Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Archwiliad gan Swyddfa Archwilio Cymru i Wasanaeth Adfywio'r cyngor fel rhan o'i Amcanion Llesiant

Hysbyswyd yr aelodau o ganfyddiadau ac argymhellion adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i gyhoeddi ym mis Awst 2020; Gofynnodd yr aelodau pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i’w gyflwyno i'r pwyllgor. Esboniodd swyddogion, er i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ar ddyddiad penodol, ei bod yn cymryd amser i gwblhau'r adroddiadau.

O ran ymgysylltu ag ymgynghori, nodwyd bod hyn wedi bod yn broblem erioed; yn anffodus, roedd yr amseroedd a roddwyd i swyddogion rhwng yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi a phan oedd angen i'r cyflwyniadau gael eu cyflwyno, yn eithriadol o fyr. Ychwanegwyd, hyd yn oed pe bai digon o adnoddau o fewn y tîm, na fyddai'n bosibl ymgynghori oherwydd yr amserlenni tynn.

Hysbyswyd yr aelodau fod Bwrdd Strategaeth Lleol ar gyfer Adfywio Economaidd a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus lle mae swyddogion yn gweithio i geisio derbyn cynifer o ymgynghoriadau ag y gallant; roedd cynrychiolaeth aelodau lleol yn bwysig iawn i greu cysylltiadau rhwng y cyngor a'r cymunedau.

Gofynnwyd i swyddogion a oedd yr argymhellion yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u cwblhau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr holl argymhellion ar wahanol gamau; roedd adnoddau staff wedi effeithio ar gwblhau rhywfaint o'r gwaith hwn oherwydd ail-leoli staff dros dro a staff a oedd wedi gadael nad oedd eraill wedi’u penodi yn eu lle.

Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â rhanddeiliaid a phwysigrwydd cael cyswllt â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Soniodd swyddogion y gallai'r cyngor wneud mwy gyda'r rhanddeiliaid, ond yn aml mae amserlenni a nifer y staff sydd ar gael yn effeithio ar y gallu i wneud hyn. Ychwanegwyd y bydd swyddogion yn nodi bylchau yn dilyn ymgynghoriadau anffurfiol a ffurfiol.

Gofynnodd yr aelodau a oedd gwybodaeth gymharol ar gael am adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar draws yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd yr wybodaeth hon ar gael; fodd bynnag, roedd cyngor Castell-nedd Port Talbot yn uchel ei barch ac roedd ganddo nifer o gynlluniau a ystyriwyd yn rhai arloesol ac a fydd yn cael effaith sylweddol o fewn y gymuned.

Gofynnwyd a oedd unrhyw gosbau ar gyfer amserlenni wrth gwblhau'r argymhellion ac os oedd yn rhaid i'r cyngor gydymffurfio â'r holl argymhellion a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw gosbau, fodd bynnag pe bai Swyddfa Archwilio Cymru yn teimlo nad oedd y cyngor yn perfformio'n ddigon da yna gallai effeithio ar y gallu i gael gafael ar arian grant. Ystyriodd swyddogion yr holl bwyntiau a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac roeddent yn fwy na pharod i gydymffurfio a mynd i'r afael â'r pwyntiau hyn; Roedd yn rhaid i swyddogion weithio gyda'r adnoddau dan sylw, felly gellid gwneud llawer mwy pe bai'r adnoddau ar gael.

Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy yn derbyn adroddiad diweddaru mewn perthynas ag argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a gynhwyswyd yn atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd: Darparu Rhaglenni Adfywio Strategol – Archwiliad Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllun Gweithredu Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

Gofynnodd yr aelodau hefyd i adroddiad mewn perthynas ag un o'r argymhellion yn yr adroddiad gael ei ychwanegu at y Blaenraglen Waith: Strategaeth gyfathrebu fewnol ac allanol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Ar ôl craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.