Dewis
eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Penderfynodd
y pwyllgor graffu’r eitemau canlynol i fwrdd y cabinet:
Ailfodelu
ac Adleoli Gwasanaethau Dydd Anghenion Cymhleth
Cafodd
y pwyllgor drosolwg o’r cynnig i ailfodelu ac adleoli’r Gwasanaeth Dydd
Anghenion Cymleth a leolir yn Abbeyview, Brynamlwg a Threm y Môr fel y nodwyd
yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Rhoddwyd
sicrwydd i’r Cynghorwyr nad ymarfer torri costau oedd y cynnig am fod y
costau’n niwtral. Y bwriad oedd atgyfnerthu’r ddarpariaeth sy’n bodoli
eisoes.
Mynegodd
y Cynghorwyr bryder am yr amser ychwanegol y byddai defnyddwyr gwasanaethau’n
ei dreulio’n teithio i’r lleoliad newydd. Esboniwyd na fyddai unrhyw amser
ychwanegol yn cael ei dreulio ar fysiau, a hynny drwy drafod gyda’n cydweithwyr
trafnidiaeth. Os byddai angen, byddai’r llwybrau codi teithwyr yn cael eu
haildrefnu i sicrhau hyn. Byddai llai o lwybrau codi teithwyr i bob bws lle
bynnag byddai angen hynny. Byddai adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r amserau
a’r lleoliadau’n cael ei gyflwyno i’r Cynghorwyr ei ystyried mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Byddai
ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau ag Anhwylder y
Sbectrwm Awtistiaeth er mwyn iddynt allu ymdopi â’r newidiadau a ddaw yn
sgil y cynnig hwn. Byddai cyfeillgarwch rhwng defnyddwyr gwasanaethau, a godwyd
yn flaenorol gan rieni yn ystod yr ymgynghoriad, hefyd yn rhan o’r gwaith
cynllunio.
Cadarnhaodd
swyddogion y byddai costau ychwanegol oherwydd hyfforddiant staff am y byddai
angen i staff asiantaeth weithredu yn lle’r staff fyddai’n derbyn yr
hyfforddiant. Roedd trafodaethau gyda darparwyr gofal yn parhau.
Cafwyd
trafodaeth am y broses i gefnogi teuluoedd a rhieni a oedd yn anfodlon am y
cynnig. Esboniodd swyddogion fod cyfarfodydd wedi’u cynnal gydag unigolion i
liniaru unrhyw faterion ac i gynorthwyo pobl i ddeall pam roedd y newidiadau
wedi’u cyflwyno. Cydnabuwyd hefyd bod newid yn gallu bod yn anodd i lawer o
bobl. Hefyd, wrth fyfyrio am yr ymgynghoriad, byddai unrhyw wersi a oedd wedi’u
dysgu yn sgil y broses honno’n cael eu defnyddio i lywio ymgynghoriadau yn y
dyfodol.
Ar
ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu
hystyried.
Polisi
Taliadau Uniongyrchol
Ar
y pwynt hwn, ailnododd Y Cynghorydd C. Galsworthy ei budd yn yr eitem hon ac
ymddieithriodd o’r cyfarfod.
Derbyniodd
y Cynghorwyr wybodaeth am y Polisi Taliadau Uniongyrchol fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
I
ateb ymholiadau’r Cynghorwyr, nodwyd nad oedd y Polisi Taliadau Uniongyrchol yn
destun ymgynghori allanol am mai esboniad oedd e o’r system Taliadau
Uniongyrchol, yn hytrach na pholisi sy’n nodi ac esbonio’r dull gweithredu
mae’r Cyngor wedi dewis ei fabwysiadu o fewn fframwaith cyfreithiol. Cynhaliwyd
Asesiad Effaith Integredig yn rhan o waith y Cyngor o gyflawni ei ddyletswyddau
deddfwriaethol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg
(Rhif 1) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Yn
ogystal, holodd y Cynghorwyr pam nad oedd effaith ar y cymoedd. Roedd nifer o
achosion lle nad oedd defnyddwyr gwasanaethau’n gallu recriwtio i rolau
cynorthwywyr personol. Esboniodd swyddogion fod yr adran hon o’r adroddiad yn
cyfeirio at y dyletswyddau deddfwriaethol o dan y deddfau cydraddoldeb
perthnasol. Hefyd, ni fyddai neb yn cael ei orfodi i ddefnyddio taliadau
uniongyrchol. Pe na bai unrhyw gynorthwywyr personol ar gael, yna byddai’r Cyngor
yn darparu’r gwasanaeth ar sail anghenion y person. Gallai derbynwyr hefyd
roi’r gorau i daliadau uniongyrchol ar unrhyw adeg.
Holodd
y Cynghorwyr beth oedd cost resymol am fod hyn wedi’i nodi yn y polisi.
Esboniodd swyddogion fod y gost yn dibynnu ar angen y claf fel yr aseswyd a
chost resymol am y gwasanaeth. Petai derbynnydd yn dewis trefnu gwasanaeth
drutach, byddai’n rhaid i’r unigolyn dalu’r gwahaniaeth yn y gost.
Mewn
ymateb i ymholiadau’r Cynghorwyr, cadarnhaodd swyddogion fod gwiriadau’r Gwasanaeth
Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael eu gwirio gan y gweithiwr cymdeithasol. Pe na
bai gweithiwr cymdeithasol yn gysylltiedig, yna’r tîm taliadau uniongyrchol
fyddai’n cynnal gwiriadau ac yn atgyfeirio, pe bai angen, at y tîm
diogelu.
Ar
ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu
hystyried.
Polisi
Dyrannu Cyfnodau Ysbaid mewn Gwasanaethau Oedolion
(Ar
y pwynt hwn, dychwelodd y Cynghorydd C.Galsworthy i gymryd rhan yn y
cyfarfod.)
Derbyniodd
y Cynghorwyr wybodaeth am ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Polisi
Dyrannu Seibiant mewn Gwasanaethau Oedolion a oedd wedi’i ddiwygio, fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Mynegwyd
pryder am y ffurflen ticio blychau newydd a oedd yn pennu anghenion gofal a chymorth
unigolion a gofalwyr o ran eu cymhwyster i gael seibiant. Esboniodd swyddogion
fod y ffurflen wedi’i datblygu yn dilyn cais gan weithwyr cymdeithasol am
gymorth wrth asesu angen. Mae’r system sgorio’n rhan o’r asesiad. Byddai’r
ffurflen wedyn yn rhan o ystyriaethau’r Panel Adnoddau sy’n dyrannu
seibiant.
Gofynnodd
y pwyllgor beth oedd yr amserau aros ar gyfer asesiadau ac esboniwyd bod yr
amserau aros wedi gostwng ond y byddai ymateb ar unwaith pe bai cais yn cael ei
nodi’n un brys.
Datblygwyd
y polisi er mwyn cyflwyno dull mwy hyblyg i alluogi defnyddwyr gwasanaethau a
gofalwyr i ddewis pecyn gofal a oedd yn cyd-fynd â’u hanghenion. Nid oedd rhai
defnyddwyr gwasanaeth am fynd i leoliad seibiant oherwydd ei bod yn well
ganddynt aros gartref a chael gofal yna. Roedd modd defnyddio taliadau
uniongyrchol hefyd.
Roedd
gan y tîm taliadau uniongyrchol gofrestr o gynorthwywyr personol ac roeddent yn
holi cynorthwywyr personol sydd eisoes wrthi’n gweithio os byddai defnyddwyr
gwasanaeth/gofalwyr yn chwilio am gymorth seibiant ac yn methu â dod o hyd i
Gynorthwyydd Personol.
Ar
ôl craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi’r cynigion i fwrdd y cabinet eu
hystyried.
Gwasanaethau
Oedolion, Plant a Phobl Ifanc – 2il Chwarter
Derbyniodd
y pwyllgor wybodaeth am Wybodaeth Perfformiad, Cwynion a Chlod ar gyfer
Gwasanaethau i Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc fel ei gilydd ar gyfer Chwarter
2 fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd
y Cynghorwyr yn pryderu am y 100 o bobl nad oeddent wedi’u hatal rhag dod yn
ddigartref. Esboniodd swyddogion y byddai adroddiad diweddaru’n cael ei baratoi
a fyddai’n cynnwys yr amrywiol resymau pam nad oedd digartrefedd wedi’i atal a
hefyd niferoedd y bobl a oedd wedi gwrthod help. Amlygodd swyddogion fod amryw
resymau pam nad oedd digartrefedd wedi’i atal. Nid oedd gan Gyngor Bwrdeistref
Sirol Castell-nedd Port Talbot stoc tai. Roedd anawsterau gyda’r llety gwely a
brecwast yn Abertawe. Roedd trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru a
Chymdeithas Tai Tarian i gynorthwyo i gefnogi’r bobl hyn sy’n agored i
niwed.
Cafwyd
trafodaeth ynghylch model i atal digartrefedd a oedd yn cael ei ddefnyddio yn
yr Alban ac sydd wedi bod yn effeithiol iawn. Byddai swyddogion yn archwilio’r
model hwn ac yn darparu adroddiad os byddai hynny’n briodol.
Ar
ôl craffu, cytunwyd y dylid nodi’r adroddiad.