau gydag ESP, ond
roedd yn debygol y byddai'n cymryd oddeutu pedair i chwe wythnos i gwblhau'r
astudiaeth.
Nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd fod yr ESP wedi'i chomisiynu yn 2019 i ymchwilio i ddeunydd y
domen a'r tirlithriad uwchben Ysgol Godre'r Graig; Gofynnodd yr aelodau am
eglurder ynghylch pa dirlithriad yr oedd swyddogion yn cyfeirio ato. Nodwyd bod
ymwybyddiaeth o dirlithriad Pant Teg, tirlithriad Tŷ Gwyn a'r hanes o
amgylch ardal Godre'r Graig a Chilmaengwyn yn codi pryderon; oherwydd y
gweithgarwch daearegol diweddar ym Mhant Teg, edrychwyd yn fanylach ar ardal Godre'r Graig, yn enwedig o
amgylch yr ysgol, gan gadw mewn cof yr adolygiad addysgol yn ardal y cwm.
Hysbyswyd yr aelodau fod astudiaeth pen desg wedi'i chwblhau i ddechrau, a oedd
yn tynnu sylw at rai pryderon; arweiniodd hyn at gwblhau gwaith profi a
dadansoddi manylach, a arweiniodd yn anffodus at gau Ysgol Gynradd Godre'r
Graig dros dro ar y pryd oherwydd y risgiau dan sylw yno a hanes yr ardal. Ychwanegwyd
bod symudiad wedi'i nodi yn yr ardal ers cwblhau'r gwaith monitro; felly, roedd
angen mwy o waith ymchwil.
Gofynnwyd pam nad oedd
cael gwared ar y domen rwbel yn llwyr yn debygol o fod yn ffafriol, fel y nodir
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Dywedodd swyddogion y byddai unrhyw beth yn
bosib o ran datrysiadau peirianyddol, ond y gallu corfforol i gyflawni'r
gweithgaredd yw'r broblem; a'r ffaith hefyd fod angen ystyried amserlenni a
chostau. Soniwyd bod swyddogion wedi gwneud rhai cyfrifiadau cychwynnol, yn
fathemategol yn unig, yn seiliedig ar faint o ddeunydd y byddai angen ei dynnu
oddi ar y safle; byddai hyn yn costio oddeutu £4miliwn ac nid oedd yn cynnwys
llwybrau mynediad diogel i'r safle. Ychwanegwyd y byddai angen cerbydau llai i
gwblhau'r gwaith hwn oherwydd natur y dopograffeg, felly gallai gymryd hyd at
18 mis i ddwy flynedd i dynnu'r holl ddeunydd oddi ar y safle ac i wneud y
gwaith lliniaru y byddai ei angen.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.