Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Stacy Curran 01639 763194 E-bost: s.curran@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiadau o fudd Cofnodion: Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar
ddechrau'r cyfarfod:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 73 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion yr ymgynghoriad ar Gyllideb ac
Arbedion Drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2020/21 ar 23 Ionawr 2020. Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 19 Rhagfyr,
2019. Rhoddwyd eglurhad ar gais yr
aelodau ar "85% (11/13) yr achosion a archwiliwyd." Mewn 85% (11/13) o'r achosion a archwiliwyd, roedd
y gweithiwr a oruchwyliwyd wedi mynychu o leiaf un sesiwn hyfforddi yn ystod yr
un cyfnod ag y cynhaliwyd y tair sesiwn oruchwylio ddiwethaf. O ganlyniad,
roedd hyn yn galluogi'r goruchwyliwr/gweithiwr dan oruchwyliaeth i fyfyrio ar
sut yr oedd yr hyfforddiant wedi effeithio ar ei arfer yn ystod y sesiynau
goruchwylio. Yn dilyn hynny, cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd y
llythyr a amlygwyd yng nghofnodion y cyfarfod ar 19 Rhagfyr 2019 (Cofnod Rhif 6
– Diweddariad ar Gynllun Strategol Anhwylder y Sbectrwm Awtistig/Anhwylderau
Niwroddatblygiadol (Cynllun Strategol ASD/NDD) yn barod i'w ystyried yn y
cyfarfod nesaf. |
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniwyd gwybodaeth am Ddata Mesurau Lefel Uchel
y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion ar gyfer Cyfnod
y 3ydd Chwarter (Ebrill – Rhagfyr 2019) fel y nodir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau: ·
Mae ystadegau salwch hirdymor
yn nodi straen fel rheswm - ai oherwydd y gwaith yw hwn neu oherwydd rhesymau
personol? Esboniodd swyddogion bod y ddau reswm yn achosi hyn ond os nodir eu
bod yn gysylltiedig â'r gwaith, gweithredir proses y cytunwyd arni i reoli a
lliniaru hyn. ·
Pam cafwyd cynnydd mewn nifer
y gweithwyr asiantaeth yn 2019 o'i gymharu â 2018? Y rheswm am hyn oedd bod arian ychwanegol yn
cael ei dderbyn i gyflogi therapyddion galwedigaethol ychwanegol. ·
Pam mae canran y
goruchwyliaethau a gwblhawyd o fewn yr amserlen wedi gostwng? Roedd hyn o
ganlyniad i'r swyddi gwag a salwch ychwanegol ond roedd ymarfer ailfodelu yn y
gwasanaethau i oedolion yn cael ei gynnal ar hyn o bryd a fyddai'n arwain at
liniaru hyn. Byddai cynnig yn cael ei gyflwyno i'r aelodau maes o law. ·
Beth oedd y meini prawf a'r
broses ar gyfer ychwanegu/tynnu plentyn oddi ar y gofrestr Amddiffyn Plant, gan
ei bod yn ymddangos ei fod wedi cynyddu ychydig. Esboniwyd bod llawer o
ffactorau yn cael effaith ar hyn, ac y penodwyd Swyddog Diogelu dynodedig a
oedd yn goruchwylio'r holl achosion hyn.
Roedd rhai pobl ifanc a oedd wedi'u symud o'r cartref ac wedi ymgartrefu
mewn gofal maeth wedi aros ar gofrestrau amddiffyn plant a chofrestrau derbyn
gofal. Yn ogystal, cynhaliwyd adolygiad o achosion dros 12 mis. Cafodd y penderfyniad i dynnu plentyn/person
ifanc o'r gofrestr ei wneud gan banel amlasiantaeth a oedd yn cynnwys addysg,
yr heddlu ac unrhyw un sy'n ymwneud â'r achos. Archwilir achosion sydd wedi'u
dadgofrestru a chânt eu rhoi yn ôl ar y gofrestr os bydd angen. Mae Prif Swyddog yr ardal honno hefyd yn
monitro cyfradd y newidiadau. ·
Gofynnwyd am eglurhad ynghylch
pam nad oedd gan dros hanner yr achosion o'r Gwasanaethau i Oedolion
ddadansoddiad clir o'r wybodaeth a rennir, fel y nodwyd yn adroddiad yr
archwilwyr. Cadarnhaodd swyddogion fod
hyn o ganlyniad i broses weinyddol a bod gweithdrefn newydd wedi'i rhoi ar
waith. ·
Unwaith eto, mewn perthynas ag
adroddiad yr archwilwyr, gofynnwyd pam nad oedd rhai ffeiliau'n cynnwys cerdyn
meddygol wrth eu derbyn, a oedd yn dangos nad oedd yr wybodaeth hon ar gael yn
ystod yr archwiliad neu nad oedd cerdyn cyfeirio'n bodoli, felly byddai angen
adolygu hyn mewn polisi. Esboniodd swyddogion y byddent yn gofyn am eglurder
gan y bwrdd iechyd sy'n gyfrifol am y cerdyn meddygol ac yn adrodd yn ôl i'r
aelodau. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet: Gwasanaethau
Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion – Adroddiad Perfformiad y 3ydd
Chwarter (Ebrill 2019 – Rhagfyr 2019) Cafodd y pwyllgor drosolwg o Berfformiad y
Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion – y 3ydd Chwarter
(Ebrill – Rhagfyr 2019) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau: ·
Pa gynnydd y mae Opsiynau Tai neu'r
Swyddog Ataliol wedi'i wneud gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
(LCC). Mae'r data'n nodi mewn 140 o
achosion na rwystrwyd pobl rhag dod yn ddigartref. Dywedodd swyddogion eu bod yn cysylltu â
landlordiaid cymdeithasol a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda
Tai Tarian a Pobl ond y broblem oedd bod diffyg darpariaeth llety 1 ystafell
wely. Nododd yr aelodau fod cyllid ar
gael am flwyddyn yn unig ar gyfer y Swyddog Ataliol. Esboniodd swyddogion y byddai'n cael ei
adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac y byddant yn ceisio cyllid ychwanegol i
barhau â'r gwaith. ·
Gofynnwyd pam y mae'r ffordd y
cafodd data ei gofnodi wedi newid.
Esboniodd y swyddog bod y rhain yn ddangosyddion y mae Llywodraeth
Cymru’n gofyn am wybodaeth amdanynt. Mae
gan Gastell-nedd Port Talbot ei ddata ei hun y mae swyddogion yn ei fonitro. ·
Yn dilyn hyn, gofynnwyd a oedd
unrhyw ddata ar gael ar nifer yr asesiadau gofalwyr y gofynnir amdanynt. Bydd y swyddogion yn ymchwilio ac yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. Strategaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot Cafodd yr aelodau drosolwg o Strategaeth Gofalwyr
Castell-nedd Port Talbot fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Roedd y pwyllgor yn falch bod fersiwn hawdd ei
ddarllen wedi'i chynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod heddiw ond gofynnodd
i fersiwn Saesneg syml gael ei chynhyrchu yn y dyfodol. Roedd geiriau o hyd yn y fersiwn hawdd ei
ddarllen yr oedd angen eu hesbonio ymhellach. Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â'r hyn a olygir
gan y datganiad "Identify young people who need a transition assessment
but are not receiving children’s services". Esboniodd swyddogion, pan fydd person ifanc
yn dod yn oedolyn, fod angen asesiad gwahanol yn ystod y cyfnod pontio. Cafwyd trafodaeth ar yr hyn y gellid ei wneud i
nodi mwy o ofalwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan y nodir yn yr adroddiad
mai dim ond 441 o'r 20,000 oedd wedi'u nodi.
Esboniodd swyddogion fod amrywiaeth o resymau pam roedd y ffigur hwn yn
isel. Nid yw nifer sylweddol o ofalwyr
am i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ymwneud â nhw.
Nid yw rhai yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael nac yn ei ddeall. Gwnaed llawer o waith i gynyddu ymwybyddiaeth
a byddai hyn yn parhau fel un o flaenoriaethau'r gwasanaeth ond nododd yr
aelodau nad oedd unrhyw gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Esboniodd swyddogion hefyd y gwnaed llawer o waith gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid ac ysgolion i nodi gofalwyr ifanc nad ydynt yn nodi'u hunain. Gofynnwyd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Blaenraglen Waith 2019/2 PDF 84 KB Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith ar gyfer 2019/2020. |
|||
Eitemau brys (Unrhyw eitemau brys (boed yn
gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn
unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Gyda chaniatâd y Cadeirydd, codwyd y mater canlynol
fel eitem frys i'w thrafod yn ystod cyfarfod heddiw yn unol ag Adran 100A(4) a
(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. Y diweddaraf am Coronafeirws Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai
ddiweddariad llafar i'r aelodau ar y sefyllfa bresennol a pha fesurau oedd eu
hangen i alluogi darpariaeth gwasanaethau yn ystod yr argyfwng hwn. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu
a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a
(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12a y Ddeddf uchod Cofnodion:
|
|||
Adroddiad Sefyllfa Taliadau Uniongyrchol (Yn eithriedig dan Baragraff 14) Cofnodion: Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r Sefyllfa
Taliadau Uniongyrchol fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn breifat. Cafodd yr aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y
Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol. Roedd yn cynnwys y broses o wneud cais am
Daliadau Uniongyrchol, monitro'r broses a data, monitro perfformiad a'r gwersi
a ddysgwyd ac astudiaethau achos. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |