Cofnodion:
Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllidebol drafft Gofal Stryd a Pheirianneg a Thrafnidiaeth 2021/2022, fel y
nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Hysbyswyd yr aelodau nad oedd
unrhyw doriadau arfaethedig mewn cyllidebau ar gyfer yr adrannau Gofal Stryd na
Thrafnidiaeth a Pheirianneg yn 2021/22.
Nododd yr adroddiad fod pwysau
cyllidebol o £400k ar Wasanaethau Gwastraff; Rhoddodd swyddogion fanylion am y
pwysau penodol a oedd yn cynnwys:
·
Gostyngiad o £1 miliwn yn y Grant Gwastraff Cynaliadwy
ledled Cymru; roedd y gostyngiad hwn wedi bod yn mynd rhagddo dros y
blynyddoedd diwethaf, ac yn seiliedig ar gyfran Cyngor Castell-nedd Port Talbot
o'r arian, roedd pwysau o £45k mewn perthynas â'r toriad hwn;
·
Yr angen i aildendro'r contract rheoli ar gyfer y
Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu; roedd y contract wedi bod ar waith
ers peth amser, a bydd y costau'n cynyddu uwchlaw chwyddiant o ran 'dal i
fyny', yn dilyn cynnydd penodol dros oes y contract, ynghyd â chostau uwch sy'n
gysylltiedig â chynyddu ailgylchu a chompostio i'r eithaf. Nododd yr adroddiad
fod £250k wedi'i glustnodi yn hyn o beth;
·
Roedd diffyg cyffredinol pellach yn y gyllideb rheoli
gwastraff a oedd yn deillio o ostyngiad cenedlaethol parhaol mewn incwm ar
gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu, y dyrannwyd £105k
iddynt.
O ran Priffyrdd a Gofal Stryd,
nodwyd bod pwysau cyllidebol o £350k wedi'i nodi a oedd yn gwneud lwfansau ar
gyfer y canlynol:
·
Effeithiwyd ar incwm gwastraff masnach gan gychwyniad
COVID-19 ac er y byddai llawer o'r gostyngiad yn digwydd dros dro ac y byddai’n
cynyddu unwaith eto maes o law, roedd rhywfaint o ostyngiad cyffredinol yn
debygol o fod yn barhaol; disgwylid, o leiaf, na fydd modd cyfalwni’r cynnydd chwyddiant
arferol ar y gyllideb incwm gwastraff masnach, gan arwain at bwysau, felly
roedd £13k wedi'i glustnodi ar gyfer hyn;
·
Roedd darpariaeth gwasanaethau ailgylchu a chyfranogiad
wedi ehangu a bu galw cynyddol am offer ailgylchu gwastraff cartref ychwanegol
parhaus a'r danfoniadau cysylltiedig; Clustnodwyd £36k ar gyfer y danfoniadau
ychwanegol, a oedd yn cynnwys aelod ychwanegol o staff a fan ychwanegol i wneud
y danfoniadau hynny;
·
Roedd angen cynyddu'r cyllidebau gwaith refeniw ar gyfer
cynnal a chadw palmentydd ffyrdd a throedffyrdd ar gyfer gwaith ad-hoc ac
atgyweiriadau cyffredinol, lle'r oedd £88k wedi'i glustnodi; Mae cynnydd
chwyddiannol wedi'i gynnwys yn y gyllideb a fyddai'n cwmpasu adnoddau fel
staffio, fodd bynnag roedd angen cyllideb ychwanegol ar gyfer deunyddiau
penodol gan fod prisiau'r deunyddiau hyn yn cynyddu'n sylweddol fwy na'r
cynnydd chwyddiannol;
·
Roedd angen cynyddu'r gyllideb adnewyddu marciau ffyrdd
er mwyn hwyluso rhaglen adnewyddu bum mlynedd, yn dilyn dadansoddiad manwl o'r
asedau; pe bai'r cyngor am hwyluso'r rhaglen hon ar draws y Fwrdeistref Sirol
roedd angen gwella'r gyllideb £30k i ddarparu ar gyfer hynny;
·
Nododd swyddogion fod rhai adeileddau cefn gwlad mawr,
hen draphontydd er enghraifft, nas mabwysiadwyd gan briffyrdd ac a oedd wedi
cwympo y tu allan i'r drefn arolygu gyfnodol reolaidd yn y gorffennol; roedd
angen cywiro hyn, felly roedd £20k wedi'i glustnodi ar gyfer hyn;
·
Roedd angen grŵp mân waith draenio ychwanegol i
helpu i fynd i'r afael â'r mân broblemau draenio niferus, ôl-groniad o
broblemau a gofynion gwasanaeth cysylltiedig, gan gynnwys draeniau wedi'u
blocio a draeniau wedi’u torri etc. Dywedwyd bod llifogydd yn fater proffil
uchel a oedd yn peri pryder sylweddol i'r cyhoedd, aelodau lleol a'r cyngor, yn
enwedig o ystyried y cynnydd yn nifer y llifogydd a'r difrod cysylltiedig ar
draws y fwrdeistref sirol;
·
Roedd cyllideb ychwanegol o £10k wedi'i chlustnodi ar
gyfer bagiau tywod ychwanegol a chostau wrth gefn i hwyluso cymorth ychwanegol
ar gyfer ardaloedd lle'r oedd problemau llifogydd.
Mewn perthynas â Chanol Tref
Port Talbot, nodwyd bod pwysau ychwanegol i’w nodi, er mwyn rheoli'r gwaith
dyddiol o godi a gostwng y bolardiau er mwyn atal cerbydau rhag mynd i barth
cerddwyr canol y dref yn ddifeddwl; byddai cwmni diogelwch yn cael ei gyflogi i
weithredu'r bolardiau drwy gydol y flwyddyn, yn y bore a'r prynhawn.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
pwysau'n gysylltiedig â Gorsaf Fysus Port Talbot, a ddyrannwyd i'r Adran
Ystadau; roedd y pwysau'n ymwneud â'r costau parhaus sy'n gysylltiedig â Gorsaf
Fysus Port Talbot a’r cyfleusterau toiledau a'u perthynas â'r gweithredwyr
bysus ynghylch codi tâl am ddefnyddio'r orsaf.
Hysbyswyd yr aelodau bod y
pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar incwm parcio ceir a bod nifer yr ymwelwyr
hefyd wedi gostwng yng Nghanol y Trefi; adlewyrchwyd hyn yn y pwysau cyllidebol
ar gyfer y flwyddyn i ddod. Roedd swyddogion yn gobeithio, wrth gyflwyno'r
brechlyn, y bydd y sefyllfa'n gwella ond serch hynny rhagwelwyd y bydd ffrydiau
incwm yn parhau i gael eu heffeithio yn y maes gwasanaeth hwn yn ystod 2021/22.
Nodwyd bod y Canghellor wedi
cyhoeddi’n flaenorol y bydd yr hawl i ddefnyddio diesel coch yn dod i ben o
2022; roedd gan y cyngor nifer o gerbydau Gofal Strydoedd yn ogystal â darnau
eraill o beiriannau a oedd yn defnyddio disel coch, felly bydd hyn yn cael
effaith gynyddol ac yn ychwanegu pwysau o £48k. Ychwanegwyd na fyddai'r cyngor
yn adennill y costau treth tanwydd yn y dyfodol oherwydd hyn.
Hysbyswyd y pwyllgor am rai
o'r pwysau cyllidebol y cynigir eu talu o gronfeydd penodol wrth gefn:
·
Adnoddau ychwanegol ym maes caffael – Bydd gwasanaethau
gofal strydoedd a gwasanaethau eraill a gaiff eu monitro gan y Pwyllgor Craffu
Strydlun a Pheirianneg yn un o fuddiolwyr yr adnoddau ychwanegol ym maes
caffael; gan fod angen llawer o gymorth ar y meysydd gwasanaeth gan Is-adran
Caffael y cyngor, a oedd ag adnoddau cyfyngedig ar hyn o bryd. Ar yr enghraifft
a ddarparwyd oedd adnoddau'r Orsaf Drosglwyddo yn Nhwyni Crymlyn; roedd nifer o
gontractau yr oedd angen eu trosglwyddo i brosesau a gweithdrefnau'r cyngor;
·
Cynllun peilot casgliadau Cynnyrch Hylendid Amsugnol –
roedd disgwyl i'r peilot casgliadau gael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni ac
yn amodol ar ddarparu'r cerbydau, a oedd wedi'u harchebu ar hyn o bryd; bydd yr
arian yn helpu i gyflwyno'r broses hon;
·
Arolwg cyfansawdd gwastraff untro – trefnwyd adolygiad o
Strategaeth Gwastraff y cyngor ar gyfer 2022 i sicrhau bod y cyngor ar y
trywydd iawn i gyflawni'r targed o 70% yn 2024/25; fel rhan o hyn, roedd
swyddogion yn bwriadu cynnal arolwg cyfansawdd arall ac edrych ar gyfranogiad
hefyd os yw'n bosib, er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i aelodau fel rhan o'r
trafodaethau yn y broses adolygu;
·
Costau TG Priffyrdd – nodwyd bod hon yn gost untro i
Is-adran Rheoli Datblygiad Priffyrdd y cyngor; roedd yn gysylltiedig â'r
swyddogaethau newydd ar gyfer y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy sy'n
gysylltiedig â datblygiadau newydd, i brynu modelau meddalwedd i alluogi
gorfodi, apeliadau ac arolygiadau fel rhan o system iDox y cyngor.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn manylu ar y ddwy strategaeth cynhyrchu incwm corfforaethol a
allai fod â goblygiadau i wasanaethau a oruchwylir gan y Pwyllgor Craffu
Strydlun a Pheirianneg; un ohonynt oedd y bydd galwadau ffôn y Ganolfan Alwadau
yn cael eu heffeithio, er enghraifft preswylwyr yn galw i gael mynediad at
Wasanaethau Gofal Strydoedd a Pharcio. Yr ail bwynt a amlygwyd oedd y pwysau o
ran hysbysebu a noddi; bydd Adran yr Amgylchedd yn ymwneud â'r gweithgor
corfforaethol ar gynhyrchu incwm, fodd bynnag, yn benodol ar gyfer yr adran,
bydd yn gysylltiedig ag asedau priffyrdd a lle gellid cyfrannu a/neu gynhyrchu
incwm wrth symud ymlaen.
Mynegodd yr aelodau eu
pryderon ynghylch faint o finiau gwastraff bwyd sy'n cael eu difrodi ac os
edrychwyd ymhellach ar y mater hwn, y gellid arbed arian gan na fyddai angen eu
hadnewyddu. Soniodd swyddogion fod 600 tunnell yn fwy o wastraff bwyd wedi’i
ailgylchu y llynedd gan fod mwy o bobl yn ailgylchu a bod mwy o wastraff bwyd
yn cael ei gynhyrchu; roedd mwy o bobl yn cymryd rhan mewn ailgylchu gwastraff
bwyd ac roedd angen dau fin ar breswylwyr yn hytrach nag un oherwydd y
meintiau. Nodwyd bod y ffactorau hyn, ynghyd â'r mater o ehangu gwasanaethau, i
gyd wedi cyfrannu at bryderon yr aelodau. Roedd swyddogion hefyd yn cydnabod y
bu rhai problemau gyda thoriadau, a'u bod yn edrych ar ddyluniad y biniau
gwastraff bwyd i'w gwneud yn fwy cadarn. Ychwanegwyd bod goruchwylwyr yn ceisio
sicrhau bod eu staff mor ddiwyd ag y gallent fod, o ran rhoi'r biniau yn ôl yn
ofalus.
Mewn perthynas â rheoli'r
bolard yng Nghanol Tref Port Talbot, cwestiynodd yr aelodau'r angen am
folardiau yn Heol yr Orsaf gan y gellid cael mynediad i'r stryd hon drwy'r
rhwystr diogelwch wrth ymyl Canolfan Ddinesig Port Talbot. Gofynnodd yr aelodau
hefyd a ellid gwneud y gwaith hwn drwy grant i'r Ardal Gwella Busnes (AGB) yn
hytrach na chontractio cwmni diogelwch. Esboniodd swyddogion fod angen ffordd o
gael mynediad ac allanfa frys pe bai digwyddiad yng Nghanol y Dref pan godwyd y
bolardiau, a dyna pam y byddai'r ardal wrth ymyl Canolfan Ddinesig Port Talbot
yn cael ei gadael heb folardiau. Dywedwyd bod dyfynbris ffurfiol wedi'i dderbyn
gan y cwmni diogelwch a oedd yn rheoli'r bolardiau yng Nghanol Tref Castell-nedd;
roedd y dyfynbris yn cyfeirio at y costau blynyddol ac roedd angen cwblhau
atgyweiriadau ar folardiau presennol.
Gofynnodd yr aelodau pa waith
a wnaed i sicrhau'r pwyllgor bod ffigurau'r gyllideb ar gyfer y meysydd
gwasanaeth wedi'u rhagweld yn gywir. Esboniodd swyddogion fod amcangyfrifon
ffurfiol wedi'u cwblhau yn seiliedig ar wybodaeth, ond eleni roedd llawer o'r
amcangyfrifon yn seiliedig ar yr hyn a brofwyd drwy'r pandemig. O ran y
gyllideb parcio ceir, tynnwyd sylw at y ffaith bod swyddogion wedi dadansoddi
hyn gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid a chyfrifwyr, a chanfuwyd ei bod yn anodd iawn
mesur y nifer a fydd yn manteisio arno wrth symud ymlaen, ond roedd gobeithion
y byddai sefyllfaoedd yn newid wrth i'r Gwanwyn/Haf nesáu; roedd rhai pryderon
o hyd ynghylch adennill incwm parcio a byddai'n cael ei fonitro'n ofalus iawn
yn y dyfodol. Ychwanegwyd bod Glan Môr Aberafan wedi cynhyrchu mwy o arian
eleni gan fod pobl wedi bod yn teithio i wneud ymarfer corff yn lleol. O ran y
maes Gofal Strydoedd, nodwyd bod llawer o'r eitemau'n gywir cyfrifadwy, er
enghraifft roedd swyddogion yn gwybod y costau ar gyfer y cerbydau a'r timau;
roedd rhai elfennau yn amrywio, er enghraifft yr incwm ar gyfer deunyddiau
y gellir eu hailgylchu, lle bu'n rhaid i
swyddogion edrych yn ôl ar ddata a thueddiadau hanesyddol i wneud amcangyfrif.
Ychwanegwyd y bydd amrywiadau drwy gydol y flwyddyn ac ymdrinnir â hwy o fewn
treuliau annisgwyl y gyllideb.
Yn dilyn craffu ar fanylion y
gyllideb yn yr adroddiad, atgoffwyd yr aelodau y byddai eu sylwadau o'r
cyfarfod hwn yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar gyfer cyllideb
2021/22. Gofynnwyd iddynt, os oedd ganddynt unrhyw gynigion eraill ar gyfer
arbedion cyllidebol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad amgaeedig, eu bod
yn cysylltu â swyddogion i'w hystyried.
Dogfennau ategol: