Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd wedi helpu a
darparu cefnogaeth yn ystod y llifogydd diweddar yn ward Sgiwen y Fwrdeistref
Sirol |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 80 KB ·
22 Gorffennaf 2020 ·
20 Tachwedd 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y
cyfarfodydd canlynol: ·
22 Gorffennaf 2020 ·
20 Tachwedd 2020 |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd Isadeiledd Cerbydau
Trydan Castell-nedd Port Talbot i'r pwyllgor, a oedd hefyd yn cynnwys y
cynlluniau gweithredu a throsolwg o'r strategaeth gwefru cyhoeddus ehangach yn
y Fwrdeistref Sirol. Cafwyd trafodaeth ynghylch
capasiti cerbydau trwm y cerbydlu. Dywedodd swyddogion fod y dyfodol carbon
isel yn ansicr o ran trafnidiaeth drom, ond roedd cerbydau hydrogen a/neu
gerbydau trydan batri yn bosibilrwydd dichonadwy; roedd y rhan hon o'r farchnad
yn dal i esblygu. Nodwyd bod y diwydiant wedi bod yn canolbwyntio ar gerbydau
trydanol batri ar hyn o bryd, a oedd bellach ar gael mewn ceir a faniau ysgafn,
a bod faniau a cherbydau mwy hefyd yn dod ar gael yn hwylus. Hysbyswyd yr aelodau bod ychydig o gerbydau
casglu sbwriel trydan wedi bod ar werth yn ddiweddar a bod y cyngor wedi
dechrau treialu'r cerbyd yn y Fwrdeistref Sirol am y tridiau diwethaf; roedd y
cerbyd wedi cwblhau sifft lawn yn llwyddiannus, a phan gafodd ei ddychwelyd i'r
iard roedd ganddo 17% o gapasiti ar ôl ynddo. Ychwanegwyd bod gan y cerbydau
hyn tua 1 tunnell o fatris ynddynt. Soniodd swyddogion eu bod ar hyn o bryd yn
edrych ar opsiynau i ddad-garboneiddio cerbydlu'r cyngor yn unol â thargedau'r
Llywodraeth. Gyda'r niferoedd cynyddol o
gerbydau trydan, gofynnodd yr aelodau pam nad oedd y cyngor yn ystyried y
gwefrwyr cyflym yn hytrach na'r gwefrwyr 7kW. Esboniwyd bod y rhan fwyaf o
gerbydau'n cael eu dychwelyd yn y prynhawn a'u bod ar yr iard dros nos, felly
nid oedd angen eu gwefru'n gyflym; Roedd swyddogion hefyd wedi monitro'r
defnydd o'r cerbydau ac roedd y rhan fwyaf o'r faniau'n teithio tua 110/115
milltir, gydag ychydig iawn ohonynt yn teithio dros y pellter hwnnw. Nodwyd,
pan ddychwelodd y cerbydau yn y prynhawn, fod ganddynt ddigon o amser i wefru;
roedd y gwefrwyr nad oeddent yn gyflym yn well ar gyfer hirhoedledd y batris,
ond byddai gwefrwyr cyflym yn diraddio'r batris yn gyflymach. Dywedodd
swyddogion na fyddai gwefru dros gyfnod hwy yn broblem ar hyn o bryd; fodd
bynnag, nodwyd y bydd gwefrwyr cyflym ar gael (gwefrydd cyflym 50kW) a fyddai'n
gwefru cerbydau hyd at 80% o'u capasiti o fewn tua 30 munud, ond ni fyddai hyn
yn cael ei ddefnyddio fel mecanwaith gwefru safonol ar gyfer y cerbydlu
oherwydd y rhesymau a amlygwyd. O ystyried yr ardal y mae Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ei gwasanaethu, gofynnwyd a fydd y cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid strategol fel Tai Tarian, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân i sicrhau y byddai uchafswm y pwyntiau gwefru’n cael eu sicrhau yn y Fwrdeistref Sirol. Nodwyd bod cydweithwyr rhanbarthol y cyngor wrthi'n comisiynu ymgynghorwyr, fel rhan o brosiect y Fargen Ddinesig, i helpu gyda'r cynllun strategol; wrth wneud hynny, byddent yn gweithio gyda'r brifysgol a bydd angen iddynt ymgynghori â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân, i sicrhau eu bod yn rhan o'r agenda hwnnw. Ychwanegwyd y byddai angen eu hisadeiledd eu hunain ar yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân yn eu depos a'u gorsafoedd mwy na thebyg, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Ymgynghori ar Gynigion Cyllidebol Strydlun a Pheirianneg 2021/22 PDF 122 KB Cofnodion: Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllidebol drafft Gofal Stryd a Pheirianneg a Thrafnidiaeth 2021/2022, fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr aelodau nad oedd
unrhyw doriadau arfaethedig mewn cyllidebau ar gyfer yr adrannau Gofal Stryd na
Thrafnidiaeth a Pheirianneg yn 2021/22. Nododd yr adroddiad fod pwysau
cyllidebol o £400k ar Wasanaethau Gwastraff; Rhoddodd swyddogion fanylion am y
pwysau penodol a oedd yn cynnwys: ·
Gostyngiad o £1 miliwn yn y Grant Gwastraff Cynaliadwy
ledled Cymru; roedd y gostyngiad hwn wedi bod yn mynd rhagddo dros y
blynyddoedd diwethaf, ac yn seiliedig ar gyfran Cyngor Castell-nedd Port Talbot
o'r arian, roedd pwysau o £45k mewn perthynas â'r toriad hwn; ·
Yr angen i aildendro'r contract rheoli ar gyfer y
Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu; roedd y contract wedi bod ar waith
ers peth amser, a bydd y costau'n cynyddu uwchlaw chwyddiant o ran 'dal i
fyny', yn dilyn cynnydd penodol dros oes y contract, ynghyd â chostau uwch sy'n
gysylltiedig â chynyddu ailgylchu a chompostio i'r eithaf. Nododd yr adroddiad
fod £250k wedi'i glustnodi yn hyn o beth; ·
Roedd diffyg cyffredinol pellach yn y gyllideb rheoli
gwastraff a oedd yn deillio o ostyngiad cenedlaethol parhaol mewn incwm ar
gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, y dyrannwyd £105k
iddynt. O ran Priffyrdd a Gofal Stryd,
nodwyd bod pwysau cyllidebol o £350k wedi'i nodi a oedd yn gwneud lwfansau ar
gyfer y canlynol: ·
Effeithiwyd ar incwm gwastraff masnach gan gychwyniad
COVID-19 ac er y byddai llawer o'r gostyngiad yn digwydd dros dro ac y byddai’n
cynyddu unwaith eto maes o law, roedd rhywfaint o ostyngiad cyffredinol yn
debygol o fod yn barhaol; disgwylid, o leiaf, na fydd modd cyfalwni’r cynnydd chwyddiant
arferol ar y gyllideb incwm gwastraff masnach, gan arwain at bwysau, felly
roedd £13k wedi'i glustnodi ar gyfer hyn; ·
Roedd darpariaeth gwasanaethau ailgylchu a chyfranogiad
wedi ehangu a bu galw cynyddol am offer ailgylchu gwastraff cartref ychwanegol
parhaus a'r danfoniadau cysylltiedig; Clustnodwyd £36k ar gyfer y danfoniadau
ychwanegol, a oedd yn cynnwys aelod ychwanegol o staff a fan ychwanegol i wneud
y danfoniadau hynny; ·
Roedd angen cynyddu'r cyllidebau gwaith refeniw ar gyfer
cynnal a chadw palmentydd ffyrdd a throedffyrdd ar gyfer gwaith ad-hoc ac
atgyweiriadau cyffredinol, lle'r oedd £88k wedi'i glustnodi; Mae cynnydd
chwyddiannol wedi'i gynnwys yn y gyllideb a fyddai'n cwmpasu adnoddau fel
staffio, fodd bynnag roedd angen cyllideb ychwanegol ar gyfer deunyddiau
penodol gan fod prisiau'r deunyddiau hyn yn cynyddu'n sylweddol fwy na'r
cynnydd chwyddiannol; ·
Roedd angen cynyddu'r gyllideb adnewyddu marciau ffyrdd
er mwyn hwyluso rhaglen adnewyddu bum mlynedd, yn dilyn dadansoddiad manwl o'r
asedau; pe bai'r cyngor am hwyluso'r rhaglen hon ar draws y Fwrdeistref Sirol
roedd angen gwella'r gyllideb £30k i ddarparu ar gyfer hynny; ·
Nododd swyddogion fod rhai adeileddau cefn gwlad mawr,
hen draphontydd er enghraifft, nas mabwysiadwyd gan briffyrdd ac a oedd wedi
cwympo y tu allan i'r drefn arolygu gyfnodol reolaidd yn y gorffennol; roedd
angen cywiro hyn, felly roedd £20k wedi'i glustnodi ar gyfer hyn; · Roedd angen grŵp mân ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Blaenraglen Waith 2020/21 PDF 68 KB Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith Craffu Strydlun a
Pheirianneg 2020/21. |