Lleoliad: Remotely via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor o newid i'r adroddiad canlynol
ar Agenda Bwrdd y Cabinet: · Eitem 7 ar yr Agenda - Cynnig i ehangu’r gwasanaeth presennol a ddarperir
gan y Tîm Cyswllt Camddefnyddio Sylweddau Cychwynnol (PSALT) Yn dilyn y diweddariad, roedd yr Aelodau'n hapus
gyda'r newidiadau, felly dewiswyd peidio â chraffu ar yr adroddiad. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 116 KB ·
4 Rhagfyr 2020 ·
23 Rhagfyr 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol: · 4 Rhagfyr 2020 · 23 Rhagfyr 2020 |
|
Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Dwristiaeth PDF 115 KB Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau’r
wybodaeth ddiweddaraf am effaith COVID-19 ar y sector Twristiaeth yng
Nghastell-nedd Port Talbot a gweithgareddau Tîm Twristiaeth y Cyngor sydd ar
ddod. Tynnodd swyddogion sylw at yr
effaith negyddol sylweddol y cafodd cychwyniad y pandemig ar y sector
Twristiaeth; roedd yr adroddiad yn manylu ar ffigurau a ddangosodd ostyngiad yn
nifer yr ymwelwyr (63.5%) a gostyngiad yn yr economi (66.4%). Nodwyd nad oedd y
data'n cynrychioli 12 mis llawn 2020, a bydd cyfyngiadau symud pellach a
gyhoeddwyd tua diwedd y flwyddyn yn effeithio ymhellach ar y data hwn. Wrth symud ymlaen, nodwyd mai
un prif ffocws fyddai edrych ar sut y gellid helpu'r sector Twristiaeth er mwyn
iddo adfer o COVID-19; dros y 12 mis diwethaf roedd swyddogion wedi cadw mewn
cysylltiad â'r darparwyr twristiaeth. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Tîm
Twristiaeth wedi gweithio ochr yn ochr â'r Timau Busnes i gefnogi pob busnes ar
draws y sector i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl gymorth
ariannol a oedd ar gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac unrhyw
gymorth grant arall. Nodwyd bod y broses cymeradwyo llety gweithwyr allweddol
hefyd wedi'i rheoli gan y Tîm Twristiaeth, wrth weithio mewn partneriaeth â
Thîm Iechyd yr Amgylchedd, gan ei bod yn ofynnol i bob llety i ymwelwyr gau yn
unol â'r cyfyngiadau symud amrywiol; roedd y broses gymeradwyo'n caniatáu
mynediad i'r rheini yr oedd ganddynt reswm dilys dros fod yn yr ardal, y rheini
a oedd yn weithwyr allweddol a'r rheini yr oedd angen llety arnynt mewn
argyfwng. Soniwyd bod swyddogion, drwy
gydol y pandemig, wedi cydweithio llawer â phartneriaid yn y sector cyhoeddus,
yn enwedig gyda Croeso Cymru, a bod cyswllt wedi bod â sefydliadau gan gynnwys
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau bod ardaloedd, fel y sgydau, yn
cael eu rheoli yn y ffordd orau bosib; roedd y cyfarfodydd a'r cyfathrebiadau
hyn yn parhau. Darparodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf am rai o brosiectau cyfredol y sectorau Twristiaeth, a
oedd yn cynnwys: ·
Hwb Cwm Nedd ym Maes Parcio Camlas Resolfen - roedd y
gwaith i adnewyddu hen gyfleuster bloc toiledau yn Resolfen bellach wedi'i
gwblhau a byddai'r deiliad newydd yn symud yno cyn bo hir; ·
Parc Rhanbarthol y Cymoedd Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig
Afan – roedd y cyngor wedi derbyn cyllid i wneud amrywiaeth o waith gan gynnwys
uwchraddio rhai cyfleusterau presennol o amgylch y toiledau a'r cawodydd,
ychwanegu ardal barcio ychwanegol, darparu mannau cysylltu trydan ar gyfer
faniau gwersylla, creu pwynt gwybodaeth ddigidol i ymwelwyr, gosod goleuadau
ychwanegol ac adeiladu ardal chwarae i blant; ·
Prif Gynllun Parc y Gnoll – roedd y cynllun datblygu
wedi'i gwblhau, ac fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd bydd y Tîm
Twristiaeth nawr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mharc Gwledig y
Gnoll i gyflawni'r cynigion; ·
Marchnata Cyrchfannau – byddai'r ymgyrch hon, i lansio brand lle newydd
Castell-nedd Port Talbot, yn ddarn allweddol o waith. Soniwyd bod y dyddiad
lansio wedi'i ohirio oherwydd y pandemig; · Arall – roedd arwyddion wedi'u dosbarthu ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Ymgynghoriad ar Gynigion Cyllideb 2021/22 PDF 259 KB Cofnodion: Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllideb drafft Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio 2021/2022,
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd
unrhyw doriadau arfaethedig mewn cyllidebau ar gyfer yr adrannau Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio yn 2021/22. Nododd yr adroddiad fod pwysau
cyllidebol o £30k ar Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd; Rhoddodd swyddogion
fanylion am y pwysau penodol a oedd yn cynnwys: ·
Gwasanaeth Rheoli Nawdd Asedau – roedd y cynllun hwn wedi
bod ar waith ers peth amser ac wedi rhoi cyfle i gwmnïau lleol noddi asedau'r
cyngor a hyrwyddo’u busnesau. Rhagwelwyd yr effeithir yn sylweddol ar yr incwm
a gynhyrchir o'r gwasanaeth o ystyried effaith ariannol y pandemig ar fusnesau
a'u gallu i noddi asedau; roedd y pwysau o £15k a nodwyd ar gyfer 2021/22 yn
adlewyrchu'r bwlch disgwyliedig mewn cynhyrchu incwm islaw'r trothwy targed; ·
Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) –
roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu ymrwymiadau a blaenoriaethau ariannu,
ac o ganlyniad i hyn nid oedd y tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi cael
cadarnhad eto a oeddent wedi llwyddo o ran dyfarniad grant sylweddol sy'n
gysylltiedig â Phrosiect 'Cysylltu Isadeiledd Gwyrdd' De-orllewin Cymru. Cyfanswm y cais grant cychwynnol oedd cyllideb
o £2.42 miliwn dros 3 blynedd, ac roedd £981k ohono'n wariant uniongyrchol i'r
cyngor. Roedd llawer o'r prosiectau a gyflwynwyd a'r staff yn dibynnu ar gyllid
grant yn gyffredinol; roedd y pwysau o £15k a nodwyd yn 2021/22 yn adlewyrchu'r
costau staff sefydlog i'w hariannu drwy'r Grant ENRaW heb ei gadarnhau; ·
Cynllun Datblygu Lleol – ni nodwyd pwysau ar gyfer y
flwyddyn ariannol nesaf o ran y CDLl, yn bennaf oherwydd yr oedi wrth gychwyn
proses y CDLl yn ffurfiol, felly ar hyn o bryd roedd digon o arian yng nghronfa
wrth gefn y CDLl i dalu'r gwariant rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd
bynnag, nodwyd pwysau o £100k yn 2022/23, a oedd ar gyfer yr ymrwymiad parhaus
i dalu costau paratoi'r CDLl. Tynnwyd sylw at y risgiau
canlynol i'w cario ymlaen ar gyfer yr is-adran Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
(nid oedd y risgiau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y pwysau ar hyn o bryd): ·
Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD) a Gweithlu
Swyddogion Gorfodi COVID – y sefyllfa bresennol oedd bod y gweithlu POD wedi'i
ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021, a'i ariannu'n rhannol
ar gyfer chwarter cyntaf 2021/22. Nodwyd mai dim ond tan 31 Mawrth 2021 yr oedd
y Gweithlu Gorfodi COVID yn ei ariannu'n llawn; ariannwyd y gweithlu hwn ar hyn
o bryd drwy'r Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol, ac roedd swyddogion wedi derbyn
cadarnhad na fyddai'r ffrwd ariannu benodol hon yn cael ei hestyn i 2021/22.
Roedd swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau
eu disgwyliadau o'r Gwasanaeth POD a'r Gweithlu Gorfodi COVID wrth fynd ymlaen
i'r flwyddyn nesaf; · Ôl-groniad o waith 'Busnes fel Arfer' Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach – roedd swyddogion ar draws y gwasanaeth wedi'u ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |