Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 63 KB Cofnodion: Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Gweithrediadau Gwasanaeth y Gaeaf PDF 68 KB Cofnodion: Roedd yr
adroddiad a gylchredwyd yn cyflwyno'r diweddaraf, yn ôl cais Aelodau'r Pwyllgor
Craffu, am y paratoadau cyfredol i sicrhau y cyflwynir gweithrediadau'r gaeaf
yn llwyddiannus, yn barod at dymor y gaeaf 2019-20. Nododd
aelodau er bod llai o lwybrau'n cael eu graeanu yn ystod y blynyddoedd
blaenorol o ganlyniad i bwysau cyllideb, roedd y cerbydlu presennol o gerbydau
graeanu yn barod ar gyfer dechrau tymor y gaeaf, ac roedd y pentyrrau graean yn
llawn. Parhaodd y cyfarpar cyfrifiadurol diweddaredig ar y cerbydau i ddarparu
data defnyddiol, megis yr ardaloedd a driniwyd a'r cyfraddau graeanu. Yn dilyn
craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu). Cofnodion: Craffodd y
Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Clefyd Coed
Ynn Roedd
adroddiad Bwrdd y Cabinet a gylchredwyd yn cynnwys gwybodaeth am effaith
ariannol ac amgylcheddol posib Clefyd Coed Ynn Chalara yn y dyfodol, a oedd ar
hyn o bryd yn effeithio ar nifer mawr o goed ar dir y cyngor a thir
preifat. Holodd yr
aelodau a oedd cyfeiriad at leoedd chwarae yn yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at
leoedd chwarae a berchnogir ac a reolir gan Gynghorau Tref/Cymuned. Cadarnhaodd
swyddogion fod y ffigurau yn yr adroddiad yn berthnasol i'r lleoedd chwarae a
berchnogir gan y cyngor yn unig. Dyletswydd perchnogion y tir fyddai rheoli'r
coed ar eu tir. Fodd bynnag, byddai'r cynllun gweithredu'n cynnwys sut byddai'r
cyngor yn rhaeadru'r wybodaeth am y clefyd i berchnogion tir eraill. Byddai hyn
yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd hefyd
lle bo tir wedi'i brydlesu gan y cyngor, byddai telerau'r brydles unigol yn
pennu pwy fydd yn gyfrifol am unrhyw goed ar y tir hwnnw. Holwyd
ynghylch cludo ac ailddefnyddio'r pren marw. Cadarnhawyd bod Clefyd Coed Ynn
bellach mor gyffredin, nad oedd unrhyw gyfyngiad ar gludo'r holl goed a
dorrwyd. Golygai hyn y gellid defnyddio'r pren hefyd mewn prosiectau bach ac
mewn stofiau coed ac ati. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai gwerth ailwerthu'r
pren yn isel o ganlyniad i nifer y coed y mae angen eu torri, a byddai'r rhan fwyaf o'r pren yn
cael ei ailgylchu. Nododd
aelodau er bod Gorsafoedd Ynni Biomas yn defnyddio pren i greu ynni, ni fyddai
coed ynn yn addas ym mhob achos, gan y dyluniwyd y broses i ddefnyddio coed
syth megis conifferau sy'n haws eu rheoli gyda'u prosesau. Byddai
ailblannu'r coed a gymynwyd â rhywogaethau eraill, at ddibenion gweledol a
bioamrywiaeth yn cael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu, a threfnwyd
cyfarfodydd parhaus ynghylch rheoli coetiroedd. Oherwydd
maint y gweithrediad, gellir defnyddio contractwyr yn ogystal â staff y cyngor
er mwyn i dorri'r coed a chael gwared arnynt. Trafodwyd y
meysydd canlynol hefyd: ·
Clefyd Coed Llarwydd, ·
Rhododendronau, ·
Cyllido'r prosiect, ·
Diogelwch y briffordd. Yn dilyn
craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y
Cabinet. Profi Cerrig
Coffa a Chofebau Roedd yr
adroddiad a gylchredwyd yn cynnwys polisi arfaethedig ar gyfer profi cerrig
coffa a chofebau a fyddai'n ffurfioli'r gweithdrefnau presennol ac yn darparu
ymagwedd glir a chyson at archwilio cerrig coffa a chofebau yn yr holl
fynwentydd a reolir gan yr awdurdod. Trafododd
Aelodau pa mor aml y byddai'r archwiliadau'n cael eu cynnal, a nodwyd y
byddai'n digwydd pob pum mlynedd, er os penderfynwyd bod carreg goffa'n
ddiogel, ond bod angen arsylwi arni, yna byddai'r archwiliadau dilynol yn fwy
aml. Nodwyd mai rhoi cerrig coffa i orwedd fyddai'r dewis olaf, ac y byddai
cerrig coffa yn cael eu hatgyfnerthu â pholyn neu eu claddu mewn twll dyfnach
lle bo modd. Yn dilyn
craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y
Cabinet Parcio dros
Nadolig 2019 Nododd aelodau yn y blynyddoedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 70 KB Cofnodion: Nododd y
pwyllgor y Blaenraglen Waith. |