Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Strategaeth Adferiad PDF 559 KB Cofnodion: Cyflwynwyd strategaeth ddrafft i'r aelodau ar sefydlogi, y cyfnod rhwng
ymateb ac adferiad, yn dilyn cychwyniad COVID-19. Roedd y strategaeth yn nodi
fframwaith cyffredinol a fyddai'n cefnogi ymagwedd gyson a chydlynol wrth i'r
cyngor symud tuag at adferiad. Nodwyd bod y strategaeth ddrafft yn cael ei
chyflwyno i bob Pwyllgor Craffu i dderbyn sylwadau cyn cyflwyno i'r Cabinet ar
30 Gorffennaf 2020 i'w chymeradwyo. Rhoddodd swyddogion drosolwg byr o gynnwys y strategaeth, gan esbonio ei
bod wedi'i rhannu'n dair adran a oedd yn cynnwys edrych yn ôl ar yr hyn a
wnaeth y cyngor yn ystod cyfnod ymateb yr argyfwng, edrych ymlaen wrth i'r DU
symud allan o'r cyfnod ymateb a map ffordd o gamau gweithredu. Wrth edrych yn ôl ar yr hyn a wnaeth y cyngor yn ystod y cyfnod ymateb,
tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer o gamau allweddol wedi'u cymryd gan gynnwys
sefydlu gwasanaeth cyfathrebu saith niwrnod yr wythnos fel y gellid anfon
canllawiau gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru pan
oeddent ar gael. Ychwanegwyd bod y Cyngor wedi cau gwasanaethau i helpu i
leihau lledaeniad y feirws ac wedi newid y ffordd yr oedd rhai gwasanaethau
hanfodol yn gweithredu er mwyn gweithredu'n ddiogel, er enghraifft y gwasanaeth
sbwriel. Soniodd swyddogion fod rhan gyntaf y strategaeth hefyd yn nodi'r
newidiadau a wnaed mewn perthynas ag arweinyddiaeth a llywodraethu, gan gynnwys
defnyddio'r ddarpariaeth Cam Gweithredu Brys a nodir yn y Cyfansoddiad, i
sicrhau bod penderfyniadau allweddol yn dal i gael eu gwneud yn ystod y cyfnod
ymateb. Esboniwyd ail ran y strategaeth i'r Aelodau, a oedd yn cynnwys edrych
ymlaen wrth i'r DU symud allan o'r cyfnod ymateb i gyfnod sefydlogi, sef y cam
cyn symud i'r cyfnod adfer. Esboniwyd bod tri maes wedi'u nodi fel canolbwynt
wrth i'r Cyngor symud ymlaen: 1. Y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu 2. Sefyll gwasanaethau a swyddogaethau'r Cyngor 3. Deall ac ymateb i'r effaith y mae'r firws wedi'u cael ar ddinasyddion,
sefydliadau a busnesau ledled Castell-nedd Port Talbot Ychwanegwyd bod yr ail ran hefyd yn nodi'r newidiadau y mae'n ofynnol eu
gwneud o ran arweinyddiaeth a llywodraethu, yn ogystal â rhai o'r risgiau a'r
materion a nodwyd y bydd angen eu rheoli wrth i'r cyngor fynd ati i roi'r
strategaeth ar waith. Cyflwynwyd trydedd ran y strategaeth fel map ffordd o gamau gweithredu a
oedd wedi'i fframio ar sail system goleuadau traffig, a oedd yn nodi sut i
symud o sefyllfa o gyfyngiadau symud llwyr, drwy'r system goleuadau traffig, i
sefyllfa lle mae gwasanaethau'n gweithredu unwaith eto. Nodwyd bod nifer o'r
gwasanaethau ar y map ffordd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Craffu Addysg,
Sgiliau a Diwylliant. Gofynnodd yr Aelodau am adborth ar sut roedd gweithio gyda phobl ifanc o bell wedi mynd, a nodwyd bod yr adborth wedi bod yn gadarnhaol, er bod gan y gwasanaeth ieuenctid staff a gafodd eu hadleoli i'r gwasanaeth 'Safe and Well', felly roedd yn rhaid i weddill y staff reoli'r nifer y gellid ymdrin â hwy yn y gwasanaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau
gyflwyniad ar y ddarpariaeth gwasanaethau a'r cynllunio adferiad presennol gan
y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
Castell-nedd Port Talbot, drwy gydol y cyfyngiadau symud, wedi darparu taliad
wythnosol o £19.50 i bob plentyn cofrestredig a oedd â hawl i Brydau Ysgol am
Ddim (PYDd) i sicrhau eu bod yn cyrraedd mwy o blant yn y gymuned. Nodwyd bod
bagiau casglu a mynd wedi’u darparu yn y gorffennol, fodd bynnag 20% yn unig
o'r disgyblion PYDd d defnyddiodd y rhain a bellach, drwy'r cynllun talu, roedd
95% o ddisgyblion PYDd yn derbyn prydau bwyd. Cadarnhaodd swyddogion fod
cyfanswm o £1.1 miliwn wedi'i dalu i deuluoedd cymwys hyd yma ac y byddai hyn
yn parhau drwy'r haf ac o bosib i bythefnos cyntaf y tymor newydd. Fel y nodwyd yn y cyflwyniad a
ddosbarthwyd, mae'r Swyddogion yn disgwyl y byddai bron pob aelod o staff yn
gallu dychwelyd i'r gwaith ym mis Medi, er bod 12 aelod o staff addysgu'n
gwarchod ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai asesiadau risg yn
cael eu cynnal gan bob ysgol i egluro'r trefniadau ar gyfer y staff addysgu a
oedd yn gwarchod, fel eu bod yn gallu dychwelyd i'r gwaith ym mis Medi.
Ychwanegwyd y bydd ysgolion yn cynnal asesiadau risg ar gyfer pob gweithgaredd
ac y byddai hynny rhywbryd ar ddiwedd mis Awst (gyda dyddiad cau o 27 Awst
2020). O ran cynhwysiant a lles,
dywedwyd y rhoddwyd cymorth i ddisgyblion drwy gydol y cyfyngiadau symud;
parhawyd â hyn gyda chymorth gwasanaeth TG y cyngor, a roddodd ddarpariaethau
ar waith yn gyflym iawn ac a roddodd yr offer hanfodol i'r timau i'w galluogi i
barhau i wasanaethu'r plant diamddiffyn yng Nghastell-nedd Port Talbot. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y gwasanaeth cynhwysol wedi gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau
Cymdeithasol i ddatblygu'r gofrestr dysgwyr diamddiffyn a bod y staff wedi
cydweithio fel rhan o grŵp amlasiantaeth, i drafod darpariaeth, mynd i'r
afael â materion a sicrhau bod y gofrestr yn cael ei diweddaru'n wythnosol.
Ychwanegwyd bod y gwaith hwn yn bwysig iawn oherwydd y pryderon a oedd gan y
staff ynghylch plant diamddiffyn gartref; roedd y gofrestr yn cynnwys system
CAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) i fesur risgiau'r plant a'r cymorth yr oeddent yn ei
dderbyn yn wythnosol, fel bod y staff yn gallu rhoi digon o gefnogaeth ar waith
lle'r oedd ei angen. Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â chyfleusterau hamdden a oedd yn cynnwys llyfrgelloedd, Parc Margam a Hamdden
Celtic. Nodwyd bod y staff wedi cymryd ymagwedd ofalus iawn wrth ailagor
llyfrgelloedd a Pharc Margam a'u bod bob amser wedi dilyn canllawiau gan
Lywodraeth Cymru. Tynnodd swyddogion sylw at y rhaglen ailagor ar gyfer
llyfrgelloedd a ddisgrifiwyd yn y cyflwyniad, yn ogystal â sôn am drefniadau
ailagor Parc Margam, yr ymdriniwyd â hwy fesul cam. O ran Hamdden Celtic, soniwyd bod yr aelodau, ar 17 Mawrth 2020, wedi cytuno i gynnal proses gaffael a oedd yn cynnwys cwblhau gwahoddiad ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |