Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 213 KB ·
13 Medi 2021 ·
20 Ionawr 2022 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 13 Medi 2021 a 20 Ionawr 2022 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Effaith COVID-19 ar Gynaliadwyedd Cartrefi Gofal Pobl Hŷn yng Nghastell-nedd Port Talbot (Diweddariad Llafar) Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad llafar i'r Aelodau ynghylch effaith COVID-19
ar gynaliadwyedd cartrefi gofal pobl hŷn yng Nghastell-nedd Port Talbot. Esboniwyd bod cartrefi gofal
yn dal i weithredu rhwng adfer ac ymateb ar hyn o bryd, a bod sefyllfaoedd mewn
cartrefi gofal unigol yn newid yn rheolaidd iawn; oherwydd y sefyllfa bresennol
hon, roedd yn anodd i swyddogion ddarparu diweddariad llawn a manwl ar y sector
cartrefi gofal i oedolion. Cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn gallu rhoi gwell dealltwriaeth o sut y gallai'r sector hwn edrych yn
y dyfodol, gan gynnwys cynaliadwyedd y farchnad, ymhen tua 3 mis. Nodwyd bod
cartrefi gofal yn ymdopi, er gwaethaf y ffaith bod y cyngor wedi gorfod camu i
mewn i helpu gyda phrinder staff. Gofynnodd yr Aelodau a oedd
problemau o hyd o ran recriwtio staff ar gyfer cartrefi gofal. Dywedodd
swyddogion fod problemau o hyd, gyda rhai cartrefi'n dibynnu'n drwm iawn ar
staff asiantaeth. Fodd bynnag, esboniwyd bod y cyngor yn gwneud darn o waith i
edrych ar holl weithlu'r sector gofal er mwyn ceisio datrys y materion
presennol dan sylw. O ran y farchnad gofal cartref, nodwyd bod hyn mewn
sefyllfa debyg, ac roedd swyddogion yn gwneud yr hyn a allent er mwyn darparu
cymorth. Gofynnodd y Pwyllgor am yr
wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gofal seibiant. Esboniwyd bod trafferthion
wedi bod ers dechrau'r pandemig o ran darparu gofal seibiant sylweddol; fodd
bynnag, oherwydd pwysigrwydd rhoi seibiant i ofalwyr rhag gofalu, roedd y
cyngor wedi cynnig rhai mathau eraill o seibiant, ac erbyn hyn roedd ganddynt
nifer o gynlluniau y gellid eu defnyddio wrth symud ymlaen. Ychwanegwyd y
byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu dros y flwyddyn nesaf, gan fod
swyddogion yn edrych eto ar seibiant a'r hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn
dilyn y pandemig. Un enghraifft a ddarparwyd oedd bod rhai gofalwyr yn gofyn am
ychydig oriau o'u diwrnod er mwyn cymryd peth amser i'w hunain; yn hytrach na
diwrnod neu wythnos lawn. Yn yr achosion lle'r oedd teuluoedd yn ei chael hi'n
anodd iawn, nodwyd bod unigolion yn cael eu rhoi mewn cartref gofal preswyl fel
rhan o ofal estynedig; nid math o seibiant oedd hwn, ond roedd yn rhoi seibiant
i'r teulu o ofalu am ychydig ddyddiau. I gloi, dywedwyd nad oedd seibiant wedi
dychwelyd yn llwyr i'r ffordd yr hoffai swyddogion iddo fod; fodd bynnag, roedd
mewn sefyllfa lle gellid ei chymeradwyo, a oedd yn rhywbeth nad oedd swyddogion
wedi gallu ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Cafwyd trafodaeth ynghylch
asesiadau unigolion. Hysbyswyd yr Aelodau na ddylid oedi'n sylweddol gydag
asesiadau, er gwaethaf y pwysau o ganlyniad i'r galw yn y gymuned a'r galw yn
yr ysbyty. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â swyddogion os oeddent yn ymwybodol o
faterion gydag achosion unigol; byddai swyddogion wedyn yn gallu symud ymlaen
â'r achos. Yn dilyn y drafodaeth ynghylch gofal seibiant, gofynnwyd a oedd swyddogion yn ymchwilio i ailgyflwyno'r canolfannau dydd a oedd yn darparu seibiant diwrnod llawn. Cadarnhawyd bod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1a |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Adroddiad Perfformiad Chwarter
3 2021-22 Cyflwynwyd Adroddiad
Perfformiad y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc a'r Gwasanaethau i Oedolion
i'r Aelodau ar gyfer cyfnod y 3ydd Chwarter (Ebrill 2021 – Rhagfyr 2021). Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn manylu ar gynnydd yn y pwysau ar y ganolfan gofal pwynt cyswllt
unigol; nododd yr adroddiad fod cynnydd yn nifer yr achosion lle'r oedd risg yn
cael ei nodi o ganlyniad i'r ymholiadau adran 47. Gofynnwyd a allai swyddogion
gadarnhau a oedd y cynnydd mewn pwysau yn gysylltiedig â'r pandemig.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc fod y ganolfan gofal
pwynt cyswllt unigol wedi bod dan bwysau sylweddol drwy gydol y pandemig.
Esboniwyd bod swyddogion yn barod ac yn ymateb i'r cynnydd yn y galw, oherwydd
cyn y pandemig roedd swm sylweddol o adnoddau, gan gynnwys staff ychwanegol,
wedi'u dyrannu i'r gwasanaeth. Ychwanegwyd bod y galw yn parhau i fod yn uchel
yng Nghastell-nedd Port Talbot ar hyn o bryd, ond roedd swyddogion yn gallu
parhau i fodloni hyn. Sicrhawyd yr Aelodau bod y gwasanaethau i blant wedi
cynnal eu cyfrifoldebau diogelu drwy gydol y pandemig; Parhaodd swyddogion i
ymweld â theuluoedd a phlant diamddiffyn yn y gymuned. Cyfeiriwyd at ganran yr
ailgofrestriadau plant ar gofrestr amddiffyn plant yr awdurdod lleol; holwyd
pam y rhestrwyd y dangosydd perfformiad hwn yn goch. Esboniodd swyddogion fod y
cyngor wedi creu trefniant gyda'i bartneriaid, ysgolion lleol, ymwelwyr iechyd
a theuluoedd, lle cawsant i gyd eu hannog i ailatgyfeirio pe bai'r sefyllfa'n
newid yn y dyfodol; rhaid cadw hyn mewn cof wrth edrych ar y gyfradd
ailatgyfeirio. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y gyfradd atgyfeirio'n cael ei
monitro'n rheolaidd, ac mae swyddogion yn archwilio'r holl achosion er mwyn
penderfynu a ddysgwyd unrhyw wersi neu a oedd unrhyw themâu; yna caiff y math
hwn o wybodaeth ei bwydo'n ôl i'r gwasanaeth. Soniodd swyddogion nad oeddent yn
bryderus ynghylch y ffigur a restrwyd yn y dangosyddion perfformiad oherwydd y
rhesymau hyn. Gofynnodd yr Aelodau i
swyddogion ymhelaethu ar y dangosydd perfformiad sy'n ymwneud ag oedi wrth drosglwyddo
gofal; nododd yr adroddiad nad oedd swyddogion yn gallu cyfrifo'r dangosydd
perfformiad hwn gan nad oedd unrhyw ddata wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru
ers mis Mawrth 2020 oherwydd COVID-19. Esboniodd swyddogion fod y dangosydd hwn
wedi'i atal ar ddechrau'r pandemig. Sicrhawyd yr Aelodau bod Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion yn ymwybodol o'r ffigurau sy'n ymwneud â'r rheini mewn
gwelyau ysbyty, y rheini sy'n aros am becyn gofal neu'r rheini sy'n aros am
leoliad gofal preswyl; darparwyd y dadansoddiad hwn o wybodaeth i swyddogion yn
wythnosol. Nodwyd bod oedi, ond roedd y tîm yn ymwybodol o bob sefyllfa lle
cafwyd oedi a'r rhesymau pam. Cafwyd trafodaeth ynglŷn â nifer yr achosion o oedolion sydd mewn perygl sy'n cael eu hadrodd. Amlygodd yr adroddiad a ddosbarthwyd nad oedd yn syndod bod adroddiadau wedi cynyddu, gan fod gweithwyr proffesiynol yn fwy gofalus wrth adrodd; fodd bynnag, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith Craffu Gofal
Cymdeithasol, Iechyd a Lles ar gyfer 2021/22.
|