Cofnodion:
Derbyniodd yr Aelodau’r
wybodaeth ddiweddaraf am effaith COVID-19 ar y sector Twristiaeth yng
Nghastell-nedd Port Talbot a gweithgareddau Tîm Twristiaeth y Cyngor sydd ar
ddod.
Tynnodd swyddogion sylw at yr
effaith negyddol sylweddol y cafodd cychwyniad y pandemig ar y sector
Twristiaeth; roedd yr adroddiad yn manylu ar ffigurau a ddangosodd ostyngiad yn
nifer yr ymwelwyr (63.5%) a gostyngiad yn yr economi (66.4%). Nodwyd nad oedd y
data'n cynrychioli 12 mis llawn 2020, a bydd cyfyngiadau symud pellach a
gyhoeddwyd tua diwedd y flwyddyn yn effeithio ymhellach ar y data hwn.
Wrth symud ymlaen, nodwyd mai
un prif ffocws fyddai edrych ar sut y gellid helpu'r sector Twristiaeth er mwyn
iddo adfer o COVID-19; dros y 12 mis diwethaf roedd swyddogion wedi cadw mewn
cysylltiad â'r darparwyr twristiaeth.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y Tîm
Twristiaeth wedi gweithio ochr yn ochr â'r Timau Busnes i gefnogi pob busnes ar
draws y sector i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar yr holl gymorth
ariannol a oedd ar gael gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ac unrhyw
gymorth grant arall. Nodwyd bod y broses cymeradwyo llety gweithwyr allweddol
hefyd wedi'i rheoli gan y Tîm Twristiaeth, wrth weithio mewn partneriaeth â
Thîm Iechyd yr Amgylchedd, gan ei bod yn ofynnol i bob llety i ymwelwyr gau yn
unol â'r cyfyngiadau symud amrywiol; roedd y broses gymeradwyo'n caniatáu
mynediad i'r rheini yr oedd ganddynt reswm dilys dros fod yn yr ardal, y rheini
a oedd yn weithwyr allweddol a'r rheini yr oedd angen llety arnynt mewn
argyfwng.
Soniwyd bod swyddogion, drwy
gydol y pandemig, wedi cydweithio llawer â phartneriaid yn y sector cyhoeddus,
yn enwedig gyda Croeso Cymru, a bod cyswllt wedi bod â sefydliadau gan gynnwys
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i sicrhau bod ardaloedd, fel y sgydau, yn
cael eu rheoli yn y ffordd orau bosib; roedd y cyfarfodydd a'r cyfathrebiadau
hyn yn parhau.
Darparodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf am rai o brosiectau cyfredol y sectorau Twristiaeth, a
oedd yn cynnwys:
·
Hwb Cwm Nedd ym Maes Parcio Camlas Resolfen - roedd y
gwaith i adnewyddu hen gyfleuster bloc toiledau yn Resolfen bellach wedi'i
gwblhau a byddai'r deiliad newydd yn symud yno cyn bo hir;
·
Parc Rhanbarthol y Cymoedd Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig
Afan – roedd y cyngor wedi derbyn cyllid i wneud amrywiaeth o waith gan gynnwys
uwchraddio rhai cyfleusterau presennol o amgylch y toiledau a'r cawodydd,
ychwanegu ardal barcio ychwanegol, darparu mannau cysylltu trydan ar gyfer
faniau gwersylla, creu pwynt gwybodaeth ddigidol i ymwelwyr, gosod goleuadau
ychwanegol ac adeiladu ardal chwarae i blant;
·
Prif Gynllun Parc y Gnoll – roedd y cynllun datblygu
wedi'i gwblhau, ac fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd bydd y Tîm
Twristiaeth nawr yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr ym Mharc Gwledig y
Gnoll i gyflawni'r cynigion;
·
Marchnata Cyrchfannau – byddai'r ymgyrch hon, i lansio brand lle newydd
Castell-nedd Port Talbot, yn ddarn allweddol o waith. Soniwyd bod y dyddiad
lansio wedi'i ohirio oherwydd y pandemig;
·
Arall – roedd arwyddion wedi'u dosbarthu ar Lan Môr
Aberafan, yn ogystal â'r gampfa awyr agored.
Mynegodd yr Aelodau eu
diddordeb mewn bod yn rhan o'r Cynllun Rheoli Cyrchfannau newydd yn gynnar er
mwyn bwydo i mewn i'r gwaith o adolygu ac adnewyddu'r cynllun; gofynnwyd hefyd
a allai'r Aelodau gael rhagolwg o'r wefan newydd ar ryw adeg. Cadarnhaodd swyddogion
y byddai'r Pwyllgor yn ymwneud â'r gwaith hwn yn y dyfodol, fel y cytunwyd yn
flaenorol, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithdai amrywiol; oherwydd COVID-19 a
blaenoriaethu cefnogi'r sector twristiaeth drwy'r pandemig, nid oedd y cyngor
yn gallu lansio'r cynllun newydd eto.
Gofynnwyd, unwaith y byddai'r
pandemig ar ben, a allai'r Pwyllgor edrych yn ôl ar y diwydiant Twristiaeth a
sut yr oedd COVID-19 wedi effeithio arno'n gyffredinol. Soniwyd mai'r brif
ffynhonnell ddata ar gyfer hyn fyddai ystadegau STEAM, sef model a ddefnyddiwyd
i fesur yn gyson dros y 10+ mlynedd diwethaf. Cadarnhaodd swyddogion y gallent
hefyd ymchwilio i ddata ansoddol. Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd unrhyw fusnesau
wedi methu ar hyn o bryd oherwydd pwysau'r pandemig, a'u bod yn goroesi'r
hinsawdd bresennol o drwch blewyn.
Gofynnwyd i swyddogion a
oeddent wedi bod yn derbyn cymorth gan Croeso Cymru drwy gydol y pandemig, a
chadarnhawyd bod gan y cyngor berthynas waith dda â'r sefydliad a'u bod yn
falch o'r hyn a gyflawnwyd wrth weithio gyda nhw hyd yma.
Holodd yr Aelodau a allai'r
Pwyllgor ymweld â rhai o'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan COVID-19 pan
oeddent yn ailagor. Soniodd swyddogion y gellid trefnu hyn ac y byddai'n ffordd
dda o ddangos cefnogaeth.
Dywedwyd bod y cyfyngiadau
symud wedi helpu preswylwyr i ailgyfeirio'r hyn yr oedd gan Gastell-nedd Port
Talbot i'w gynnig a'i bod yn bwysig, ar ôl i gyfyngiadau gael eu codi, sicrhau
bod unigolion nad oeddent yn lleol yn darganfod hyn hefyd drwy hyrwyddo'r
Fwrdeistref Sirol. Amlygodd swyddogion fod y cysylltiadau rhwng y cynnig
twristiaeth, gwerthiannau yn y fwrdeistref sirol a dangos agweddau ehangach ar
yr ardal a'r hyn yr oedd ganddi i'w chynnig oll yn bwysig fel sail i'r cynnig
datblygu; roedd hyn yn hanfodol wrth ddenu mewnfuddsoddiad a gwerthu adeiladau,
tir neu eiddo i unigolion. Soniwyd bod newidiadau wedi'u gwneud o ran y ffordd
y gallai unigolion weithredu, ac roedd hyn yn rhywbeth a fyddai'n parhau; er
enghraifft, roedd ffyrdd newydd o weithio drwy systemau fel Microsoft Teams, a
oedd yn galluogi pobl i weithio gartref, a rhoi cyfle iddynt fyw mewn ardaloedd
gwahanol felly. Ychwanegwyd y gallai hyn o bosib werthu'r fwrdeistref sirol i
unigolion a rhoi hwb i'r economi mewn rhai ardaloedd.
Mewn perthynas â'r gampfa awyr
agored ar lan môr Aberafan, gofynnwyd a oedd lle i ychwanegu mwy ohonynt drwy'r
Sir. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn monitro defnydd o'r gampfa glan môr ac
os oedd yn boblogaidd, gellid ystyried eu dyblygu mewn ardaloedd amrywiol
eraill.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
swyddogion yn ymwybodol o unrhyw sefydliadau, yn enwedig sefydliadau
twristiaeth mwy a oedd wedi gwneud cais am y gronfa cadernid economaidd. Nodwyd
nad oedd swyddogion yn gallu rhoi sylwadau ar achosion unigol o ran y cyllid
grant a bod rhai nad oeddent yn gymwys, ond roeddent yn ymwybodol bod y
mwyafrif wedi cael eu croesawu a bod y Tîm Busnes wedi gweithio'n dda i
ddosbarthu arian i sectorau gwahanol. Hysbyswyd yr Aelodau mai un math yn unig
oedd y gronfa cadernid economaidd o amrywiaeth o wahanol gronfeydd cyllid y
gallai busnesau wneud cais amdanynt roedd nifer o ffactorau hefyd a oedd yn
pennu a fyddai busnes yn gymwys ar gyfer cyllid. Soniwyd mai'r rheswm pam yr
oedd cymaint o ffocws ar ddarparu cyngor i fusnesau oedd helpu i'w llywio
drwy'r gwahanol opsiynau ariannu a'r camau y byddai angen iddynt fynd drwyddynt
er mwyn cael cyllid. Ychwanegodd swyddogion fod nifer bach iawn o fusnesau yn y
fwrdeistref sirol heb dderbyn unrhyw gymorth ariannol o hyd; y rhain oedd y
gweithredwyr hunanarlwyo llai nad oeddent yn bodloni'r meini prawf ar hyn o
bryd.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
cynlluniau ar gyfer yr adeg pan gaiff y cyfyngiadau eu codi, ac roedd rhai
pryderon ynghylch y posibilrwydd y byddai’r cyngor yn cael llawer o ymwelwyr
pan fyddai hyn yn digwydd, ac roedd rhai preswylwyr eisoes wedi cwyno am nifer
y bobl a oedd yn ymweld ag ardaloedd penodol. Esboniodd swyddogion mai dyma un
o'r rhesymau pam eu bod ymatal rhag bwrw ymlaen â gweithgareddau marchnata ar
gyfer cyrchfannau penodol yn y sir, ac y byddai'n ddryslyd i unigolion pe bai'r
cyngor yn anfon negeseuon cymysg yn perswadio pobl i ymweld â'r ardal, tra'n
dweud wrthynt hefyd na allent ymweld â'r ardal. Nodwyd bod sgyrsiau wedi'u
cynnal gyda Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mewn perthynas â'r sgydau,
gan fod holl bartneriaid Gwlad y Sgydau (gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos)
wedi cytuno i beidio â'u hyrwyddo, ond roedd nifer mawr o bobl yn dal i ymweld â
nhw; er nad oedd y cyngor neu sefydliadau partner, fel Croeso Cymru, yn cynnal
unrhyw ymgyrchoedd marchnata oherwydd y ffactorau hyn, roedd negeseuon gan y
cyhoedd yn ymwneud â'r lleoedd hyn ar gyfryngau cymdeithasol yn annog pobl i
ymweld ac roedd hyn yn achosi problemau gyda'r preswylwyr gan eu bod yn anhapus
gyda nifer y twristiaid. Dywedwyd bod hyn yn anodd iawn ei reoli a chael y
cydbwysedd cywir, gan nad oedd y cyngor yn cael unrhyw effaith ar y bobl sy'n
rhannu'r negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol; fodd bynnag, roedd swyddogion yn
gweithio gyda phartneriaid i geisio rheoli'r negeseuon a oedd yn cael eu rhannu
â'r cyhoedd.
Gofynnwyd a oedd swyddogion yn
ymwybodol o unrhyw brinder sgiliau neu weithwyr llafur. Cadarnhawyd nad oedd
swyddogion yn ymwybodol o unrhyw brinder newydd ar hyn o bryd, er y byddai
unigolion sydd wedi gadael y diwydiant; mae'r sectorau hyn yn tueddu i fod yn
eithaf byrhoedlog, gyda phobl yn dod yn rhan o’r sector ac yn ei adael yn aml
gan mai dyma'r ffordd yr oedd yr economi'n gweithio. Hysbyswyd y Pwyllgor ei
bod yn anodd rhagweld prinder ar adeg pan oedd busnesau'n cael gwared ar staff
yn hytrach na gofalu amdanynt; fodd bynnag, bu prinder llafur erioed o ran
cogyddion a staff gwasanaeth yn y sector lletygarwch. Ychwanegwyd bod hyn yn
rhoi cyfle i'r sector twristiaeth a lletygarwch, ar ôl COVID-19, i geisio helpu
i recriwtio unigolion i'r swyddi hyn.
O ran cynlluniau ar gyfer
digwyddiadau a gwyliau, hysbyswyd yr Aelodau nad oedd yr awdurdod ar y cam i
ymgymryd â digwyddiadau; fodd bynnag, byddai angen gwneud penderfyniadau'n fuan
o ran rhai o'r digwyddiadau mwy eu maint y mae'r sir yn eu cynnal bob blwyddyn,
er enghraifft Ffair Castell-nedd a Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd; roedd y
rhesymeg dros hyn o ganlyniad i'r cam hollbwysig o gael proses gynllunio ar
waith, a oedd yn agosáu, sy'n cymryd tua 4-5 mis i'w chwblhau. Nododd
swyddogion, pan sefydlwyd y Tîm Twristiaeth, eu bod wedi cael swm o arian ar
gyfer cronfa digwyddiadau fach iawn fel rhan o'u cyllideb; y bwriad oedd lansio
hyn gyda'r cynllun rheoli cyrchfannau newydd, gan y gallai o bosib helpu i
adfer digwyddiadau a gwyliau pan oedd yn briodol eu cynnal. Nodwyd nad oedd
swyddogion am ymrwymo arian i ddigwyddiad a fyddai o bosib yn cael ei ganslo,
neu ar y llaw arall roi amser ac arian i ddigwyddiad na fyddai llawer o bobl yn
mynd iddo, gan nad yw pobl efallai'n teimlo'n gyfforddus yn mynd oherwydd nifer
y bobl y mae'r digwyddiadau hyn yn eu cynnwys ac agosrwydd pobl; Cadarnhaodd
swyddogion y byddai'r sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus iawn.
Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad
byr mewn perthynas â'r Cynllun Teithio Llesol; byddai adroddiad llawn yn cael
ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu ar Adfywio a Datblygu
Cynaliadwy a fydd yn manylu ar yr hyn y gwariwyd yr arian arno a sut roedd yr
agenda teithio llesol yn mynd rhagddi. O ran y mapiau teithio llesol, dywedwyd
wrth yr Aelodau fod y map rhwydwaith integredig ar waith, a’i fod yn cynnwys
cymysgedd o lwybrau tymor byr, canolig a hir, yr oedd rhai ohonynt yn ddyheadol;
pan baratowyd y map cychwynnol, gwnaed penderfyniad ymwybodol i gynnwys llawer
o lwybrau uchelgeisiol er mwyn darparu cysylltiad gwell â chymunedau'r cymoedd
a oedd wedi'u gwasgaru ledled y gymuned. Yn dilyn hynny, tynnwyd sylw at y
ffaith bod swyddogion wedi cyflwyno ceisiadau i Lywodraeth Cymru i geisio
cyllid i gyflawni'r cynlluniau hynny, ond hyd yma nid oeddent wedi llwyddo i
gael y ceisiadau penodol hyn; Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru'n ceisio
cael y fantais rifiadol o gael cynlluniau ym mhrif ganolfannau Castell-nedd,
Port Talbot a Phontardawe gan nad oedd y boblogaeth yng nghymunedau'r cymoedd
yn ddigon i ddangos bod gwerth am arian yn cael ei wario ar y llwybrau hynny.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y map yn cael ei adolygu eto eleni, a bod mwy o
ganllawiau wedi'u cyhoeddi yr oedd swyddogion yn gobeithio y byddent yn rhoi
mwy o hyblygrwydd o ran pa lwybrau y gallai Cynghorwyr Lleol eu cyflwyno; wrth
fynd drwy'r broses hon, gallai fod yn sail i gynlluniau mwy llwyddiannus, yn
enwedig yn ardaloedd y cymoedd. Ychwanegwyd bod swyddogion yn ystyried ehangu'r
rhwydwaith ar gyfer llwybrau hamdden a bod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn
cael ei hailystyried i ystyried y cynnig gwledig. Esboniodd swyddogion fod
ymgynghoriad cychwynnol wedi'i gynnal ar y mapiau teithio llesol, y cafwyd
ymateb da iddo; wrth i'r cynlluniau gael eu cyflwyno fel rhan o'r broses fapio,
bydd Cynghorwyr Lleol yn ymwneud â hyn.
Tynnodd yr Aelodau sylw at y
ffaith eu bod yn annog eu cymunedau i ddefnyddio'r grant LEADER a gofynnwyd a
oedd ffordd o symleiddio neu newid y broses ar gyfer derbyn cyllid yn y
dyfodol, er mwyn i'r grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau eraill allu
defnyddio'r cyllid i gyflawni'n effeithiol yn y cymunedau. Roedd swyddogion yn
ymwybodol bod y broses ymgeisio wedi'i symleiddio ar y ddealltwriaeth fod
grwpiau cymunedol bach yn gweld y broses yn anodd; roedd gwneud cais am gyllid
dan drothwy penodol bellach yn broses ymgeisio fer iawn ac roedd swyddogion yn
nhîm y Cynllun Datblygu Gwledig ar gael i ddarparu cymorth i lenwi'r cais a
chyflawni'r prosiect.
Yn dilyn craffu,
nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: