Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd y pwyllgor graffu ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Prydlesu 5-6 Heol Llundain,
Castell-nedd i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Derbyniodd y Pwyllgor
adroddiad mewn perthynas â phrydles newydd ar gyfer 5-6 Heol Llundain yng
Nghastell-nedd, a fyddai'n galluogi parhau i ddarparu gwasanaethau ymyriad
camddefnyddio sylweddau.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn cyfeirio at y ffaith nad oedd yn hysbys a oedd cyflawnwyr
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn defnyddio'r gwasanaethau yn yr eiddo dan
sylw; gofynnwyd a oedd unrhyw gynlluniau i fonitro hyn. Dywedwyd na ellid
cysylltu'r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Castell-nedd yn
uniongyrchol â phawb a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau yn Heol Llundain.
Darparwyd sicrwydd fod llawer o waith yn cael ei wneud, o ran gorfodi a
chefnogaeth, i sicrhau ei fod yn hysbys pwy oedd cyflawnwyr yr YG ac i sicrhau
bod yr unigolion hyn, lle y bo'n bosib, yn cael mynediad at wasanaethau
cefnogi; cyfeiriwyd at Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg y Diamddiffyn sy'n
Cysgu ar y Stryd (SV MARAC), a hysbyswyd yr Aelodau fod cyfarfodydd rheolaidd
yn cael eu cynnal rhwng cydweithwyr ar lefel weithredol. Soniwyd bod Heddlu De
Cymru wedi darparu gwybodaeth am y rheini sy'n cyflawni ymddygiad
gwrthgymdeithasol i grŵp craidd o unigolion, ac mae Swyddogion wedi awgrymu
y dylid ymchwilio'n ddwfn i'r achosion hyn i nodi ffactorau megis, a oeddent yn
cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt neu a oedd angen anogaeth bellach
arnynt.
Gofynnwyd a oedd cydberthynas
rhwng y cyfleuster yn Heol Llundain a'r YG yng nghanol tref Castell-nedd. Roedd
swyddogion yn cydnabod bod problem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y Fwrdeistref
Sirol, ond ni ellid rhoi'r bai ar bawb sy'n mynd i'r cyfleuster penodol hwn; pe
na bai'r gwasanaethau cefnogi ar waith, byddai'r problemau YG yn llawer gwaeth.
Soniwyd bod y gwasanaethau ar waith i helpu unigolion i wella a sefydlogi'u
bywydau, a'u hatal rhag troseddu, aildroseddu a/neu eu hatal rhag cael eu
hecsbloetio. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cychwyn ar
brosiect trawsnewid mawr a fydd yn edrych ar ddarparu gwasanaethau
camddefnyddio sylweddau ar draws y rhanbarth a sut y gellir eu gwella; bydd
rhan o'r gwaith hwn yn cynnwys nodi a oedd gwasanaethau yn y lle iawn ac os
cawsant eu cyflunio yn y ffordd gywir. Ychwanegwyd bod lleoliad y gwasanaethau
hyn yn bwysig gan fod angen iddynt fod mewn ardaloedd lle gall pobl gael
mynediad atynt.
Gofynnodd yr Aelodau pam y
nodwyd bod yr eiddo'n cael ei brydlesu am rent rhad. Tynnwyd sylw at y ffaith
bod yr adeilad wedi'i brynu a'i adnewyddu gyda chyfalaf y Gronfa Gweithredu ar
Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) Llywodraeth Cymru, a'r tâl yn ôl am hyn oedd y
byddai'r eiddo'n cael ei restru fel eiddo rhent rhad.
Soniwyd y byddai unigolion na
fyddant byth yn ymwneud â'r gwasanaethau cefnogi, ond roedd yn bwysig i'r
cyngor wneud y broses yn haws i'r rheini a allai ymwneud ag ef; roedd rhai
enghreifftiau o waith a oedd wedi'i gwblhau i helpu unigolion gyda hyn yn
cynnwys allgymorth pendant a sefydlu'r gwasanaeth presgripsiwn mynediad cyflym.
Mynegwyd pryderon ynglŷn
â'r ffaith bod y cyfleuster yn agos at Erddi Victoria, a bod adroddiadau wedi
bod am unigolion yn mynd i'r ardal hon i ddefnyddio sylweddau; roedd yn bwysig
ceisio sicrhau nad oedd camddefnyddio sylweddau ac YG yn effeithio ar y sawl a
oedd yn byw yn y gymuned. Amlygwyd, lle bynnag y byddai'r math hwn o gyfleuster
yn cael ei leoli, y byddai bob amser ardal lle bydd grwpiau o unigolion yn
cyfarfod ac yn dewis ymddwyn mewn ffordd benodol.
Cafwyd trafodaeth bellach
ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau. Eglurwyd bod camddefnyddio sylweddau'n
cynnwys camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; roeddent yn mynd law yn llaw, er
bod unigolion yn gwneud penderfyniadau gwahanol gan ddibynnu a oeddent dan
ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Dywedodd swyddogion fod angen targedu
unigolion a oedd yn cam-drin?? pobl ddiamddiffyn, yn ogystal â dioddefwyr eu
hunain.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod
ymyriad cynnar yn allweddol, ond deallwyd bod adnoddau'n broblem; Rhoddodd
swyddogion sicrwydd i'r Pwyllgor fod yr asiantaethau cywir ar waith er mwyn
brwydro yn erbyn y problemau dan sylw a mynd i'r afael â hwy. Nodwyd mai'r
ymagwedd bresennol gan Heddlu De Cymru oedd mynd ati i orfodi, ond hefyd edrych
ar sut y gallant annog pobl i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020
Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf a throsolwg i'r Aelodau am Gynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, a
oedd yn cynnwys manylion yr hyn a gyflawnwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn
ystod y rhaglen gyfredol.
Roedd yn amlwg bod rhai o'r
prosiectau diweddaraf fel petaent yn cyflawni amcanion yn well na rhai o'r
prosiectau cynharach; holwyd beth oedd wedi sbarduno'r newid hwn yn y
prosiectau diweddarach.
Dywedodd swyddogion fod mwy o
arian ar gael ar ddechrau'r broses; byddai pobl yn cyflwyno'u syniadau a
byddai'r tîm yn ariannu rhywfaint ohono gyda system gadarn ar waith. Yn dilyn y
gwerthusiad canol tymor yn 2020, nodwyd bod ymagwedd fwy penodol wedi'i gosod
wrth geisio trefnu bod y gwaith hwn yn cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol ac
elfennau tlodi'r cyngor; roedd hyn yn unol â'r Strategaeth Datblygu Lleol
(SDLl) i sicrhau bod rhai o'r syniadau corfforaethol yn cael eu cyflawni.
Hysbyswyd yr Aelodau fod y gwerthusiad canol tymor yn rhoi cyfle i Swyddogion
wneud newidiadau, gan ystyried unrhyw faterion a oedd wedi codi o'r blaen,
oherwydd cymhwysedd, neu gamddealltwriaeth o'r hyn y gellid ei gyflawni yn y
broses hon; cwblhawyd llawer o waith ymgysylltu i roi gwell dealltwriaeth i
bobl o'r broses, ac i geisio cael rhagor o bobl i ymgysylltu gan gynnwys y
rheini oedd heb wneud hynny o'r blaen, a cheisio newid meddylfryd pobl o ran yr
hyn yr oeddent yn credu bod y rhaglen yn ymwneud ag ef. Ychwanegwyd bod y
rhaglen wedi'i hymestyn i fis Mawrth 2022 er mwyn defnyddio'r tanwariant; roedd
achosion o'r pandemig wedi effeithio ar ffactorau fel amserlenni.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
unrhyw arian ar ôl i brosiectau ychwanegol gael eu datblygu, cyn i'r rhaglen
ddod i ben yn 2022. Esboniwyd bod yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi bod 14 o
brosiectau newydd wedi bod o fewn y 12 mis diwethaf, ond roedd hyn wedi newid i
16 yn ddiweddar; felly roedd yr arian yn lleihau. Cadarnhaodd swyddogion fod
£81,000 ar ôl ar hyn o bryd, ond roedd un prosiect gyda'r Grŵp Gweithredu
Lleol (GGLl) yr oedd angen gwneud penderfyniad yn ei gylch, a phrosiect arall a
oedd yn mynd i gael ei gyflwyno i'r GGLl yn fuan; roedd y prosiectau hyn yn
werth cyfanswm o £64,000, felly pe baent yn cael eu cymeradwyo byddai tua
£17,000 ar ôl. Soniwyd nad oedd sicrwydd y byddent yn cael eu cymeradwyo, ac fel y cyfryw gallai'r swm
sy'n weddill amrywio. Roedd swyddogion yn dal i weithio gydag unigolion a oedd
yn cyflwyno syniadau; bydd y broses hon ar sail y cyntaf i'r felin ar gyfer
gweddill y cronfeydd.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â chyfleoedd ariannu yn y dyfodol a sut roedd y cyngor yn mynd i
fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a allai ddod i'r amlwg. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod gan y GGLl unigolion amrywiol a oedd yn ymwneud â'r grŵp gan
gynnwys pobl fusnes, y trydydd sector ac Aelodau Lleol; nodwyd ei fod yn
rhwydwaith da iawn ar gyfer yr ardaloedd gwledig, a byddai Swyddogion yn
gobeithio gweld hyn yn parhau neu o leiaf i gadw'r cysylltiadau. O ran cyllid
yn y dyfodol, dywedwyd bod Swyddogion yn trafod hyn yn rhanbarthol gyda
Llywodraeth Cymru, er mwyn nodi'r camau a'r prosesau nesaf; Roedd swyddogion yn
awyddus i nodi'r hyn a oedd yn digwydd nesaf gyda'r cyllid newydd.
Codwyd pwysigrwydd lobïo, yn
enwedig ar gyfer ardaloedd lle mae lefelau uchel o dlodi ac amddifadedd;
defnyddiwyd yr arian o'r rhaglen hon yn dda yn y meysydd a oedd yn profi hyn.
Gofynnwyd a fydd y lobïo'n parhau ac a oedd cyfle i ehangu'r rhaglen hon
ymhellach. Cadarnhaodd swyddogion fod posibilrwydd y gellir ei hehangu tan
2024; darparwyd cyfleoedd i ehangu ymhellach, ond dim ond gyda'r arian yr oedd
gan bob awdurdod lleol ar ôl Nodwyd bod y cyngor wedi gofyn am ehangiad, ond
nid oedd digon o arian ar gyfer prosiectau pellach; llwyddodd y cyngor i
ailbroffilio'r arian er mwyn gallu cael blwyddyn neu ddwy ychwanegol ar waith
(hyd at fis Mawrth 2022). Hysbyswyd yr Aelodau fod bwlch rhwng y cyllid a oedd
ar gael yn awr a'r cyllid newydd a oedd ar ddod; felly roedd yn bwysig i
Swyddogion gael gwybod beth roedd Llywodraeth Cymru yn ei gynllunio.
Esboniodd yr Aelodau fod
cymhlethdod sicrhau cyllid weithiau'n effeithio ar grwpiau cymunedol, ac yn
golygu na fyddai llawer o syniadau prosiect gwych yn cael eu cyflawni oherwydd
yr anhawster o fynd drwy'r broses. O ran cefnogi'r gymuned, esboniwyd bod y
Cynllun Datblygu Gwledig yn gam cyntaf a'i fod i fod yn arloesol ac yn
greadigol, felly'n rhagorol ar gyfer cefnogi grwpiau cymunedol; roedd hwyluswyr
hefyd sy'n gweithio gyda'r grwpiau i helpu i ddatblygu'r prosiect.
Trafododd y Pwyllgor y
materion a oedd yn ymwneud ag arian cyfatebol; Roedd swyddogion yn cydnabod yr
anawsterau gyda hyn ac roeddent wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru am eu
pryderon. Soniwyd, lle y bo'n bosib, y gellid defnyddio amser gwirfoddolwyr yn
hytrach na defnyddio arian corfforol, gan ei fod yn bwysau i ddarparu arian
cyfatebol.
Soniwyd y gallai fod angen
gwaith cynnal ar rai o'r prosiectau a restrwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd;
gofynnwyd a oedd cost cynnal wedi'i chynnwys yn y rhaglen neu a fyddai cymorth
ariannol ar gael. Cadarnhaodd swyddogion fod strategaeth ymadael ac elfen
gynaliadwyedd wedi'u cynnwys yn y broses ymgeisio, felly byddai angen i
gynigwyr feddwl am ddyfodol y prosiect. Dywedwyd nad oedd arian penodol ar
gyfer cynnal prosiectau, ond mae'r tîm yn helpu prosiectau i nodi cyllid
pellach os oes angen.
Gofynnodd yr Aelodau a oedd
ceisiadau'n dal i gael eu derbyn ac a oedd dyddiad cau. Amlygwyd bod y tîm yn
dal i dderbyn ceisiadau ar hyn o bryd ac y byddai'n croesawu unrhyw syniadau
i'w cyflwyno; roedd un ymresymiad am hyn o ganlyniad i'r ffaith nad oedd
sicrwydd y byddai'r GGLl yn derbyn y prosiectau a gyflwynwyd. O ran amserlenni,
soniwyd y byddai'r rhaglen yn dod i ben ym mis Mawrth 2022, ond roedd angen
neilltuo ychydig fisoedd i Swyddogion i'w chau a'i gweinyddu; ar hyn o bryd
roedd angen gorffen prosiectau tua mis Rhagfyr/Ionawr, a oedd yn amserlen dynn
i roi'r prosiectau ar waith.
Holwyd a fyddai'r Etholiad ym
mis Mai 2022 yn cael unrhyw effaith ar gynnydd y rhaglen; pe na bai unrhyw
Aelodau Lleol, sy'n ymwneud â phrosiectau, yn cael eu hailethol. Cadarnhaodd
swyddogion na fyddai hyn yn effeithio ar y broses gan y byddai angen neilltuo'r
arian i brosiectau ym mis Rhagfyr, a oedd cyn i'r Etholiad gael ei gynnal.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.