Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad diweddaru
i'r aelodau ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi Map Rhwydwaith Teithio
Llesol y Cyngor ar waith a'i adolygu. Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r llwybrau teithio llesol. Dywedwyd bod ymgynghoriad wedi'i gynnal ym mis
Ionawr 2021 a gafodd ymateb gwych gan y cyhoedd, gyda thros 1,040 o bobl yn
cyfrannu. Fodd bynnag, roedd rhai ardaloedd nad oeddent yn cymryd rhan, yn
enwedig yr ardaloedd gwledig, Croeserw a Chwm Afan Uchaf; Roedd swyddogion wedi
siarad â'r Cynghorwyr lleol yn yr ardaloedd hynny i geisio hyrwyddo a chynyddu
ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad gan ei bod yn bwysig cael adborth gan y
cymunedau i sicrhau y gellid nodi materion penodol. Ychwanegwyd y bydd yr
ymateb i'r ymgynghoriad cam cyntaf yn bwydo i mewn i'r ail gam, sef
ymgynghoriad ffurfiol a fydd yn cael ei gynnal am 12 wythnos rhwng mis
Gorffennaf 2021 a mis Hydref 2021. Soniodd swyddogion pe bai angen am newid yn
cael ei nodi o'r ymgynghoriadau, y byddent bob amser yn ymchwilio iddo. Hysbyswyd yr aelodau fod
swyddogion wedi bod yn defnyddio offeryn ymgysylltu Llywodraeth Cymru sef
'Commonplace' i fapio lleoliadau materion a beth oedd y materion hynny. Nodwyd
bod yr offeryn yn galluogi swyddogion i adolygu'r materion a nodi a oeddent yn
hawdd eu datrys; byddai'r rhain wedyn yn cael eu trosglwyddo i'r adrannau
perthnasol yn y gwasanaeth a byddai'r ymateb yn cael ei gydlynu â theithio
llesol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
swyddogion wrthi'n edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyntaf ac yn gweithio
gyda Sustrans i fapio llwybrau newydd; nodwyd y llwybrau newydd o'r
ymgynghoriad gan fod rhai o'r cyhoedd wedi nodi bylchau yn y system, ac roedd
swyddogion wedi ystyried hynny ac wedi dechrau mapio lle'r oedd y bylchau
hynny. Hysbyswyd y pwyllgor fod y canllawiau newydd hefyd yn cael eu hystyried
ac y byddent yn hanfodol yn y gwaith yn y dyfodol. Ychwanegodd swyddogion eu bod
wedi defnyddio radio, cyfryngau cymdeithasol a’r South Wales Evening Post i
hyrwyddo'r ymgynghoriadau, ond roedd angen gwneud rhagor o waith ynghylch hyn
i'w hyrwyddo ymhellach; roedd ffeithluniau'n cael eu defnyddio i ddangos yr
ardaloedd nad oeddent yn darparu ymateb er mwyn ceisio cael y cymunedau hynny i
gymryd rhan. Mewn rhai rhannau o'r
Fwrdeistref Sirol, nodwyd bod problemau gyda rhwystrau ac roedd yn flaenoriaeth
i swyddogion geisio dileu'r rhwystrau hynny sy'n atal pobl, yn enwedig y rheini
ag anableddau, rhag cael mynediad i'r llwybrau; yn y flwyddyn ariannol hon
roedd y tîm yn mynd i edrych ar elfennau fel symud, amnewid mynediad, mesurau
rheoli a seddi. Pwysleisiodd yr aelodau’r
angen i ystyried gweledigaeth tymor hwy teithio llesol, y gallai fod angen
iddynt gynnwys llwybrau hirach a mwy a'r rheini a ddefnyddir at ddibenion
hamdden. Gofynnwyd a oedd gan y cyngor y gallu i gyflawni'r holl waith a gynhwyswyd yn y canllawiau a’r mapiau newydd a gyhoeddwyd, ac a oedd cynlluniau i adeiladu'r tîm gan ragweld hyn. Hysbyswyd yr aelodau fod y swyddogaeth teithio llesol o fewn yr awdurdod wedi'i rhannu rhwng y swyddogion sy'n gyfrifol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Archwiliad gan Swyddfa
Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Llesiant Hysbyswyd yr aelodau o
ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gyhoeddi ym mis Awst 2020; Gofynnodd
yr aelodau pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i’w gyflwyno i'r pwyllgor.
Esboniodd swyddogion, er i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddyddiad penodol, ei
bod yn cymryd amser i gwblhau'r adroddiadau. O ran ymgysylltu ag
ymgynghori, nodwyd bod hyn wedi bod yn broblem erioed; yn anffodus, roedd yr
amseroedd a roddwyd i swyddogion rhwng yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi a phan
oedd angen i'r cyflwyniadau gael eu cyflwyno, yn eithriadol o fyr. Ychwanegwyd,
hyd yn oed pe bai digon o adnoddau o fewn y tîm, na fyddai'n bosibl ymgynghori
oherwydd yr amserlenni tynn. Hysbyswyd yr aelodau fod Bwrdd
Strategaeth Lleol ar gyfer Adfywio Economaidd a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
lle mae swyddogion yn gweithio i geisio derbyn cynifer o ymgynghoriadau ag y
gallant; roedd cynrychiolaeth aelodau lleol yn bwysig iawn i greu cysylltiadau
rhwng y cyngor a'r cymunedau. Gofynnwyd i swyddogion a oedd
yr argymhellion yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u cwblhau.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr holl argymhellion ar wahanol gamau; roedd
adnoddau staff wedi effeithio ar gwblhau rhywfaint o'r gwaith hwn oherwydd ail-leoli
staff dros dro a staff a oedd wedi gadael nad oedd eraill wedi’u penodi yn eu
lle. Cafwyd trafodaeth mewn
perthynas â rhanddeiliaid a phwysigrwydd cael cyswllt â rhanddeiliaid mewnol ac
allanol. Soniodd swyddogion y gallai'r cyngor wneud mwy gyda'r rhanddeiliaid,
ond yn aml mae amserlenni a nifer y staff sydd ar gael yn effeithio ar y gallu
i wneud hyn. Ychwanegwyd y bydd swyddogion yn nodi bylchau yn dilyn
ymgynghoriadau anffurfiol a ffurfiol. Gofynnodd yr aelodau a oedd
gwybodaeth gymharol ar gael am adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar draws yr
Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr wybodaeth
hon ar gael; fodd bynnag, roedd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn uchel ei
barch ac roedd ganddo nifer o gynlluniau a ystyriwyd yn rhai arloesol ac a fydd
yn cael effaith sylweddol o fewn y gymuned. Gofynnwyd a oedd unrhyw gosbau
ar gyfer amserlenni wrth gwblhau'r argymhellion ac os oedd yn rhaid i'r cyngor
gydymffurfio â'r holl argymhellion a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Cadarnhawyd nad oedd unrhyw gosbau, fodd bynnag pe bai Swyddfa Archwilio Cymru
yn teimlo nad oedd y cyngor yn perfformio'n ddigon da yna gallai effeithio ar y
gallu i gael gafael ar arian grant. Ystyriodd swyddogion yr holl bwyntiau a
godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac roeddent yn fwy na pharod i gydymffurfio
a mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn; Roedd yn rhaid i swyddogion weithio gyda'r
adnoddau dan sylw, felly gellid gwneud llawer mwy pe bai'r adnoddau ar gael. Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy yn derbyn adroddiad diweddaru mewn perthynas ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|
Blaenraglen Waith 2021-22 PDF 70 KB Cofnodion: Nododd y pwyllgor y Blaenraglen Waith ar gyfer
2021/22 a nododd swyddogion y pwyntiau a godwyd gan yr aelodau yn ystod y
broses graffu cyn penderfynu ar eitem Bwrdd y Cabinet 'Archwiliad gan Swyddfa
Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Llesiant'. |