Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau i Oedolion ddiweddariad llafar i'r Aelodau ynghylch effaith COVID-19
ar gynaliadwyedd cartrefi gofal pobl hŷn yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Esboniwyd bod cartrefi gofal
yn dal i weithredu rhwng adfer ac ymateb ar hyn o bryd, a bod sefyllfaoedd mewn
cartrefi gofal unigol yn newid yn rheolaidd iawn; oherwydd y sefyllfa bresennol
hon, roedd yn anodd i swyddogion ddarparu diweddariad llawn a manwl ar y sector
cartrefi gofal i oedolion.
Cadarnhaodd swyddogion y
byddent yn gallu rhoi gwell dealltwriaeth o sut y gallai'r sector hwn edrych yn
y dyfodol, gan gynnwys cynaliadwyedd y farchnad, ymhen tua 3 mis. Nodwyd bod
cartrefi gofal yn ymdopi, er gwaethaf y ffaith bod y cyngor wedi gorfod camu i
mewn i helpu gyda phrinder staff.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
problemau o hyd o ran recriwtio staff ar gyfer cartrefi gofal. Dywedodd
swyddogion fod problemau o hyd, gyda rhai cartrefi'n dibynnu'n drwm iawn ar
staff asiantaeth. Fodd bynnag, esboniwyd bod y cyngor yn gwneud darn o waith i
edrych ar holl weithlu'r sector gofal er mwyn ceisio datrys y materion
presennol dan sylw. O ran y farchnad gofal cartref, nodwyd bod hyn mewn
sefyllfa debyg, ac roedd swyddogion yn gwneud yr hyn a allent er mwyn darparu
cymorth.
Gofynnodd y Pwyllgor am yr
wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gofal seibiant. Esboniwyd bod trafferthion
wedi bod ers dechrau'r pandemig o ran darparu gofal seibiant sylweddol; fodd
bynnag, oherwydd pwysigrwydd rhoi seibiant i ofalwyr rhag gofalu, roedd y
cyngor wedi cynnig rhai mathau eraill o seibiant, ac erbyn hyn roedd ganddynt
nifer o gynlluniau y gellid eu defnyddio wrth symud ymlaen. Ychwanegwyd y
byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu datblygu dros y flwyddyn nesaf, gan fod
swyddogion yn edrych eto ar seibiant a'r hyn y gellid ei wneud yn wahanol yn
dilyn y pandemig. Un enghraifft a ddarparwyd oedd bod rhai gofalwyr yn gofyn am
ychydig oriau o'u diwrnod er mwyn cymryd peth amser i'w hunain; yn hytrach na
diwrnod neu wythnos lawn. Yn yr achosion lle'r oedd teuluoedd yn ei chael hi'n
anodd iawn, nodwyd bod unigolion yn cael eu rhoi mewn cartref gofal preswyl fel
rhan o ofal estynedig; nid math o seibiant oedd hwn, ond roedd yn rhoi seibiant
i'r teulu o ofalu am ychydig ddyddiau. I gloi, dywedwyd nad oedd seibiant wedi
dychwelyd yn llwyr i'r ffordd yr hoffai swyddogion iddo fod; fodd bynnag, roedd
mewn sefyllfa lle gellid ei chymeradwyo, a oedd yn rhywbeth nad oedd swyddogion
wedi gallu ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
asesiadau unigolion. Hysbyswyd yr Aelodau na ddylid oedi'n sylweddol gydag
asesiadau, er gwaethaf y pwysau o ganlyniad i'r galw yn y gymuned a'r galw yn
yr ysbyty. Anogwyd yr Aelodau i gysylltu â swyddogion os oeddent yn ymwybodol o
faterion gydag achosion unigol; byddai swyddogion wedyn yn gallu symud ymlaen
â'r achos.
Yn dilyn y drafodaeth ynghylch
gofal seibiant, gofynnwyd a oedd swyddogion yn ymchwilio i ailgyflwyno'r
canolfannau dydd a oedd yn darparu seibiant diwrnod llawn. Cadarnhawyd bod
swyddogion yn edrych ar bob math o ddarpariaethau amgen, a oedd yn wahanol i'r
hyn a oedd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer seibiant; er enghraifft, datblygu
canolfan byw'n annibynnol yn B'spoked.