Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Cafwyd
datganiadau o fudd gan y Cynghorwyr canlynol ar ddechrau’r cyfarfod:
|
|||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 78 KB Cofnodion: Y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 17 Hydref
2019. |
|||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd
y pwyllgor wybodaeth am Ddata Mesurau Lefel Uchel y Gwasanaethau i Oedolion a
Phlant a Phobl ifanc ar gyfer cyfnod yr ail chwarter (Ebrill 2019 – Medi 2019)
fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. I
ateb ymholiadau’r Cynghorwyr derbyniwyd yr esboniadau canlynol. Roedd
nifer y swyddi gwag a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol,
cynorthwywyr a staff cymorth; nid oedd y ffigur yn ymwneud â Gweithwyr
Cymdeithasol yn unig. Yn y dyfodol, byddai adroddiadau’n cynnwys mwy o fanylion
am bob gwasanaeth. Roedd
swyddi gwag ychwanegol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion
Galwedigaethol o ganlyniad i gyllid ychwanegol dros dro a ddaeth i law felly
roedd swyddi ychwanegol yn cael eu llenwi dros dro. Hefyd, byddai swyddi gwag
yn y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn effeithio ar yr amserau aros ar gyfer
asesiadau. Mewn
85% (11/13) o’r achosion a archwiliwyd, roedd y sawl dan oruchwyliaeth wedi
mynychu hyfforddiant yn ystod y tair sesiwn oruchwylio ddiwethaf; roedd hyn o
ganlyniad i’r ffaith bod anghenion unigol y swyddog wedi’u targedu. O
ganlyniad i rywfaint o anhawster yn cyrchu ffeiliau goruchwylio staff yng
Nghanolfan Ddiogel Hillside, roedd loceri newydd wedi’u prynu er mwyn sicrhau
na fyddai hyn yn digwydd eto. Byddai’r ffeiliau hyn yn cael eu harchwilio
eto. Ar
ôl craffu, cytunwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei nodi. |
|||||
Craffu Cyn Penderfyniad Dewis
eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Penderfynodd
y pwyllgor graffu’r eitemau canlynol i fwrdd y cabinet: Ailfodelu
ac Adleoli Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth Cafodd
y pwyllgor drosolwg o’r cynnig i ailfodelu ac adleoli’r Gwasanaeth Dydd
Anghenion Cymleth a leolir yn Abbeyview, Brynamlwg a Threm y Môr fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoddwyd
sicrwydd i’r Cynghorwyr nad ymarfer torri costau oedd y cynnig am fod y
costau’n niwtral. Y bwriad oedd atgyfnerthu’r ddarpariaeth sy’n bodoli
eisoes. Mynegodd
y Cynghorwyr bryder am yr amser ychwanegol y byddai defnyddwyr gwasanaethau’n
ei dreulio’n teithio i’r lleoliad newydd. Esboniwyd na fyddai unrhyw amser
ychwanegol yn cael ei dreulio ar fysiau, a hynny drwy drafod gyda’n cydweithwyr
trafnidiaeth. Os byddai angen, byddai’r llwybrau codi teithwyr yn cael eu
haildrefnu i sicrhau hyn. Byddai llai o lwybrau codi teithwyr i bob bws lle
bynnag byddai angen hynny. Byddai adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r amserau
a’r lleoliadau’n cael ei gyflwyno i’r Cynghorwyr ei ystyried mewn cyfarfod yn y
dyfodol. Byddai
ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau ag Anhwylder y
Sbectrwm Awtistiaeth er mwyn iddynt allu ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn
sgil y cynnig hwn. Byddai cyfeillgarwch rhwng defnyddwyr gwasanaethau, a godwyd
yn flaenorol gan rieni yn ystod yr ymgynghoriad, hefyd yn rhan o’r gwaith
cynllunio. Cadarnhaodd
swyddogion y byddai costau ychwanegol oherwydd hyfforddiant staff am y byddai
angen i staff asiantaeth weithredu yn lle’r staff fyddai’n derbyn yr
hyfforddiant. Roedd trafodaethau gyda darparwyr gofal yn parhau. Cafwyd
trafodaeth am y broses i gefnogi teuluoedd a rhieni a oedd yn anfodlon am y
cynnig. Esboniodd swyddogion fod cyfarfodydd wedi’u cynnal gydag unigolion i
liniaru unrhyw faterion ac i gynorthwyo pobl i ddeall pam roedd y newidiadau
wedi’u cyflwyno. Cydnabuwyd hefyd bod newid yn gallu bod yn anodd i lawer o
bobl. Hefyd, wrth fyfyrio am yr ymgynghoriad, byddai unrhyw wersi a oedd wedi’u
dysgu yn sgil y broses honno’n cael eu defnyddio i lywio ymgynghoriadau yn y
dyfodol. Ar
ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu
hystyried. Polisi
Taliadau Uniongyrchol Ar
y pwynt hwn, ailnododd Y Cynghorydd C. Galsworthy ei budd yn yr eitem hon ac
ymddieithriodd o’r cyfarfod. Derbyniodd
y Cynghorwyr wybodaeth am y Polisi Taliadau Uniongyrchol fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. I
ateb ymholiadau’r Cynghorwyr, nodwyd nad oedd y Polisi Taliadau Uniongyrchol yn
destun ymgynghori allanol am mai esboniad oedd e o’r system Taliadau
Uniongyrchol, yn hytrach na pholisi sy’n nodi ac esbonio’r dull gweithredu
mae’r Cyngor wedi dewis ei fabwysiadu o fewn fframwaith cyfreithiol. Cynhaliwyd
Asesiad Effaith Integredig yn rhan o waith y Cyngor o gyflawni ei ddyletswyddau
deddfwriaethol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg
(Rhif 1) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn ogystal, holodd y Cynghorwyr pam nad oedd effaith ar y cymoedd. Roedd nifer o achosion lle nad oedd defnyddwyr gwasanaethau’n gallu recriwtio i rolau cynorthwywyr personol. Esboniodd swyddogion fod yr adran hon o’r adroddiad yn cyfeirio at y dyletswyddau deddfwriaethol o dan y deddfau cydraddoldeb perthnasol. Hefyd, ni fyddai ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth
Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf
uchod Cofnodion:
|
|||||
Diweddariad ar Gynllun Strategol Anhwylder y Sbectrwm Awtistig/Anhwylderau Niwroddatblygiadol (ASD/NDD) Cofnodion: Derbyniodd
y pwyllgor ddiweddariad ar gynnydd a datblygiad Cynllun Strategol Anhwylder y
Sbectrwm Awtistiaeth / Anhwylderau Niwroddatblygiadol (ASD/NDD) fel y nodwyd yn
yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Cafwyd
trafodaeth am y gefnogaeth a ddarperir i bobl ag ASD/NDD. Lle bo angen,
daethpwyd â’r gwasanaeth i’r defnyddwyr gwasanaethau. Er enghraifft, byddai
staff y ganolfan waith yn ymweld â’r cleient os oedd yn anodd i’r cleient hwnnw
fynd i’r canolfannau gwaith. I
ymateb i ymholiadau’r Cynghorwyr, nodwyd bod y cyllid wedi’i ddarparu gan y
Gronfa Gofal Integredig a gâi ei harwain gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe felly
nid oedd unrhyw effeithiau ariannol ar y Cyngor. Mynegwyd
pryder am y diffyg data am restrau aros am ddiagnosisau a faint o bobl oedd yn
derbyn cefnogaeth ar ôl cael diagnosisau. Cafwyd
trafodaeth am bwysigrwydd cydweithio rhwng y Cyfarwyddiaethau Gwasanaethau,
Iechyd a Thai ac Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, er mwyn sicrhau bod dull
gweithredu cyson. Cafwyd trafodaeth bellach am yr angen i gynnwys asiantaethau
eraill a oedd hefyd yn darparu gwasanaethau i gefnogi ASD/NDD. Gofynnwyd i
Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc nodi’r holl asiantaethau sy’n
gyfrifol am wasanaethau ASD/NDD ac i Gadeirydd y pwyllgor hwn ysgrifennu
llythyr yn ymdrin â’r angen i’r holl asiantaethau weithio gyda’i gilydd. At
hynny, gofynnodd y Cynghorwyr i ystyriaeth gael ei rhoi i gynnal cyfarfodydd
craffu ar y cyd ag Addysg, Sgiliau a Diwylliant ar bynciau trawsbynciol fel y
Cynllun Strategol Awtistiaeth. Gofynnwyd i’r Swyddog Craffu roi gwybod i’r
pwyllgor am unrhyw adroddiadau’n ymwneud ag ASD/NDD a oedd yn cael eu hystyried
gan Fwrdd Cabinet Addysg, Sgiliau a Diwylliant. Gofynnodd
y Cynghorwyr i’w gwerthfawrogiad gael ei gyfleu i’r holl staff sy’n
gysylltiedig â gwasanaethau ASD/NDD am eu holl waith caled a’u hymrwymiad at
ddarparu gwasanaeth rhagorol. Ar
ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. |
|||||
Craffu Cyn Penderfyniad (Preifat) Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Penderfynodd
y pwyllgor graffu’r eitemau preifat canlynol i fwrdd y cabinet: Adroddiad
y Rheolwr ar Gartref Plant Diogel Hillside Derbyniodd
y Cynghorwyr wybodaeth am y bobl ifanc, gwybodaeth am staff, cynllunio’r
gwasanaeth a datblygiad yn ystod y cyfnod rhwng 1 Mehefin – 31 Hydref 2019 (5
mis) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Ar
ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. Deddf
Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 Derbyniwyd
trosolwg o’r adroddiad Rheoliadau’r Gwasanaeth Rheoleiddiedig (Darparwyr
Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) 2017 mewn perthynas â Chanolfan Ddiogel
Hillside, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Ar ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad. |