Dewis eitemau priodol o
Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol
ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Gwasanaethau
Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion – Adroddiad Perfformiad y 3ydd
Chwarter (Ebrill 2019 – Rhagfyr 2019)
Cafodd y pwyllgor drosolwg o Berfformiad y
Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r Gwasanaethau i Oedolion – y 3ydd Chwarter
(Ebrill – Rhagfyr 2019) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Codwyd y materion canlynol gan yr aelodau:
·
Pa gynnydd y mae Opsiynau Tai neu'r
Swyddog Ataliol wedi'i wneud gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
(LCC). Mae'r data'n nodi mewn 140 o
achosion na rwystrwyd pobl rhag dod yn ddigartref. Dywedodd swyddogion eu bod yn cysylltu â
landlordiaid cymdeithasol a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda
Tai Tarian a Pobl ond y broblem oedd bod diffyg darpariaeth llety 1 ystafell
wely. Nododd yr aelodau fod cyllid ar
gael am flwyddyn yn unig ar gyfer y Swyddog Ataliol. Esboniodd swyddogion y byddai'n cael ei
adolygu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac y byddant yn ceisio cyllid ychwanegol i
barhau â'r gwaith.
·
Gofynnwyd pam y mae'r ffordd y
cafodd data ei gofnodi wedi newid.
Esboniodd y swyddog bod y rhain yn ddangosyddion y mae Llywodraeth
Cymru’n gofyn am wybodaeth amdanynt. Mae
gan Gastell-nedd Port Talbot ei ddata ei hun y mae swyddogion yn ei fonitro.
·
Yn dilyn hyn, gofynnwyd a oedd
unrhyw ddata ar gael ar nifer yr asesiadau gofalwyr y gofynnir amdanynt. Bydd y swyddogion yn ymchwilio ac yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.
Strategaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot
Cafodd yr aelodau drosolwg o Strategaeth Gofalwyr
Castell-nedd Port Talbot fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd y pwyllgor yn falch bod fersiwn hawdd ei
ddarllen wedi'i chynnwys yn y papurau ar gyfer y cyfarfod heddiw ond gofynnodd
i fersiwn Saesneg syml gael ei chynhyrchu yn y dyfodol. Roedd geiriau o hyd yn y fersiwn hawdd ei
ddarllen yr oedd angen eu hesbonio ymhellach.
Gofynnwyd am eglurder ynglŷn â'r hyn a olygir
gan y datganiad "Identify young people who need a transition assessment
but are not receiving children’s services". Esboniodd swyddogion, pan fydd person ifanc
yn dod yn oedolyn, fod angen asesiad gwahanol yn ystod y cyfnod pontio.
Cafwyd trafodaeth ar yr hyn y gellid ei wneud i
nodi mwy o ofalwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan y nodir yn yr adroddiad
mai dim ond 441 o'r 20,000 oedd wedi'u nodi.
Esboniodd swyddogion fod amrywiaeth o resymau pam roedd y ffigur hwn yn
isel. Nid yw nifer sylweddol o ofalwyr
am i'r Gwasanaethau Cymdeithasol ymwneud â nhw.
Nid yw rhai yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael nac yn ei ddeall. Gwnaed llawer o waith i gynyddu ymwybyddiaeth
a byddai hyn yn parhau fel un o flaenoriaethau'r gwasanaeth ond nododd yr
aelodau nad oedd unrhyw gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn.
Esboniodd swyddogion hefyd y gwnaed llawer o waith
gyda'r Gwasanaeth Ieuenctid ac ysgolion i nodi gofalwyr ifanc nad ydynt yn
nodi'u hunain. Gofynnwyd i aelodau a
oedd yn gweithredu fel llywodraethwyr ysgol mewn cyfarfodydd llywodraethwyr
ysgol ganolbwyntio ar y mater hwn a nodi faint o ofalwyr sy'n blant sydd yn eu
hysgolion.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Diweddariad Blynyddol ar y Cynllun Comisiynu Lleol
Cefnogi Pobl
Derbyniwyd trosolwg o Gynllun Comisiynu Lleol
Cefnogi Pobl 2017/20 fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Mynegodd yr aelodau bryder oherwydd er nad oedd y
Grant Cefnogi Tai wedi gostwng, nid oedd wedi newid dros y 4 blynedd diwethaf
ac arweiniodd hynny at ostyngiad wrth ystyried chwyddiant. Ar hyn o bryd, roedd Llywodraeth Cymru’n
edrych ar y meini prawf sy'n ymwneud â'r Grant Cefnogi Tai a allai effeithio ar
CBSCNPT. Cafwyd trafodaeth ynghylch y
ffaith bod angen rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn.
Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch pa gymorth oedd
ar gael i helpu defnyddwyr gwasanaeth i gael Credyd Cynhwysol. Yn ogystal,
roedd y ffurflen gais bellach ar-lein, a oedd yn ei gwneud yn anos i rai ei
chwblhau. Esboniodd swyddogion fod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio
gyda'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol i helpu i ddarparu cymorth i bobl y mae ei
angen arnynt.
Gofynnodd yr aelodau beth oedd ar waith i gefnogi
pobl â phroblemau iechyd meddwl os nad oedd cwnsela ar gael. Roedd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion yn
trafod hyn gyda'r Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd.
Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.
Polisi Gwahanu Hillside
Cafodd y pwyllgor drosolwg o Bolisi Gwahanu
Hillside fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Llongyfarchodd yr aelodau'r swyddogion ar bolisi
rhagorol ac ystyriol.
Yn ogystal, roedd yr aelodau'n falch o sefydlu'r
Bwrdd Diogelu.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.