Cofnodion:
Derbyniwyd trosolwg o gynigion
cyllideb drafft Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio 2021/2022,
fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd
unrhyw doriadau arfaethedig mewn cyllidebau ar gyfer yr adrannau Cynllunio a
Diogelu'r Cyhoedd ac Eiddo ac Adfywio yn 2021/22.
Nododd yr adroddiad fod pwysau
cyllidebol o £30k ar Gynllunio a Diogelu'r Cyhoedd; Rhoddodd swyddogion
fanylion am y pwysau penodol a oedd yn cynnwys:
·
Gwasanaeth Rheoli Nawdd Asedau – roedd y cynllun hwn wedi
bod ar waith ers peth amser ac wedi rhoi cyfle i gwmnïau lleol noddi asedau'r
cyngor a hyrwyddo’u busnesau. Rhagwelwyd yr effeithir yn sylweddol ar yr incwm
a gynhyrchir o'r gwasanaeth o ystyried effaith ariannol y pandemig ar fusnesau
a'u gallu i noddi asedau; roedd y pwysau o £15k a nodwyd ar gyfer 2021/22 yn
adlewyrchu'r bwlch disgwyliedig mewn cynhyrchu incwm islaw'r trothwy targed;
·
Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) –
roedd Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu ymrwymiadau a blaenoriaethau ariannu,
ac o ganlyniad i hyn nid oedd y tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi cael
cadarnhad eto a oeddent wedi llwyddo o ran dyfarniad grant sylweddol sy'n
gysylltiedig â Phrosiect 'Cysylltu Isadeiledd Gwyrdd' De-orllewin Cymru. Cyfanswm y cais grant cychwynnol oedd cyllideb
o £2.42 miliwn dros 3 blynedd, ac roedd £981k ohono'n wariant uniongyrchol i'r
cyngor. Roedd llawer o'r prosiectau a gyflwynwyd a'r staff yn dibynnu ar gyllid
grant yn gyffredinol; roedd y pwysau o £15k a nodwyd yn 2021/22 yn adlewyrchu'r
costau staff sefydlog i'w hariannu drwy'r Grant ENRaW heb ei gadarnhau;
·
Cynllun Datblygu Lleol – ni nodwyd pwysau ar gyfer y
flwyddyn ariannol nesaf o ran y CDLl, yn bennaf oherwydd yr oedi wrth gychwyn
proses y CDLl yn ffurfiol, felly ar hyn o bryd roedd digon o arian yng nghronfa
wrth gefn y CDLl i dalu'r gwariant rhagamcanol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fodd
bynnag, nodwyd pwysau o £100k yn 2022/23, a oedd ar gyfer yr ymrwymiad parhaus
i dalu costau paratoi'r CDLl.
Tynnwyd sylw at y risgiau
canlynol i'w cario ymlaen ar gyfer yr is-adran Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd
(nid oedd y risgiau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y pwysau ar hyn o bryd):
·
Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (POD) a Gweithlu
Swyddogion Gorfodi COVID – y sefyllfa bresennol oedd bod y gweithlu POD wedi'i
ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru tan 31 Mawrth 2021, a'i ariannu'n rhannol
ar gyfer chwarter cyntaf 2021/22. Nodwyd mai dim ond tan 31 Mawrth 2021 yr oedd
y Gweithlu Gorfodi COVID yn ei ariannu'n llawn; ariannwyd y gweithlu hwn ar hyn
o bryd drwy'r Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol, ac roedd swyddogion wedi derbyn
cadarnhad na fyddai'r ffrwd ariannu benodol hon yn cael ei hestyn i 2021/22.
Roedd swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau
eu disgwyliadau o'r Gwasanaeth POD a'r Gweithlu Gorfodi COVID wrth fynd ymlaen
i'r flwyddyn nesaf;
·
Ôl-groniad o waith 'Busnes fel Arfer' Iechyd yr
Amgylchedd a Safonau Masnach – roedd swyddogion ar draws y gwasanaeth wedi'u
hadleoli i'r rheng flaen fel rhan o ymateb ehangach y cyngor i'r pandemig; o
ganlyniad i hyn, roedd ôl-groniad o waith 'busnes fel arfer' erbyn hyn. Roedd
yr adroddiad a ddosbarthwyd yn rhoi enghreifftiau o'r meysydd lle'r oedd yr
ôl-groniad o waith wedi datblygu, ac roedd angen edrych ar sut mae'r cyngor yn
defnyddio adnoddau er mwyn mynd i'r afael â'r ôl-groniad.
O ran Eiddo ac Adfywio, nodwyd
bod pwysau cyllidebol o £549k wedi'i nodi a oedd yn rhoi lwfansau ar gyfer y
canlynol:
·
Mesurau Datgarboneiddio gan gynnwys staffio a chynnal a
chadw pwyntiau ailwefru ar gyfer cerbydau trydan – fel rhan o'r Strategaeth
Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE), bydd y cyngor yn edrych ar gynllun
sy'n symud y cyngor ymlaen i fod yn garbon niwtral; roedd nifer o bwyntiau
gwefru Cerbydau Trydanol (CT) wedi'u gosod i wasanaethu'r cerbydlu CT a oedd yn
cynyddu o ran maint. Roedd cynlluniau hefyd i gyflwyno pwyntiau gwefru CT i'r
gymuned at ddefnydd y cyhoedd; roedd darn o waith yn cael ei gwblhau lle byddai
Castell-nedd Port Talbot a gweddill De-orllewin Cymru yn gysylltiedig â
strategaeth newydd. Nodwyd pwysau o £50k yn 2021/22 a fyddai'n cynyddu i £100k
ar gyfer blynyddoedd ariannol y dyfodol i fynd i'r afael â'r ehangiad hwn a
chynnal yr isadeiledd CT;
·
Gostyngiad yn y gyllideb sy'n seiliedig ar incwm oherwydd
effeithiau parhaus COVID - roedd nifer o adeiladau a oedd yn eiddo i'r cyngor,
gan gynnwys unedau diwydiannol, adeiladau manwerthu a swyddfeydd, lle rhoddwyd
cyfnodau di-rent iddynt oherwydd effaith y pandemig i sicrhau y gallant barhau
i weithredu. Gwnaed darpariaeth o £250k yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 a £100k
ar gyfer 2022/23 a fyddai'n talu am y gostyngiad mewn incwm o ganlyniad i'r
cyfnodau di-rent a nifer y 'bylchau' rhent tebygol gan nad oedd busnesau'n
gallu parhau i weithredu ac roedd tenantiaid newydd yn anos dod o hyd iddynt;
·
Cynnydd mewn Ardrethi Annomestig (AA) Cenedlaethol
parthed Hen Adeilad y Goron – roedd y gwaith adnewyddu i'w orffen yn fuan a
disgwylid i’r broses drosglwyddo gael ei chwblhau yn ystod yr wythnosau nesaf;
cyn gynted ag y dychwelwyd yr adeilad, byddai'r cyngor wedyn yn atebol am AA.
Pennwyd darpariaeth o £79k yn y gyllideb a fyddai'n cwmpasu'r cyfnod interim;
·
Swyddogion Canol Tref Ychwanegol – ar hyn o bryd, roedd y
cyngor yn gweithredu ag un unigolyn a oedd yn gofalu am holl ganol trefi'r Sir;
nodwyd bod hyn yn her ac felly cynigiwyd penodi dau swyddog ychwanegol i roi
cymorth ychwanegol i wneud y gwaith, gan gynnwys mynd i'r afael â materion sy'n
codi yn ystod y dydd. Gan y byddai'n heriol o hyd i dri swyddog reoli pob canol
tref, byddent yn cysylltu'n agos ag ardaloedd eraill o'r cyngor megis gorfodi
traffig a gofal strydoedd, partneriaid fel yr Heddlu a busnesau yn yr ardaloedd
i ddarparu presenoldeb gweladwy yng nghanol y dref;
·
Staff ychwanegol ar gyfer Adfywio, Datblygu Economaidd a
Chymorth Busnes – roedd nifer y staff yn yr adrannau hyn wedi gostwng yn
sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac roedd swm a chymhlethdod y gwaith
wedi cynyddu; felly cynigiwyd darparu cymorth ychwanegol o ran staff i
gyflawni'r rhaglenni presennol (gan gynnwys y Fargen Ddinesig), i barhau i
wneud cais llwyddiannus am gyllid yn y dyfodol, ac i alluogi CNPT i geisio
arwain ar raglenni rhanbarthol.
Hysbyswyd y Pwyllgor am rai
o'r risgiau sydd i'w parhau ar gyfer yr is-adran Eiddo ac Adfywio:
·
Cymorth Busnes a Datblygu Economaidd – er y byddai'r
£100k ychwanegol a amlinellwyd yn yr adroddiad yn darparu staff ychwanegol yn y
gwasanaeth, roedd yn annhebygol y byddai'n ddigon i fynd i'r afael â'r heriau
cymhleth a gyflwynwyd ac wrth symud ymlaen â dilyniant, efallai y byddai angen
cymorth ychwanegol yn yr ardaloedd hynny;
·
Datgarboneiddio – pe bai'r cyngor yn cyrraedd y targed o
fod yn garbon niwtral erbyn 2030, byddai angen cymorth refeniw ychwanegol a
buddsoddiad cyfalaf mawr.
Mewn perthynas â'r mesurau
datgarboneiddio, gofynnodd yr Aelodau am wybodaeth ynghylch paratoi'r
strategaeth a chynllunio ar gyfer yr isadeiledd. Esboniodd swyddogion fod hwn
yn un o'r prosiectau o fewn rhaglen arloesedd twf carbon isel ategol y Fargen
Ddinesig, a oedd yn canolbwyntio ar arwain CT ar draws rhanbarth De-orllewin
Cymru; sefydlwyd grŵp strategaeth CT ar gyfer y rhanbarth, ac roedd
swyddogion wedi cysylltu'n ddiweddar â'r grŵp hwn i helpu i gyflawni'r
prosiect. Soniwyd bod swyddogion hefyd wedi bod yn cyfathrebu â chwmni a oedd
wedi gwneud gwaith ar hyn yn Dundee, yr oedd ganddi un o'r isadeileddau gorau
yn y DU. Hysbyswyd yr Aelodau fod llawer o waith i'w wneud o hyd, ond roedd
cynnydd da yn cael ei wneud; byddai'r cyngor yn gweithio ar ei strategaeth ei
hun, yn ogystal â'i chysylltu â'r strategaeth ranbarthol. O ran amserlenni,
nodwyd y byddai'r strategaeth CT ranbarthol yn cael ei chyflwyno am benderfyniad
maes o law, ac os caiff ei derbyn, byddai'r penderfyniad hwnnw'n darparu'r
cyllid ar gyfer y rhanbarth; bydd canlyniad hyn wedyn yn pennu cynllun a
strategaeth y cyngor i sicrhau nad yw'n gwrthdaro â'r rhanbarthau. Dywedwyd y
byddai'n cymryd tua 6 mis i symud y prosiect hwn yn ei flaen i sefyllfa
resymol; yn y cyfamser, roedd y cyngor yn gwneud cynnydd, er enghraifft nodi
lle gellid gosod y pwyntiau gwefru CT.
Gofynnwyd i swyddogion a oedd
cerbydlu'r cyngor wedi'i ehangu, a chadarnhawyd bod nifer y cerbydau yn y
cerbydlu wedi cynyddu; roeddent yn gweithio'n dda ac roedd y staff yn hapus i'w
gyrru. Ychwanegwyd y byddai nifer y faniau yn y cerbydlu'n cael ei gynyddu ac y
byddant yn cael eu cyflwyno'n fuan o fewn y misoedd nesaf;
Roedd swyddogion yn y broses o roi'r
isadeiledd ar waith er mwyn ehangu'r cerbydlu ymhellach, gan fod angen digon o
bwyntiau gwefru i wneud hyn.
Gofynnwyd a fyddai swyddogion
canol y dref, fel rhan o'u rôl, yn ceisio gwella agweddau diwylliannol canol
trefi. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai eu rôl yn canolbwyntio ar reoli
beunyddiol; fodd bynnag, pe bai mwy o staff yn cael ei nodi dros gyfnod o
amser, yna gellid ychwanegu tasgau ychwanegol at y rôl lle y bo'n briodol.
Dywedwyd y byddai'r swyddogion yn cynorthwyo gyda gwyliau a digwyddiadau pan
oeddent yn cael eu cynnal eto; gellid ehangu eu rôl yn hyn o beth yn y dyfodol.
Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod cynnal digwyddiadau yng nghanol trefi
yn anodd oherwydd yr angen i ddod â generaduron i mewn, felly roedd mannau
trydanol dros dro wedi'u cyflwyno yng Nghastell-nedd, Port Talbot, Pontardawe a
Glyn-nedd er mwyn i ddigwyddiadau ddigwydd yn hawdd, yn enwedig digwyddiadau
llai.
Eglurodd swyddogion fod y term
'CDLl newydd', a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei
ddefnyddio yn y cyd-destun y bydd y CDLl presennol yn parhau hyd nes y
mabwysiadwyd y CDLl newydd. Ychwanegwyd y byddai swyddogion yn edrych ar
berfformiad cyffredinol y CDLl gan fod rhai meysydd lle nad oedd y polisïau'n
perfformio fel y rhagwelwyd - y meysydd polisi hyn fyddai ffocws y broses
adolygu; bydd rhannau o'r CDLl hefyd sy'n perfformio'n ddigonol ac yn ddigon
da.
Cafwyd trafodaeth bellach mewn
perthynas â grant ENRaW, nad oedd swyddogion, fel y soniwyd eisoes, wedi cael
cadarnhad ynghylch a oedd y Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt wedi llwyddo i gael y
grant hwnnw. Hysbyswyd yr Aelodau fod y grant penodol hwn ac eraill yn cael eu
hystyried gan Banel Buddsoddi Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos yn dechrau
22 Chwefror 2021, felly dylai swyddogion gael gwell syniad o safbwynt y cyngor
erbyn hynny. Nodwyd bod y grant cychwynnol wedi'i gyflwyno am £2.4 miliwn dros
3 blynedd, fodd bynnag fyddai bellach yn dod yn wariant dwy flynedd mewn
gwirionedd gan na fyddai'r grant hwn yn mynd y tu hwnt i ddiwedd blwyddyn
ariannol 2022/23; o ganlyniad i hyn, bydd angen ailbroffilio'r gyllideb a
phrosiectau.
Ar ôl craffu ar fanylion y
gyllideb a gynhwyswyd yn yr adroddiad, atgoffwyd yr Aelodau y byddai eu
sylwadau o'r cyfarfod hwn yn ffurfio rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad
ar gyfer cyllideb 2021/22. Gofynnwyd iddynt, os oedd ganddynt unrhyw gynigion
eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad oeddent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad
amgaeedig, fynd ati i gysylltu â swyddogion i'w hystyried.
Dogfennau ategol: