Agenda item

Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu).

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Clefyd Coed Ynn

 

Roedd adroddiad Bwrdd y Cabinet a gylchredwyd yn cynnwys gwybodaeth am effaith ariannol ac amgylcheddol posib Clefyd Coed Ynn Chalara yn y dyfodol, a oedd ar hyn o bryd yn effeithio ar nifer mawr o goed ar dir y cyngor a thir preifat. 

 

Holodd yr aelodau a oedd cyfeiriad at leoedd chwarae yn yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at leoedd chwarae a berchnogir ac a reolir gan Gynghorau Tref/Cymuned. Cadarnhaodd swyddogion fod y ffigurau yn yr adroddiad yn berthnasol i'r lleoedd chwarae a berchnogir gan y cyngor yn unig. Dyletswydd perchnogion y tir fyddai rheoli'r coed ar eu tir. Fodd bynnag, byddai'r cynllun gweithredu'n cynnwys sut byddai'r cyngor yn rhaeadru'r wybodaeth am y clefyd i berchnogion tir eraill. Byddai hyn yn cynnwys Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Nodwyd hefyd lle bo tir wedi'i brydlesu gan y cyngor, byddai telerau'r brydles unigol yn pennu pwy fydd yn gyfrifol am unrhyw goed ar y tir hwnnw.

 

Holwyd ynghylch cludo ac ailddefnyddio'r pren marw. Cadarnhawyd bod Clefyd Coed Ynn bellach mor gyffredin, nad oedd unrhyw gyfyngiad ar gludo'r holl goed a dorrwyd. Golygai hyn y gellid defnyddio'r pren hefyd mewn prosiectau bach ac mewn stofiau coed ac ati. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai gwerth ailwerthu'r pren yn isel o ganlyniad i nifer y coed y mae angen eu torri, a byddai'r rhan fwyaf o'r pren yn cael ei ailgylchu.

 

Nododd aelodau er bod Gorsafoedd Ynni Biomas yn defnyddio pren i greu ynni, ni fyddai coed ynn yn addas ym mhob achos, gan y dyluniwyd y broses i ddefnyddio coed syth megis conifferau sy'n haws eu rheoli gyda'u prosesau.

 

Byddai ailblannu'r coed a gymynwyd â rhywogaethau eraill, at ddibenion gweledol a bioamrywiaeth yn cael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu, a threfnwyd cyfarfodydd parhaus ynghylch rheoli coetiroedd.

 

Oherwydd maint y gweithrediad, gellir defnyddio contractwyr yn ogystal â staff y cyngor er mwyn i dorri'r coed a chael gwared arnynt.

 

Trafodwyd y meysydd canlynol hefyd:

 

·                    Clefyd Coed Llarwydd,

·                    Rhododendronau,

·                    Cyllido'r prosiect,

·                    Diogelwch y briffordd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Profi Cerrig Coffa a Chofebau

 

Roedd yr adroddiad a gylchredwyd yn cynnwys polisi arfaethedig ar gyfer profi cerrig coffa a chofebau a fyddai'n ffurfioli'r gweithdrefnau presennol ac yn darparu ymagwedd glir a chyson at archwilio cerrig coffa a chofebau yn yr holl fynwentydd a reolir gan yr awdurdod.

 

Trafododd Aelodau pa mor aml y byddai'r archwiliadau'n cael eu cynnal, a nodwyd y byddai'n digwydd pob pum mlynedd, er os penderfynwyd bod carreg goffa'n ddiogel, ond bod angen arsylwi arni, yna byddai'r archwiliadau dilynol yn fwy aml. Nodwyd mai rhoi cerrig coffa i orwedd fyddai'r dewis olaf, ac y byddai cerrig coffa yn cael eu hatgyfnerthu â pholyn neu eu claddu mewn twll dyfnach lle bo modd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Parcio dros Nadolig 2019

 

Nododd aelodau yn y blynyddoedd blaenorol pan gynigiwyd parcio am ddim dros y Nadolig yn yr wythnosau cyn y Nadolig, fod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu yng nghanol trefi - 11% ym Mhort Talbot er enghraifft. Er ei bod hi'n anodd cael gwybodaeth fesuradwy gan fasnachwyr lleol, teimlant bod budd o'r parcio am ddim.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.