Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad diweddaru
i'r aelodau ar y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rhoi Map Rhwydwaith Teithio
Llesol y Cyngor ar waith a'i adolygu.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r llwybrau teithio llesol. Dywedwyd bod ymgynghoriad wedi'i gynnal ym mis
Ionawr 2021 a gafodd ymateb gwych gan y cyhoedd, gyda thros 1,040 o bobl yn
cyfrannu. Fodd bynnag, roedd rhai ardaloedd nad oeddent yn cymryd rhan, yn
enwedig yr ardaloedd gwledig, Croeserw a Chwm Afan Uchaf; Roedd swyddogion wedi
siarad â'r Cynghorwyr lleol yn yr ardaloedd hynny i geisio hyrwyddo a chynyddu
ymwybyddiaeth o'r ymgynghoriad gan ei bod yn bwysig cael adborth gan y
cymunedau i sicrhau y gellid nodi materion penodol. Ychwanegwyd y bydd yr
ymateb i'r ymgynghoriad cam cyntaf yn bwydo i mewn i'r ail gam, sef
ymgynghoriad ffurfiol a fydd yn cael ei gynnal am 12 wythnos rhwng mis
Gorffennaf 2021 a mis Hydref 2021. Soniodd swyddogion pe bai angen am newid yn
cael ei nodi o'r ymgynghoriadau, y byddent bob amser yn ymchwilio iddo.
Hysbyswyd yr aelodau fod
swyddogion wedi bod yn defnyddio offeryn ymgysylltu Llywodraeth Cymru sef
'Commonplace' i fapio lleoliadau materion a beth oedd y materion hynny. Nodwyd
bod yr offeryn yn galluogi swyddogion i adolygu'r materion a nodi a oeddent yn
hawdd eu datrys; byddai'r rhain wedyn yn cael eu trosglwyddo i'r adrannau
perthnasol yn y gwasanaeth a byddai'r ymateb yn cael ei gydlynu â theithio
llesol.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
swyddogion wrthi'n edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad cyntaf ac yn gweithio
gyda Sustrans i fapio llwybrau newydd; nodwyd y llwybrau newydd o'r
ymgynghoriad gan fod rhai o'r cyhoedd wedi nodi bylchau yn y system, ac roedd
swyddogion wedi ystyried hynny ac wedi dechrau mapio lle'r oedd y bylchau
hynny. Hysbyswyd y pwyllgor fod y canllawiau newydd hefyd yn cael eu hystyried
ac y byddent yn hanfodol yn y gwaith yn y dyfodol.
Ychwanegodd swyddogion eu bod
wedi defnyddio radio, cyfryngau cymdeithasol a’r South Wales Evening Post i
hyrwyddo'r ymgynghoriadau, ond roedd angen gwneud rhagor o waith ynghylch hyn
i'w hyrwyddo ymhellach; roedd ffeithluniau'n cael eu defnyddio i ddangos yr
ardaloedd nad oeddent yn darparu ymateb er mwyn ceisio cael y cymunedau hynny i
gymryd rhan.
Mewn rhai rhannau o'r
Fwrdeistref Sirol, nodwyd bod problemau gyda rhwystrau ac roedd yn flaenoriaeth
i swyddogion geisio dileu'r rhwystrau hynny sy'n atal pobl, yn enwedig y rheini
ag anableddau, rhag cael mynediad i'r llwybrau; yn y flwyddyn ariannol hon
roedd y tîm yn mynd i edrych ar elfennau fel symud, amnewid mynediad, mesurau
rheoli a seddi.
Pwysleisiodd yr aelodau’r
angen i ystyried gweledigaeth tymor hwy teithio llesol, y gallai fod angen
iddynt gynnwys llwybrau hirach a mwy a'r rheini a ddefnyddir at ddibenion
hamdden.
Gofynnwyd a oedd gan y cyngor
y gallu i gyflawni'r holl waith a gynhwyswyd yn y canllawiau a’r mapiau newydd
a gyhoeddwyd, ac a oedd cynlluniau i adeiladu'r tîm gan ragweld hyn. Hysbyswyd
yr aelodau fod y swyddogaeth teithio llesol o fewn yr awdurdod wedi'i rhannu
rhwng y swyddogion sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r map rhwydwaith teithio llesol a
swyddogion sy'n gyfrifol am wneud cais am y cyllid a gweithio gyda pheirianwyr
i gynllunio'r llwybrau a'u rhoi ar waith; roedd cyllid gwahanol ar gael ar
gyfer teithio llesol, a allai ariannu staff ychwanegol pe bai angen.
Ychwanegwyd bod y cyngor wedi derbyn rhywfaint o arian o'r cyllid teithio
llesol i gomisiynu ymgynghorwyr (Sustrans).
Gofynnodd yr aelodau am yr
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr amserlenni ymgynghori gan ei bod yn ymddangos
eu bod wedi newid. Esboniwyd bod tri ymgynghoriad wedi'u trefnu'n wreiddiol,
ond roedd nifer yr ymatebion a gafwyd o'r ymgynghoriad cyntaf yn fwy na'r
disgwyl, a arweiniodd at gynnal ymarfer mapio dwys a gymerodd lawer iawn o
amser; arweiniodd hyn at beidio â gallu cynnal yr ail ymgynghoriad, ac yn
hytrach bydd swyddogion yn awr yn symud yn syth ymlaen at yr ymgynghoriad
ffurfiol. Ychwanegwyd bod swyddogion wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am hyn
a'i bod yn deall; fodd bynnag, tynnodd sylw at yr angen am adnoddau ychwanegol.
Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn cyflwyno adroddiad i Fwrdd Adfywio a
Datblygu Cynaliadwy'r Cabinet ym mis Mehefin 2021, a fydd yn cynnwys yr
ymatebion o'r ymgynghoriad cyntaf a'r mapiau diwygiedig.
Gofynnwyd i swyddogion a
ystyriwyd cadw offeryn fel Commonplace yn barhaus er mwyn dali fyny â'r swyddi
llai y mae angen eu cyflawni'n fwy rheolaidd, neu a roddwyd unrhyw ystyriaeth i
sut mae'r cyngor yn derbyn adborth gan y cyhoedd ar faterion priffyrdd. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod yr offeryn Amcan yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn
gwasanaethau megis Polisi Cynllunio; roedd swyddogaeth o fewn yr offeryn hwn
lle gallai'r cyngor ymgysylltu'n rhyngweithiol â'r cyhoedd. Hysbyswyd yr
aelodau fod swyddogion wrthi'n edrych ar yr elfen fapio a sut y gellid
defnyddio offer i ymgysylltu drwy fapiau. Nodwyd bod swyddogion, yn
gorfforaethol, yn ystyried defnyddio Commonplace gan fod Llywodraeth Cymru'n
hyrwyddo'r offeryn hwn a bod y cyfleuster ynddo yn dda iawn.
Codwyd pryderon ynglŷn
â'r rheini a oedd yn ddisymud oherwydd materion hygyrchedd. Wrth edrych ar
fanylion yr ymatebion i'r ymgynghoriad, dywedwyd nad oedd nifer mawr o bobl
hŷn a phobl iau wedi ymateb. Soniodd swyddogion y byddai angen iddynt
ailfeddwl sut i ymgysylltu â'r grwpiau hyn o bobl i gael eu barn a deall y
broblemau yr oeddent yn eu cael. O ran pobl iau, nodwyd nad oedd staff wedi
gallu ymgysylltu drwy ysgolion, a allai fod yn ffactor a gyfrannodd at y nifer
isel o ymatebion. Ychwanegwyd bod cyfran fawr o'r boblogaeth yn y Fwrdeistref
Sirol yn cael eu hystyried yn bobl hŷn, felly roedd yn bwysig bod eu barn
yn cael ei hymgorffori yn y cynlluniau ar sut y gallai teithio llesol fod yn
fwy hygyrch; gallai defnyddio beiciau trydan a sgwteri fod yn ddefnyddiol ar gyfer
hyn. Soniodd swyddogion y bydd yn hanfodol archwilio arwynebau'r llwybrau er
mwyn sicrhau eu bod yn llyfn, yn wastad ac yn hygyrch i bawb; roedd y
canllawiau diwygiedig yn llawer llymach ar sut y sgoriwyd y llwybrau, felly
bydd angen edrych ar lawer o'r llwybrau.
Trafododd y pwyllgor yr angen
am rwydwaith cysylltiedig rhwng gwasanaethau bysus a theithio llesol, a
chydweithio â'r adrannau perthnasol o fewn y cyngor gan fod nifer o fanteision
i hyn. Eglurodd y Rheolwr Trafnidiaeth Integredig fod Trafnidiaeth Cymru eisoes
yn edrych ar hyn ac wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynorthwyo; roeddent yn
edrych ar drafnidiaeth ymatebol integredig lle bydd cynlluniau ceir cludiant
cymunedol ar gael i helpu pobl i gyrraedd y prif lwybrau bysus a llenwi'r
bylchau a oedd yn ymddangos yn y rhwydwaith trafnidiaeth. Dylai'r trafodaethau
a'r dadansoddiad a oedd yn digwydd gysylltu â'r llwybrau teithio llesol.
Mewn perthynas ag awgrymiadau
ar gyfer llwybrau, dywedwyd bod Swyddogion wrthi'n adolygu ac yn asesu'r
cyflwyniadau niferus a gawsant fel rhan o'r ymgynghoriad cyntaf; bydd yr
adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Adfywio a Datblygu Cynaliadwy'r
Cabinet ym mis Mehefin 2021 yn manylu ar ba lwybrau a gynhwyswyd o hyn.
Gofynnwyd sut roedd
Castell-nedd Port Talbot o'i gymharu â'r Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru o
ran faint o arian a dderbyniwyd. Nododd swyddogion ei bod yn ddogfen a oedd ar
gael i'r cyhoedd o ran faint o gyllid Llywodraeth Cymru yr oedd yn cael ei
ddosbarthu i bob Awdurdod; cytunwyd y byddai swyddogion yn dod o hyd i'r
ddogfen hon ac yn ei dosbarthu i'r aelodau.
Gofynnodd yr aelodau ble y
gallent gael gafael ar y mapiau teithio llesol. Dywedodd swyddogion y byddant
yn ailddosbarthu'r ddolen Commonplace i'r aelodau fel eu bod yn gallu gweld y
mapiau wedi'u diweddaru.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r gofyniad dwysedd rhwydwaith newydd a gadarnhawyd gan Swyddogion
oedd 250 metr mewn ardaloedd trefol a 500 i 1,000 o fetrau ar gyrion ardaloedd
trefol; roedd y canllawiau'n awgrymu y byddai angen gweithio tuag at hyn erbyn
cyflwyno'r map am y trydydd tro, ac roedd swyddogion ar yr ail gyflwyniad ar
hyn o bryd.
Nodwyd bod llawer o
weithgareddau eraill y dylid eu hystyried wrth edrych ar hygyrchedd rhai
llwybrau, gan gynnwys sglefrfyrddio a sglefrolio; Dywedodd swyddogion y byddent
yn bwydo'r wybodaeth hon yn ôl i geisio sicrhau bod y llwybrau'n addas ar gyfer
y mathau hyn o weithgareddau yn ogystal â beicio a cherdded.
Gofynnodd yr aelodau a oedd
swyddogion wedi defnyddio unrhyw lwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, ar
wahân i Facebook, i ymgysylltu â phobl ifanc i gymryd rhan yn yr
ymgynghoriadau. Roedd y gwaith canlynol yn cael ei wneud ar hyn o bryd i geisio
cynyddu ymgysylltiad:
·
Nodi sut i ddefnyddio ystod o lwyfannau cyfryngau
cymdeithasol gan gynnwys TikTok, Instagram a Twitter; Roedd swyddogion wedi bod
yn gweithio gyda thîm y cyfryngau i drafod y dulliau gorau o ymgysylltu;
·
Roedd y Rheolwr Diogelwch Ffyrdd a Pherfformiad Busnes
a'r tîm wedi bod yn ystyried siarad ag ysgolion yn rhithwir i ymgysylltu; roedd
swyddogaethau gwahanol ar gael i wneud hyn, un enghraifft oedd Google
Classroom;
·
Ymchwilio i ddylanwadwyr lleol ar YouTube, megis
Cadeirydd Cyngor Ieuenctid CNPT, a allai helpu i hyrwyddo'r ymgynghoriad;
·
Defnyddio rhywfaint o'r arian teithio llesol a ddyrannwyd
i brynu deg Fitbit a fydd yn cael eu defnyddio fel gwobrau;
·
Ffilmio fideos o brofiadau pobl gan ddefnyddio gwahanol
lwybrau i gyhoeddi ar-lein;
·
Defnyddio camerâu ar Segway a dronau i gael ffilm fideo i
hysbysebu llwybrau.
O ran yr ymatebion i'r
ymgynghoriad, gofynnwyd a oedd cynlluniau i roi adborth i'r cyhoedd er mwyn
iddynt ganfod pa awgrymiadau a gynhwyswyd yn y cynlluniau ac iddynt ddeall y
rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaed. Esboniwyd y byddai'r ymatebion yn
cael eu coladu mewn taenlen ac roedd swyddogion yn gweithio gyda Sustrans i
gynhyrchu dull ar-lein i ganiatáu i'r cyhoedd sydd wedi cyflwyno ymateb chwilio am yr wybodaeth y mae ei hangen
arnynt. Nodwyd y bydd angen i hyn gynnwys yr awgrymiadau, yr ymateb gan y tîm a
sut y byddent yn ymdrin â'r awgrym penodol.
Gofynnwyd i swyddogion pa
brosesau a gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i bennu sut y clustnodwyd arian a pha
brosiectau fyddai'n cael eu cynnal. Fel rhan o'r canllawiau teithio llesol,
tynnwyd sylw at y ffaith bod angen blaenoriaethu prosiectau yn y tymor byr, y
tymor canolig a'r tymor hir; Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r peirianwyr a'r
Uwch-swyddogion i fynd drwy'r awgrymiadau a'u rhoi yn yr amserlen berthnasol.
Hysbyswyd yr aelodau fod y meini prawf yn ei gwneud yn ofynnol i swyddogion
nodi pa welliant fyddai ei angen a rhoi matrics blaenoriaethu Llywodraeth Cymru
ar waith, sef y modd y penderfynir ar yr amserlenni a lefel y flaenoriaeth. Yn
dilyn hyn, nodwyd bod angen i swyddogion wneud cais am y prosiectau fel rhan o
broses ariannu Llywodraeth Cymru.
O ystyried yr amddifadedd
uchel a'r problemau yn ardaloedd y cymoedd, gofynnwyd beth arall y gellid ei
wneud i geisio ystyried prosiectau yn yr ardaloedd hyn i helpu i ddatblygu a
hyrwyddo cysylltiadau cludiant addas. Tynnodd swyddogion sylw at bwysigrwydd
cael mewnbwn gan y rheini yng nghymunedau'r cymoedd drwy'r ymgynghoriad, fel y
gellid cynnwys eu pryderon ar y map a rhoi darlun cwbl gynhwysfawr.
Diolchodd y pwyllgor i'r holl
swyddogion yn y tîm am eu gwaith caled parhaus.
Dogfennau ategol: