Cofnodion:
Cyflwynwyd Isadeiledd Cerbydau
Trydan Castell-nedd Port Talbot i'r pwyllgor, a oedd hefyd yn cynnwys y
cynlluniau gweithredu a throsolwg o'r strategaeth gwefru cyhoeddus ehangach yn
y Fwrdeistref Sirol.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
capasiti cerbydau trwm y cerbydlu. Dywedodd swyddogion fod y dyfodol carbon
isel yn ansicr o ran trafnidiaeth drom, ond roedd cerbydau hydrogen a/neu
gerbydau trydan batri yn bosibilrwydd dichonadwy; roedd y rhan hon o'r farchnad
yn dal i esblygu. Nodwyd bod y diwydiant wedi bod yn canolbwyntio ar gerbydau
trydanol batri ar hyn o bryd, a oedd bellach ar gael mewn ceir a faniau ysgafn,
a bod faniau a cherbydau mwy hefyd yn dod ar gael yn hwylus. Hysbyswyd yr aelodau bod ychydig o gerbydau
casglu sbwriel trydan wedi bod ar werth yn ddiweddar a bod y cyngor wedi
dechrau treialu'r cerbyd yn y Fwrdeistref Sirol am y tridiau diwethaf; roedd y
cerbyd wedi cwblhau sifft lawn yn llwyddiannus, a phan gafodd ei ddychwelyd i'r
iard roedd ganddo 17% o gapasiti ar ôl ynddo. Ychwanegwyd bod gan y cerbydau
hyn tua 1 tunnell o fatris ynddynt. Soniodd swyddogion eu bod ar hyn o bryd yn
edrych ar opsiynau i ddad-garboneiddio cerbydlu'r cyngor yn unol â thargedau'r
Llywodraeth.
Gyda'r niferoedd cynyddol o
gerbydau trydan, gofynnodd yr aelodau pam nad oedd y cyngor yn ystyried y
gwefrwyr cyflym yn hytrach na'r gwefrwyr 7kW. Esboniwyd bod y rhan fwyaf o
gerbydau'n cael eu dychwelyd yn y prynhawn a'u bod ar yr iard dros nos, felly
nid oedd angen eu gwefru'n gyflym; Roedd swyddogion hefyd wedi monitro'r
defnydd o'r cerbydau ac roedd y rhan fwyaf o'r faniau'n teithio tua 110/115
milltir, gydag ychydig iawn ohonynt yn teithio dros y pellter hwnnw. Nodwyd,
pan ddychwelodd y cerbydau yn y prynhawn, fod ganddynt ddigon o amser i wefru;
roedd y gwefrwyr nad oeddent yn gyflym yn well ar gyfer hirhoedledd y batris,
ond byddai gwefrwyr cyflym yn diraddio'r batris yn gyflymach. Dywedodd
swyddogion na fyddai gwefru dros gyfnod hwy yn broblem ar hyn o bryd; fodd
bynnag, nodwyd y bydd gwefrwyr cyflym ar gael (gwefrydd cyflym 50kW) a fyddai'n
gwefru cerbydau hyd at 80% o'u capasiti o fewn tua 30 munud, ond ni fyddai hyn
yn cael ei ddefnyddio fel mecanwaith gwefru safonol ar gyfer y cerbydlu
oherwydd y rhesymau a amlygwyd.
O ystyried yr ardal y mae
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn ei gwasanaethu, gofynnwyd a fydd
y cyngor yn gweithio gyda'i bartneriaid strategol fel Tai Tarian, yr Heddlu a'r
Gwasanaeth Tân i sicrhau y byddai uchafswm y pwyntiau gwefru’n cael eu sicrhau
yn y Fwrdeistref Sirol. Nodwyd bod cydweithwyr rhanbarthol y cyngor wrthi'n
comisiynu ymgynghorwyr, fel rhan o brosiect y Fargen Ddinesig, i helpu gyda'r
cynllun strategol; wrth wneud hynny, byddent yn gweithio gyda'r brifysgol a
bydd angen iddynt ymgynghori â darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis
yr Heddlu a'r Gwasanaeth Tân, i sicrhau eu bod yn rhan o'r agenda hwnnw.
Ychwanegwyd y byddai angen eu hisadeiledd eu hunain ar yr Heddlu a'r Gwasanaeth
Tân yn eu depos a'u gorsafoedd mwy na thebyg, oherwydd maint eu cerbydlu.
Soniodd swyddogion, yn nhermau cynllunio, wrth i ddeddfwriaeth symud ymlaen, ei
bod yn bosib y bydd yn dod yn ofyniad cynllunio o fewn datblygiadau preswyl newydd
i gynnwys cyfleusterau gwefru cyhoeddus o fewn yr ystadau adeiladu newydd;
mae’n debyg y bydd gan y rhan fwyaf o dai a gaiff eu datblygu yn y dyfodol
fannau gwefru trydan safonol ar gyfer yr eiddo preswyl. Cadarnhawyd ei fod yn
ddarn mawr o waith yr oedd angen ymagwedd ranbarthol arno, fel bod lleoliadau'r
mannau gwefru a'r pellteroedd rhyngddynt yn addas; bydd llawer o heriau o ran
isadeiledd a chyflenwadau pŵer, ond byddai hyn yn rhan o'r astudiaeth
ddichonoldeb.
Gofynnwyd a fydd angen i'r
cyngor brynu offer a allai fod yn ofynnol os yw'r cerbydau'n rhedeg allan o
fatri er mwyn caniatáu iddynt ddychwelyd i'w depo. Cadarnhaodd swyddogion eu
bod yn ystyried prynu pecynnau gwefru a fydd yn plygio i mewn i unrhyw gerbyd
ac yn rhoi digon o bŵer iddynt wefru am tua 10-15 munud i'w hwyluso i
ddychwelyd i'r depo.
Yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, nodwyd mai'r bwriad oedd archwilio'r cyfle i agor y mannau gwefru
i'w defnyddio gan y cyhoedd, y gellid eu gweithredu ar sail adennill costau;
Gofynnodd yr aelodau os nad oedd y gwefrwyr cyflym wedi eu gosod, a fyddai'n
ddichonadwy ac a fyddai'r cyhoedd yn dewis defnyddio'r cyfleusterau gwefru
gyda'r gwefrwyr nad ydynt yn gyflym gan y byddai'n cymryd mwy o amser i wefru
eu cerbydau. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn ymwybodol o'r mater posib hwn,
ond roedd hyn yn rhywbeth a fyddai'n ffocws yn y dyfodol; roedd yr adroddiad yn
seiliedig ar y cerbydlu a'u defnydd gan mai dyma'r hyn yr oedd swyddogion yn
edrych arno ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai gwefrwyr cyflym ar
gael, ond byddai llawer o ffactorau i'w hystyried gan gynnwys beth oedd y
gofynion a faint o bŵer oedd ar gael ar hyn o bryd yn y Ceiau. Byddai
adroddiadau diweddaru pellach yn cael eu darparu yn y dyfodol unwaith y
byddai'r pethau sylfaenol wedi'u gosod ac roedd yr isadeiledd ar waith. Rhan
o'r cynllun hirdymor oedd rhoi'r cyfle, fel rhan o'r isadeiledd a osodwyd, i
staff wefru eu cerbydau hefyd.
Hysbyswyd yr Aelodau mai
Rheolwr Cerbydlu'r cyngor oedd cadeirydd Grŵp Cerbydlu Sector Cyhoeddus
Cymru, lle cynrychiolwyd y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu ac eraill; gan ei fod yn
rhan o'r grŵp hwnnw, roedd y cadeirydd hefyd wedi gallu gweithio gyda
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ar sut i newid cerbydlu cyngor yn rhai
allyriadau isel dros y 10 mlynedd nesaf.
Gofynnwyd a oedd swyddogion
wedi ystyried gwrthbwyso gwefru trwy'r nos er mwyn cael y cyfraddau rhataf, ac
a oedd yn opsiwn uwchraddio adeiladau presennol sy'n eiddo i'r cyngor gyda
phaneli solar er mwyn eu defnyddio i dynnu pŵer at ddibenion gwefru. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith eu bod yn edrych ar isadeileddau gwyrdd eraill i
gefnogi gwefru yn yr hybiau; roedd nifer o adeiladau o amgylch y Fwrdeistref
Sirol a allai fod yn addas. Roedd swyddogion yn gweithio gyda chymunedau'r
cymoedd a mudiadau gwirfoddol i nodi cyfleoedd lle gellid gosod hybiau.
Hysbyswyd yr aelodau bod asedau eiddo'r cyngor hefyd yn cael eu hadolygu i
benderfynu ym mhle y gellid rhoi cymwysterau gwyrdd ar waith er mwyn ychwanegu
at y grid fel rhan o strategaeth ynni gwyrdd.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: