Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy - Dydd Gwener, 17eg Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Remotely via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 73 KB

·        25 Mehefin 2021

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin, 2021.

 

 

2.

Diweddariad ar Gynllun Gweithredu Castell-nedd Port Talbot Archwilio Cymru pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd swyddogion yr Aelodau am y Cynllun Gweithredu Adfywio diweddaredig yn dilyn archwiliad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.

Roedd yr Aelodau'n falch bod Swyddogion wedi ystyried llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan Archwilio Cymru. Nodwyd bod y sylwadau'n ymwneud â chyfathrebu'n galonogol; pe bai'r cyngor yn parhau i wneud cynnydd gyda'r argymhellion a nodir yn y cynllun gweithredu, gellid manteisio ar brosiectau yn y dyfodol, a gallai roi hyder i'r cyhoedd yn yr hyn yr oedd y cyngor yn ceisio'i gyflawni. Codwyd pwysigrwydd Buddion Cymunedol hefyd; roedd yn galonogol bod y cyngor wedi cydnabod ffordd well o ddelio â'r mater hwn, ac y bydd Swyddogion o hyn ymlaen yn cael eu cynnwys ar gam cynnar ar gyfer pob prosiect. Soniwyd bod hyn yn fuddiol er mwyn i'r cyhoedd fod yn ymwybodol o'r budd uniongyrchol o brosiect.

Cydnabu swyddogion y gellid gwneud gwelliannau bob amser i wahanol elfennau o wasanaethau; gallai rhai o'r rhwystrau i hyn fod yn gysylltiedig â systemau, adnoddau neu gyfuniad o'r ddau. Dywedwyd bod y cynllunydd cerrig milltir a gwblhawyd gyda'r Tîm Cyfryngau wedi'i adfywio, er mwyn iddynt gael syniad llawer gwell o ba brosiectau a oedd ar ddod; roedd swyddogion yn obeithiol y bydd hyn yn datrys rhai o'r problemau sy'n codi.

Yn dilyn y drafodaeth, cytunwyd y byddai'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn darparu adroddiad i'r Pwyllgor ar fuddion cymunedol.

Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw ddiweddariadau pellach ar fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer llifogydd. Cadarnhawyd bod y datganiad sefyllfa yr un fath ag a adroddwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor, a bod llawer o broblemau'n ymwneud â pharthau llifogydd ar draws y Fwrdeistref Sirol o hyd; roedd yn hysbys bod y mapiau llifogydd yn newid, gellid tynnu tir oddi ar y rhestr parthau llifogydd neu ei ychwanegu at y rhestr, a gallai'r rhesymeg y tu ôl i hyn yn aml fod yn anodd i bobl ei deall. Fodd bynnag, soniwyd bod yr wybodaeth am ardaloedd llifogydd yn gwella o flwyddyn i flwyddyn, a'i bod yn dod yn fwy cadarn a fydd yn helpu'r cyngor i wneud y penderfyniadau gorau posib o ran defnyddio tir. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod gan y Fwrdeistref Sirol rai ardaloedd heriol o ran lliniaru llifogydd, ac o ran bwrw ymlaen â datblygiadau roedd yn broses ddrud ac roedd risg, oherwydd mae'n bosib na fydd canlyniadau a ddymunir yn cael eu cyflawni ar ddiwedd y broses.

Gofynnwyd a oedd proses lle gallai'r awdurdod herio'r penderfyniadau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn eu gwneud o ran tir llifogydd. Cadarnhaodd swyddogion mai dim ond fesul achos y gellid herio CNC, gan y byddai angen profi nad oedd y datblygiad dan sylw yn mynd i rwystro unrhyw un arall; roedd hon yn broses anodd a hir, a fyddai'n golygu llawer o waith ymgynghori gan arbenigwyr allanol. Dywedwyd bod problemau llifogydd yn dod yn fwy cyffredin, a bod CNC yn gwneud eu gorau gyda'r adnoddau wrth law, er mwyn deall ble bydd yr effeithiau. Hysbyswyd yr Aelodau pan fydd y cyngor yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Prydlesu 5-6 Heol Llundain, Castell-nedd i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad mewn perthynas â phrydles newydd ar gyfer 5-6 Heol Llundain yng Nghastell-nedd, a fyddai'n galluogi parhau i ddarparu gwasanaethau ymyriad camddefnyddio sylweddau.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd yn hysbys a oedd cyflawnwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn defnyddio'r gwasanaethau yn yr eiddo dan sylw; gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i fonitro hyn. Dywedwyd na ellid cysylltu'r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd yn uniongyrchol â phawb a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau yn Heol Llundain. Darparwyd sicrwydd fod llawer o waith yn cael ei wneud, o ran gorfodi a chefnogaeth, i sicrhau ei fod yn hysbys pwy oedd cyflawnwyr yr YG ac i sicrhau bod yr unigolion hyn, lle y bo'n bosib, yn cael mynediad at wasanaethau cefnogi; cyfeiriwyd at Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg y Diamddiffyn sy'n Cysgu ar y Stryd (SV MARAC), a hysbyswyd yr Aelodau fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng cydweithwyr ar lefel weithredol. Soniwyd bod Heddlu De Cymru wedi darparu gwybodaeth am y rheini sy'n cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol i grŵp craidd o unigolion, ac mae Swyddogion wedi awgrymu y dylid ymchwilio'n ddwfn i'r achosion hyn i nodi ffactorau megis, a oeddent yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt neu a oedd angen anogaeth bellach arnynt.

Gofynnwyd a oedd cydberthynas rhwng y cyfleuster yn Heol Llundain a'r YG yng nghanol tref Castell-nedd. Roedd swyddogion yn cydnabod bod problem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Fwrdeistref Sirol, ond ni ellid rhoi'r bai ar bawb sy'n mynd i'r cyfleuster penodol hwn; pe na bai'r gwasanaethau cefnogi ar waith, byddai'r problemau YG yn llawer gwaeth. Soniwyd bod y gwasanaethau ar waith i helpu unigolion i wella a sefydlogi'u bywydau, a'u hatal rhag troseddu, aildroseddu a/neu eu hatal rhag cael eu hecsbloetio. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cychwyn ar brosiect trawsnewid mawr a fydd yn edrych ar ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau ar draws y rhanbarth a sut y gellir eu gwella; bydd rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys nodi a oedd gwasanaethau yn y lle iawn ac os cawsant eu cyflunio yn y ffordd gywir. Ychwanegwyd bod lleoliad y gwasanaethau hyn yn bwysig gan fod angen iddynt fod mewn ardaloedd lle gall pobl gael mynediad atynt.

Gofynnodd yr Aelodau pam y nodwyd bod yr eiddo'n cael ei brydlesu am rent rhad. Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr adeilad wedi'i brynu a'i adnewyddu gyda chyfalaf y Gronfa Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) Llywodraeth Cymru, a'r tâl yn ôl am hyn oedd y byddai'r eiddo'n cael ei restru fel eiddo rhent rhad.

Soniwyd y byddai unigolion na fyddant byth yn ymwneud â'r gwasanaethau cefnogi, ond roedd yn bwysig i'r cyngor wneud y broses yn haws i'r rheini a allai ymwneud ag ef; roedd rhai enghreifftiau o waith a oedd wedi'i gwblhau i helpu unigolion gyda hyn yn cynnwys allgymorth pendant a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 372 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Blaenraglen Waith Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy ar gyfer 2021/22.

 Amlygwyd bod gweithdy Blaenraglen Waith y Pwyllgor wedi'i drefnu ar gyfer dydd Mawrth 21 Medi.