Cofnodion:
Hysbysodd swyddogion
yr Aelodau am y Cynllun Gweithredu Adfywio diweddaredig yn dilyn archwiliad a
gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.
Roedd yr Aelodau'n
falch bod Swyddogion wedi ystyried llawer o'r awgrymiadau a wnaed gan Archwilio
Cymru. Nodwyd bod y sylwadau'n ymwneud â chyfathrebu'n galonogol; pe bai'r
cyngor yn parhau i wneud cynnydd gyda'r argymhellion a nodir yn y cynllun
gweithredu, gellid manteisio ar brosiectau yn y dyfodol, a gallai roi hyder i'r
cyhoedd yn yr hyn yr oedd y cyngor yn ceisio'i gyflawni. Codwyd pwysigrwydd
Buddion Cymunedol hefyd; roedd yn galonogol bod y cyngor wedi cydnabod ffordd
well o ddelio â'r mater hwn, ac y bydd Swyddogion o hyn ymlaen yn cael eu cynnwys
ar gam cynnar ar gyfer pob prosiect. Soniwyd bod hyn yn fuddiol er mwyn i'r
cyhoedd fod yn ymwybodol o'r budd uniongyrchol o brosiect.
Cydnabu swyddogion y
gellid gwneud gwelliannau bob amser i wahanol elfennau o wasanaethau; gallai
rhai o'r rhwystrau i hyn fod yn gysylltiedig â systemau, adnoddau neu gyfuniad
o'r ddau. Dywedwyd bod y cynllunydd cerrig milltir a gwblhawyd gyda'r Tîm
Cyfryngau wedi'i adfywio, er mwyn iddynt gael syniad llawer gwell o ba
brosiectau a oedd ar ddod; roedd swyddogion yn obeithiol y bydd hyn yn datrys
rhai o'r problemau sy'n codi.
Yn dilyn y drafodaeth,
cytunwyd y byddai'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio yn darparu adroddiad i'r Pwyllgor
ar fuddion cymunedol.
Gofynnodd yr Aelodau a
oedd unrhyw ddiweddariadau pellach ar fformiwla Llywodraeth Cymru ar gyfer
llifogydd. Cadarnhawyd bod y datganiad sefyllfa yr un fath ag a adroddwyd yn
flaenorol i'r Pwyllgor, a bod llawer o broblemau'n ymwneud â pharthau llifogydd
ar draws y Fwrdeistref Sirol o hyd; roedd yn hysbys bod y mapiau llifogydd yn
newid, gellid tynnu tir oddi ar y rhestr parthau llifogydd neu ei ychwanegu at
y rhestr, a gallai'r rhesymeg y tu ôl i hyn yn aml fod yn anodd i bobl ei
deall. Fodd bynnag, soniwyd bod yr wybodaeth am ardaloedd llifogydd yn gwella o
flwyddyn i flwyddyn, a'i bod yn dod yn fwy cadarn a fydd yn helpu'r cyngor i
wneud y penderfyniadau gorau posib o ran defnyddio tir. Tynnodd swyddogion sylw
at y ffaith bod gan y Fwrdeistref Sirol rai ardaloedd heriol o ran lliniaru
llifogydd, ac o ran bwrw ymlaen â datblygiadau roedd yn broses ddrud ac roedd
risg, oherwydd mae'n bosib na fydd canlyniadau a ddymunir yn cael eu cyflawni
ar ddiwedd y broses.
Gofynnwyd a oedd
proses lle gallai'r awdurdod herio'r penderfyniadau y mae Cyfoeth Naturiol
Cymru (CNC) yn eu gwneud o ran tir llifogydd. Cadarnhaodd swyddogion mai dim
ond fesul achos y gellid herio CNC, gan y byddai angen profi nad oedd y
datblygiad dan sylw yn mynd i rwystro unrhyw un arall; roedd hon yn broses
anodd a hir, a fyddai'n golygu llawer o waith ymgynghori gan arbenigwyr
allanol. Dywedwyd bod problemau llifogydd yn dod yn fwy cyffredin, a bod CNC yn
gwneud eu gorau gyda'r adnoddau wrth law, er mwyn deall ble bydd yr effeithiau.
Hysbyswyd yr Aelodau pan fydd y cyngor yn darparu ei ddata ar gyfraddau llif
etc., y bydd CNC yn edrych ar y data ac efallai y bydd angen newid eu model
ychydig; felly, bydd eu model bob amser yn statws sy'n newid yn gyson, a oedd
yn peri pryder i ddatblygwyr gan y byddai'n ychwanegu at yr elfen risg.
Gofynnwyd i swyddogion
a oedd diweddariad ar y cynnydd o gael arian o Gronfa Codi’r Gwastad.
Cadarnhawyd na chafwyd unrhyw newyddion pellach am y Gronfa Codi’r Gwastad na'r
Gronfa Adnewyddu Cymunedol; pe bai'r cyngor yn llwyddo i gael arian o'r gronfa
hon, roedd ganddynt broffil gwariant ar waith am weddill y flwyddyn. Soniodd
swyddogion fod llawer o sefydliadau a fu'n rhan o'r broses ymgeisio wedi gorfod
newid eu proffil gwariant yn llwyr oherwydd amserlenni a'r faith nad ydynt wedi
cael cadarnhad o'r arian. Y gobaith oedd y byddai'r cyngor wedi clywed pe bai'n
llwyddiannus ai peidio yn ystod cyfnod yr haf, ond nid oedd gan Swyddogion
unrhyw arwydd o hyd o bryd y byddent yn derbyn y penderfyniad; roedd hyn yn
peri problem i'r cyngor gan y byddai'n anodd cael y gwariant allan erbyn diwedd
y flwyddyn ariannol, sef mis Mawrth 2022. Cadarnhaodd swyddogion fod angen
iddynt ddechrau gwneud penderfyniadau'n fuan, gan fod angen cwblhau gwaith ar y
prosiectau; fodd bynnag, oherwydd nad oedd unrhyw arwydd ynghylch p'un a oedd y
cyngor wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, yr her fydd gorfod gwneud y gwaith
mewn risg ac efallai na fyddai modd ailhawlio rhai o'r costau.
Cynhaliwyd trafodaeth
mewn perthynas â'r Gronfa Ffyniant Gyffredin; mewn perthynas â hyn, tynnodd yr
Aelodau sylw at y ffaith y byddai'n fuddiol cydweithio ag Aelodau Lleol ar
gyfer ardaloedd canol trefi. Dywedwyd y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn
dilyn y Gronfa Codi'r Gwastad; y gobaith oedd y byddai'r amserlenni a roddwyd
ar gyfer hyn yn well na'r rhai blaenorol, er mwyn i Swyddogion gyflwyno
ceisiadau'n effeithiol. Hysbyswyd yr Aelodau fod Swyddogion eisoes wedi dechrau
gweithio ar syniadau prosiect i'w trafod ag Aelodau yn y dyfodol agos; bydd hyn
yn fuddiol gan y bydd yr Aelodau wedi gweld rhai o'r prosiectau yr oedd
Swyddogion yn gobeithio'u cyflwyno, cyn y digwyddiad.
Holwyd a oedd syniad
ynghylch beth fyddai'r blaenoriaethau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Soniodd swyddogion fod Llywodraeth y DU wedi datgan ei bod wedi cael ei llethu
gan geisiadau ar gyfer y Gronfa Codi'r Gwastad, a dyna pam yr oedd oedi yn y
penderfyniad; roedd hyn yn arwydd na fydd digon o arian ar gael oherwydd nifer
y ceisiadau a gyflwynwyd.
Nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: